– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a gwasanaethau Cymdeithasol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn falch ddoe o gyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ynghyd â’i femorandwm esboniadol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Bil yn cadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gymryd yr awenau o ran iechyd y cyhoedd a gwneud popeth yn ein gallu i wella a diogelu mwy ar iechyd pobl yng Nghymru.
Rydym yn gwybod bod yr heriau iechyd y cyhoedd yr ydym yn eu hwynebu yn esblygu’n gyson ac yn dod yn fwyfwy cymhleth. Mae angen ymateb cynhwysfawr ac amlochrog i fynd i’r afael â nhw. Er bod gan ddeddfwriaeth swyddogaeth bwysig a phendant, ni all gyflawni yr holl welliannau ac amddiffyniadau yr ydym yn dymuno eu gweld ar ei phen ei hun. Yn hytrach, mae'n un rhan annatod o agenda ehangach—agenda sy'n cynnwys ein gwaith ni ar draws ehangder y Llywodraeth i fynd i'r afael â’r hyn sy’n achosi afiechyd, yn ogystal â'n gwasanaethau iechyd cyhoeddus, ein rhaglenni, ein polisïau a’n hymgyrchoedd pwrpasol. Gyda'i gilydd, maent yn gwneud cyfraniad cadarnhaol cronnus, ac yn ein helpu i atal niwed y gellir ei osgoi a gwireddu ein dyheadau ar gyfer Cymru iach ac egnïol, ac mae pob un ohonynt yn cysylltu'n agos ag egwyddorion gofal iechyd darbodus.
Er na all un darn o ddeddfwriaeth ateb pob problem a datrys holl heriau iechyd y cyhoedd, gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ymarferol iawn. Dyna'r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio ei gyflawni. Mae'n cymryd camau mewn nifer o feysydd penodol er lles grwpiau penodol yn y gymdeithas, yn ogystal ag ar gyfer cymunedau yn eu cyfanrwydd.
Ar wahân i nifer fechan o fân newidiadau technegol, mae'r Bil yn cynnwys y darpariaethau a ystyriwyd yn wreiddiol gan y Cynulliad blaenorol, gan gynnwys y rhai a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod diwygio. Yr unig eithriad yw cael gwared ar y darpariaethau a fyddai wedi cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin mewn rhai mannau cyhoeddus. Mae'r cam wedi ei gymryd i gydnabod yr angen i greu consensws ar draws y Cynulliad hwn ac i sicrhau y gellir gwireddu’r amryfal fanteision y mae’r Bil hwn yn ceisio’u cyflawni dros Gymru.
Mae'r Bil yn ymdrin â nifer o faterion iechyd y cyhoedd pwysig. Mae'n creu trefn ddi-fwg amlwg ar gyfer Cymru, ac mae’r cyfyngiadau presennol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd wedi’u hymestyn i gynnwys tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus—newid y bwriedir iddo gynnig budd i blant, cleifion ac ymwelwyr. Mae hefyd yn caniatáu ar gyfer gwneud lleoliadau pellach yn rhai di-fwg yn y dyfodol os caiff amodau penodol eu bodloni ac os cânt eu cefnogi gan y Cynulliad hwn.
Mae'r Bil yn cefnogi'r amddiffyniadau presennol ar gyfer plant a phobl ifanc, gan eu hatal rhag cael gafael ar gynhyrchion tybaco a nicotin trwy greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr y cynhyrchion hyn, a thrwy greu trosedd newydd, sef rhoi cynhyrchion tybaco neu nicotin yn fwriadol i bobl dan 18 oed. Bydd y mesurau pwysig hyn yn helpu awdurdodau gorfodi i gyflawni eu cyfrifoldebau yn fwy effeithiol a gwneud mwy i ddiogelu plant rhag niwed. Mae'r Bil yn creu system drwyddedu orfodol ar gyfer ymarferwyr sy'n cynnal triniaethau arbennig—aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio—gan helpu i amddiffyn pobl sy'n dewis cael y triniaethau hyn rhag y posibilrwydd o niwed a all ddigwydd os cânt eu cynnal mewn ffordd wael. Mae'r Bil hefyd yn gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn dan 16 oed, gan ddarparu amddiffyniad pwysig arall ar gyfer ein pobl ifanc.
Er y bwriedir i rai camau gweithredu yn y Bil gynnig budd i grwpiau penodol, bydd eraill o fudd i gymunedau cyfan. Yn gyntaf, drwy fynnu bod cyrff cyhoeddus yn cynnal asesiadau effaith ar iechyd mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn helpu i sicrhau, cyn i benderfyniadau allweddol gael eu gwneud, eu bod wedi’u hysbysu gan ystyriaeth lawn o'u heffeithiau posibl ar iechyd a lles corfforol a meddyliol. Yn ail, bydd cymunedau yn elwa ar y newidiadau arfaethedig i'r ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio yng Nghymru, er mwyn diwallu anghenion cymunedau lleol yn well. Ac yn drydydd, bydd cymunedau yn elwa ar wella’r gwaith o gynllunio darpariaeth a mynediad i doiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd—mater sy'n effeithio ar bawb, ond sydd ag arwyddocâd arbennig o ran iechyd y cyhoedd ar gyfer grwpiau penodol.
Wrth gwrs, mae'r Bil eisoes wedi elwa ar broses ymgynghori helaeth dros nifer o flynyddoedd ac ar graffu manwl yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Mae'r broses o graffu eisoes wedi cryfhau'r Bil yn uniongyrchol mewn nifer o ffyrdd. Arweiniodd at ymestyn y drefn ddi-fwg i'r lleoliadau newydd, sef tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus. Cryfhaodd hyn y Bil drwy amddiffyn plant rhag y niwed iechyd penodol y gall tyllu’r tafod ei achosi, ac arweiniodd yn uniongyrchol at gynnwys darpariaethau pwysig am asesiadau effaith ar iechyd. Serch hynny, rwyf yn siŵr y bydd y Bil yn elwa ar graffu trwyadl pellach ar amrywiaeth o faterion ac ar drafodaeth am fanylion penodol. Felly, edrychaf ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn yn awr, ac at yr ymgysylltiad adeiladol â’r amryw sefydliadau a fydd â diddordeb mewn gwneud y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) hwn yn llwyddiant, ac at sicrhau’r manteision mwyaf posibl yn sgil y ddeddfwriaeth hon ar gyfer pobl Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Angela Burns.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o weld Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ailymddangos ar ôl y llanastr chwerthinllyd a welsom yn gynharach eleni, a hoffwn ailddatgan ymrwymiad y blaid hon i’w gwneud yn bosibl i e-sigaréts fod ymysg yr amryw offer yn y blwch offer ar gyfer helpu i roi'r gorau i ysmygu.
Weinidog, ychydig iawn sydd yn y Bil hwn y dymunaf anghytuno ag ef. Yn wir, o ystyried amcan datganedig Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), sef defnyddio deddfwriaeth briodol i wella a diogelu iechyd a lles poblogaeth Cymru, rwy’n credu bod nifer o feysydd yr hoffwn eu harchwilio i weld a allwn ni gyflwyno deddfwriaeth fwy cadarn er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Byddwn hefyd yn dymuno edrych yn fanylach ar rai o oblygiadau cyllidol y Bil arfaethedig.
Nodaf yr awydd i greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin, ac mae hwn yn gam yr wyf yn ei gefnogi. Fodd bynnag, Weinidog, o ystyried y costau a fyddai’n gysylltiedig â hyn, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i awdurdodau lleol yn cyflawni’r ddyletswydd honno? Wedi'r cyfan, maent eisoes yn rhoi trwyddedau i safleoedd werthu alcohol, a byddwn yn awgrymu i chi bod y rhan fwyaf o safleoedd sy'n gwerthu alcohol, boed hynny’n archfarchnad, yn dafarn, yn siop gornel, hefyd yn dymuno gwerthu cynhyrchion tybaco a nicotin. Rwy’n derbyn wrth gwrs y bydd yna rai lleoliadau a fydd yn arbenigo mewn gwerthu dim ond cynhyrchion tybaco a nicotin, ond gellir eu hychwanegu hwy, ac am gost is y byddwn i’n tybio, at y gyfundrefn drwyddedu bresennol.
Nodaf y bwriad i wahardd rhoi cynhyrchion tybaco neu gynnyrch nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. Weinidog, a ydych chi wedi ystyried pa gosbau y byddech yn eu gorfodi ac ar bwy? Byddai'n bryder mawr pe ystyrid bod y manwerthwr yn gyfrifol am bobl dros 18 oed yn prynu sigaréts ac yn y blaen, ac yna’n eu rhoi i blant dan 18 oed rownd y gornel. Sut y byddwch chi’n dal, yn profi’r achos ac yn cosbi unrhyw droseddwr?
Nodaf yr amddiffyniad yr ydych wedi’i gynnig i bobl ifanc dan oed drwy wahardd rhoi tyllau mewn man personol o’u cyrff. O dan yr un bwriad i amddiffyn plentyn dan oed, a wnewch chi gryfhau cyfreithiau sy’n ymwneud â thatŵio ac addasu’r corff, o ystyried bod llawer o datŵs a rhai addasiadau i’r corff hefyd yn cael eu rhoi ar neu mewn rhannau o’r corff yr ystyrir eu bod yn bersonol? Rwy’n deall eich pryderon bod cyhoeddi gwaharddiad yn gwneud rhywbeth yn fwy deniadol, ond mae a wnelo hyn ag amddiffyn plant ac o’r hyn yr wyf i’n ei ddeall, byddai'r diwydiant hefyd yn hoffi gweld mwy o reoleiddio er mwyn eu hamddiffyn hwythau hefyd.
Nodaf y gofyniad i awdurdodau lleol baratoi cynlluniau strategaeth leol i adlewyrchu'r angen am doiledau cyhoeddus. Y gwir amdani yw, Weinidog, bod yr elfen hon o’r Bil yn wan a dweud y lleiaf. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sut yr ydych yn credu y gallai hyn fynd i’r afael â phrif lwybrau, ardaloedd twristaidd sydd â nifer uchel o ymwelwyr twristiaeth ond angen cymunedol isel, ac ardaloedd mwy gwledig. Onid ydych chi’n credu bod angen cynllun cenedlaethol cyffredinol hefyd i ddwyn y cynlluniau lleol at ei gilydd a llenwi'r bylchau?
Weinidog, mae Cymru yn gartref i rai o’r ardaloedd mwyaf llygredig yn y DU. Ffordd yr A472 ger Crymlyn sydd â'r gyfradd uchaf o lygredd mewn unrhyw ardal y tu allan i Lundain, wedi’i achosi’n bennaf gan dagfeydd oherwydd cerbydau trwm. Mae pobl sy'n byw yn yr ardal yn dod i gysylltiad â mwy a mwy o lygryddion niweidiol, sy'n niweidio’u hiechyd. Mae ymchwil yn ein galluogi ni i gael dealltwriaeth lawer gwell o ba mor niweidiol yw cysylltiad hirdymor â’r llygryddion aer hyn ar gyfer ein hiechyd. Gall niwed gan lygryddion aer fod yn gysylltiedig â chanser, asthma, clefyd y galon, strôc, diabetes, gordewdra a dementia. Yn 2010, cyfrannodd niwed gan lygryddion aer at 1,320 o farwolaethau yng Nghymru, ac mae’n chwarae rhan bwysig mewn llawer o'n heriau iechyd.
Weinidog, mae’n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol. Mae gofyniad ar lywodraeth leol i fonitro ansawdd yr aer lleol yn effeithiol a rhoi gwybod i'r cyhoedd pan fydd lefelau yn uwch na’r hyn a nodir yn y canllawiau. Yn yr un modd, mae ganddynt gyfrifoldeb i gyflawni strategaethau rheoli aer lleol. Felly, mae'n hanfodol bod y rhain yn cael eu cyflwyno ar y cyd â'r amcanion strategol cenedlaethol.
A ydych chi’n dod at y diwedd, os gwelwch yn dda?
Mae’n ddrwg iawn gennyf, fe wnes i gymryd cyngor yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, a dywedwyd wrthyf fod amser ar gael i mi.
Wel, rydych mewn perygl o gymryd bron cymaint o amser a gymerodd y Gweinidog i gyflwyno’r datganiad.
Ymddiheuraf.
Onid allai Bil iechyd y cyhoedd ddeddfu i fonitro llygredd aer y tu allan i ysgolion Cymru? Mae fy ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu y gallai’r gwaith o fonitro lefelau llygredd y tu allan i ysgolion gael ei gynnwys yn y Bil ac y byddai modd deddfu hynny, cyhyd â’n bod ni’n ystyried cyfraith yr UE ac na fydd yn torri ar draws Bil Cymru.
Yn olaf, Weinidog, rwyf am godi’r ffaith nad yw Bil iechyd y cyhoedd yn cynnwys unrhyw fesurau i wella ffitrwydd corfforol y genedl. Gan fod canolfannau hamdden o dan gymaint o bwysau, Weinidog, oni allai’r Bil iechyd y cyhoedd hwn edrych ar y posibilrwydd o agor adeiladau ein hysgolion i gynnig lleoedd mewn cymunedau lleol i alluogi pobl, yn enwedig y rhai sy'n cael cymorth meddygol parhaus ac sydd angen y rhaglenni ymarfer corff y soniais amdanynt yn fy nghwestiwn yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn gynharach—. Gallai fod yn ganolfan iddynt fynd iddi heb orfod teithio’n bell. Rwy’n credu, Weinidog, bod ffitrwydd yn gwbl allweddol oherwydd, os edrychwch chi ar unrhyw un o'r rhagfynegiadau o ran y boblogaeth, yna mae taith anodd iawn o’n blaenau yn y blynyddoedd i ddod oherwydd gordewdra a salwch cyffredinol. Ac os byddwch chi’n ddewr, a defnyddio’r Bil hwn i fynd i’r afael ag iechyd y cyhoedd drwy ffitrwydd corfforol, ac edrych ar blant, pobl ifanc ac oedolion, yna fe fydd y blaid hon yn eich cefnogi yn y cam dewr hwnnw, oherwydd drwy fod yn ddewr heddiw gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol syfrdanol i iechyd ein cenedl yfory. Diolch.
Diolch i'r llefarydd am estyn croeso mor gynnes i’r Bil wrth iddo ddychwelyd i’r Cynulliad, ac am ei sylwadau adeiladol y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau o bob plaid wrth i ni ddatblygu'r Bil yn ystod y misoedd sydd i ddod.
Mae eich cwestiwn cyntaf yn ymwneud â goblygiadau ariannol y Bil, ac, ar y pwynt hwnnw, byddwn i'n eich cyfeirio at y memorandwm esboniadol, sydd hefyd yn cynnwys asesiad o effaith rheoleiddiol. Mae'n cynnwys rhai manylion am yr hyn y byddem yn disgwyl ei weld o ran cost y Bil i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac i eraill hefyd. Rydym ni wedi bod yn awyddus iawn drwy gydol datblygiad y Bil i leihau'r gost i lywodraeth leol, gan ein bod ni’n deall y pwysau sydd arnynt ar hyn o bryd. Er enghraifft, wrth edrych ar y rhan o'r Bil sy'n ymdrin â'r system hylendid bwyd, mae'r Bil yn caniatáu i awdurdodau lleol gadw derbynebau a gânt pan fyddant yn cyflwyno hysbysiad cosb benodedig, er enghraifft, er mwyn iddynt allu ailfuddsoddi’r arian hwnnw wrth gyflawni eu dyletswyddau i archwilio safleoedd, ac yn y blaen.
Gofynasoch am y gofrestr o fanwerthwyr. Bydd yn ofynnol i bob manwerthwr cynhyrchion tybaco a nicotin fod ar y gofrestr genedlaethol. Bydd ffi arfaethedig o £30 ar gyfer y safle cyntaf a £10 ar gyfer pob safle ychwanegol sy'n eiddo i'r busnes. Bydd y gofrestr honno yn rhoi rhestr ddiffiniol i'r awdurdodau lleol o'r manwerthwyr yn eu hardaloedd sy'n gwerthu tybaco neu bapurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin neu gyfuniad o'r eitemau hyn, gyda'r nod o leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc dan 18 oed yn cael gafael ar y cynhyrchion hyn. Byddwn yn enwi naill ai awdurdod lleol neu sefydliad arall yr awdurdod a fydd yn rheoli'r gofrestr genedlaethol honno.
Ein nod yw cadw’r cyfan mor syml â phosibl i leihau'r baich ar fusnesau, felly y cyfan y bydd angen i fanwerthwyr ei wneud fydd rhoi gwybod i’r awdurdod cofrestru am unrhyw newidiadau i'w manylion ar ôl iddynt gofrestru, yn hytrach nag ailgofrestru’n ffurfiol bob tair blynedd, a dyna pam y byddai system drwyddedu ffurfiol wedi rhoi mwy o faich ar fusnesau mewn gwirionedd. Dyna pam yr ydym wedi dewis y dull hwn. Bydd hefyd yn adnodd defnyddiol o ran y bydd awdurdodau lleol yn gallu lledaenu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth i fusnesau ar eu cofrestr, oherwydd, ar hyn o bryd, maent yn dibynnu i raddau helaeth ar wybodaeth leol, sy'n eithaf tameidiog. Felly, bydd modd eu cynorthwyo mewn ffordd fwy cadarn o lawer bellach wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau gorfodi. Rwy'n falch eich bod chi wedi croesawu y rhan honno o'r Bil hefyd.
O ran trosglwyddo tybaco, yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol yw y bydd yn drosedd i unigolyn roi tybaco i rywun o dan 18 oed. Y nod yw atal pobl ifanc rhag cael cynhyrchion tybaco a nicotin drwy'r rhyngrwyd neu drwy archebu dros y ffôn, ac mae’r Bil hwn yn ymwneud i raddau helaeth â chadw’n gyfredol o ran y newidiadau sy'n digwydd yn y gymdeithas ac yn y ffordd yr ydym yn cael gafael ar wahanol bethau. Mae'r drosedd yn berthnasol i, er enghraifft, bagiau a blychau cludo a ddefnyddir gan archfarchnadoedd, ond nid yw'n cynnwys amlenni sydd wedi’u hamgáu yn llwyr, gan na allwn ddisgwyl yn rhesymol i bobl wybod beth sydd y tu mewn i amlen gaeedig pan gaiff ei throsglwyddo. Felly, bydd disgwyl i yrwyr dosbarthu sy’n trosglwyddo cynhyrchion tybaco neu nicotin i rywun sy'n ymddangos ei fod o dan 18 oed gynnal y gwiriad dilysu oedran, yn debyg i'r rhai sy'n cael eu cynnal gan gynorthwywyr siop mewn sefyllfaoedd o'r fath hefyd. Bydd hyn yn cael ei orfodi gan awdurdodau lleol.
O ran tyllu rhannau personol o’r corff, rydym yn ceisio drwy'r Bil gwahardd tyllu rhannau personol o gorff rhywun sydd o dan 16 oed yng Nghymru mewn unrhyw leoliad, ac mae hefyd yn ymestyn i’w gwneud yn drosedd i wneud trefniadau i berfformio gweithdrefn o'r fath. Felly, at ddibenion y Bil, mae tyllu rhannau personol o’r corff yn cynnwys tyllu y tethau, bronnau, organau cenhedlu, bochau pen-ôl a'r tafod, a chyflwynwyd hynny yn y cyfnodau diwygio pan aeth y Bil drwy’r Cynulliad yn flaenorol. Unwaith eto, y nod yn y fan yma yw diogelu pobl ifanc rhag y niwed posibl y gellid ei achosi gan dyllu rhannau personol o’r corff, ond hefyd osgoi amgylchiadau lle y cânt eu rhoi mewn sefyllfaoedd a allai eu gwneud yn agored i niwed. Mae llawer o ymarferwyr, yr ydych chi'n iawn, eisoes yn dewis peidio ag ymgymryd â thyllu’r rhannau personol hyn o’r corff ar blant a phobl ifanc beth bynnag, ond bydd hyn yn cysoni pethau ledled Cymru. Gallwn yn sicr drafod ymhellach yn ystod cyfnodau nesaf hynt y Bil drwy'r Cynulliad o ran ymestyn y rhannau personol i datŵs, er enghraifft. Nid wyf yn siŵr pa un a drafodwyd hyn yn drylwyr yn y cyfnodau blaenorol yn y Cynulliad, ond edrychaf ymlaen at gael y trafodaethau hynny gyda chi hefyd.
I sôn, yn gyflym iawn, am eich pryderon ynghylch toiledau, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i bob awdurdod lleol i’w cynorthwyo i ddatblygu eu strategaethau toiledau lleol. O fewn hynny, byddwn yn gofyn iddyn nhw edrych hefyd ar ddefnyddwyr priffyrdd, llwybrau teithio egnïol ac ymwelwyr â safleoedd ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon, hanesyddol, poblogaidd neu o bwys cenedlaethol. Felly, bwriedir iddo fod yn ddarn eang a chadarn o waith. Unwaith eto, nid yw llygredd wedi ei gynnwys yn y Bil, ond rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn fanwl yn y cyfnodau nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y datganiad yma? Er nad ydy’r Bil yma yn berffaith, fel y gwnaf i egluro, rwyf yn croesawu y Bil fel ag y mae o. Mae’n drueni na chafodd cynnwys yr hyn sydd o’n blaenau ni rŵan ei roi ar y llyfrau statud yn barod. Mi oeddwn i’n un o’r rhai a oedd yn methu â derbyn y Bil diwethaf oherwydd yr elfen o gyfyngu ar ddefnydd o e-sigarennau. Er na allwn i ddweud, wrth gwrs, eu bod nhw’n gwneud dim niwed, rwyf yn grediniol bod lle i’w hannog nhw fel rhywbeth llai niweidiol nag ysmygu tybaco. Rwy’n falch, felly, bod yr elfennau yna wedi cael eu tynnu allan o’r Bil newydd yma.
Mi weithiwn ni yn adeiladol efo’r Bil yma rŵan, felly, fel Aelodau Cynulliad, bob un ohonom ni, a’r rheini ohonom ni sy’n aelodau o’r pwyllgor iechyd. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r broses o sgrwtineiddio ac i chwilio am elfennau y mae modd eu gwella a’u cryfhau o hyd, er gwaethaf y ffaith bod y Bil yma, i raddau, wedi bod drwy broses sgrwtini a gwella yn barod.
With plenty of scrutiny opportunities to come, I won’t fire off a long list of questions today. I will say, though, that it is a concern to me that there is nothing here to tackle obesity or alcohol abuse or to promote physical activity, as we heard a minute ago, and in that respect, it could be seen as a missed opportunity. But, this is a useful Bill. It does contain some useful measures and we will be engaging constructively with it and will continue to seek opportunities to take action in some of those other areas.
I will also use this opportunity, finally, to ask the Minister this: will she agree with me that this Bill should indeed be much stronger and could be much stronger and that it is being held back by a lack of powers? Does she agree with me that we should have powers to, for example, ban or restrict the advertising of junk food or to introduce taxation over unhealthy food and drink and sugar and so on, and that if we were able to do so, this could indeed be a much more far-reaching Bill?
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna ac yn amlwg rwyf yn rhannu eich siom amlwg na chafodd y Bil ei basio yn y cyfnod blaenorol yn y Cynulliad, ond edrychaf ymlaen at weithio'n adeiladol gyda chi wrth i ni symud ymlaen arno.
Soniasoch am sawl eitem yr ydych yn siomedig nad ydyn nhw’n cael sylw yn y Bil, ond wrth gwrs, dim ond yn un rhan o'r modd yr ydym yn mynd i'r afael â'r heriau a amlinellwyd gennych yw deddfwriaeth. Er enghraifft, nid oes angen deddfwriaeth ar gyfer popeth—rydym yn gwneud llawer o bethau i fynd i'r afael â gordewdra, ar lefel Cymru ac wrth weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar lefel yr UE hefyd. Mae llawer o'r dulliau sy'n effeithio ar y diwydiant bwyd, er enghraifft, yn cael eu cynnal ar lefel Llywodraeth y DU ac ar lefel Ewropeaidd, a dyna pam yr ydym wedi cefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU o ran yr ardoll ar y diwydiant diodydd llawn siwgr. Rydym yn awyddus i weld cynnydd gwirioneddol yn hynny o beth, a hynny yn eithaf cyflym hefyd.
Hefyd, yng Nghymru, mae gennym ni’r rhaglen Plant Iach Cymru, yr oeddwn yn falch o’i lansio ym mis Ebrill eleni. Bydd hwn yn rhoi’r cyfle i ymarferwyr ac ymwelwyr iechyd gael ymgysylltiad gwirioneddol, ystyrlon â theuluoedd ledled Cymru. Yn y cyfarfodydd hynny, gellir trafod pethau fel byw yn iach, deiet, ymarfer corff, ysmygu, camddefnyddio sylweddau—yr holl elfennau gwahanol hyn er mwyn cefnogi'r teulu i wneud dewisiadau iach, ar gyfer y fam a'r plant, ond ar gyfer y teulu cyfan, hefyd.
Mae gennym y rhaglen 10 Cam i Bwysau Iach, hefyd, ac mae hynny, unwaith eto, yn ceisio rhoi'r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i blant o ran eu hiechyd corfforol. Mae gennym eisoes ddeddfwriaeth arall, megis y Ddeddf teithio egnïol, yr ydym ni'n ei gweithredu, i geisio gwneud y dewisiadau egnïol ac iach o gerdded a beicio yn haws o lawer i bobl.
Mewn ysgolion, mae gennym rwydwaith Cymru o ysgolion iach ac mae gennym amrywiaeth eang o raglenni gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn yr ysgol, a gaiff eu cyflwyno mewn ysgolion a hefyd drwy Chwaraeon Cymru.
Cyfeiriasoch at gamddefnyddio sylweddau. Unwaith eto, nid oes unrhyw beth penodol ar hyn yn y Bil o ran defnyddio alcohol a chyffuriau, er enghraifft, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i atal a lleihau niwed drwy ein cynllun gweithredu. Byddwch yn cofio y cytunodd y Cynulliad, fis neu ddau yn ôl, ar ein cynllun cyflawni ar gyfer y ddwy flynedd nesaf o ran camddefnyddio sylweddau, atal niwed, er enghraifft, trwy addysgu plant a sicrhau bod y cyngor a’r wybodaeth a roddwn yn gyfoes ac yn unol â thueddiadau cyfoes, gan gynnwys y sylweddau seicoweithredol newydd ac ati, yn ogystal â lleihau niwed i'r rhai sydd eisoes â phroblemau camddefnyddio sylweddau—er enghraifft, trwy gyflwyno ein rhaglen mynd â naloxone adref, sy'n atal gorddosio. Rwy’n clywed straeon gwych am sut mae hyn mewn gwirionedd yn achub bywydau yn ein cymunedau. Crybwyllodd Mohammad Asghar yr wythnos diwethaf yr ystafelloedd rhoi cyffuriau, ac rydym yn mynd ati yn ymarferol i edrych ar ba un a fyddem ni’n dymuno cyflwyno’r rhain a chael cyngor gan grŵp arbenigol hefyd.
Gwnaethoch chi ac Angela Burns sôn hefyd am gyfleusterau hamdden a'r ffaith nad ydyn nhw yn y Bil, ond unwaith eto, mae pethau y gallwn eu gwneud y tu allan i ddeddfwriaeth—er enghraifft, y glasbrint cyfleusterau, sy’n cael ei lunio yn ddiweddar, i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio dull mwy strategol o sicrhau bod safleoedd chwaraeon a chyfleusterau hamdden ar gael yn ein cymunedau. Ceir hefyd y grant cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael gennym i awdurdodau lleol gael grant o hyd at £1 miliwn i fuddsoddi mewn gwella neu ddatblygu cyfleusterau newydd yn lleol. Felly, mae llawer iawn yn digwydd ym maes iechyd y cyhoedd y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth ei hun, er y gwn y bydd awydd i fynd i’r afael â llawer o'r materion hyn wrth i ni symud drwy'r cyfnodau craffu.
Rwyf innau hefyd yn falch iawn ein bod yn ailgyflwyno'r Bil hwn, sy’n cynnwys rhai cyflyrau pwysig iawn. Rwyf wrth fy modd o glywed bod Plaid Cymru yn eich annog i weithredu ar ordewdra. Roeddwn i’n meddwl tybed a oedd unrhyw bosibilrwydd o gynnwys unrhyw beth rheoleiddiol ei natur yn y Bil hwn, oherwydd er bod llawer o bethau y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i geisio mynd i'r afael â gordewdra, gwyddom fod pwysau llawn y diwydiant hysbysebu yn annog pobl i fwyta'r holl bethau anghywir, yn hytrach na llysiau. Defnyddiwyd y Gemau Olympaidd fel gwledd fawr o hysbysebu sothach—ac eithrio, mewn un achos, roedd Aldi yn eu defnyddio i hyrwyddo llysiau a ffrwythau, a dylid eu canmol am wneud hynny. Ond mae'r rhan fwyaf o hysbysebion ar gyfer pethau fel diodydd llawn siwgr, nid llysiau.
Felly, a fyddai'n bosibl cynnwys yn y Bil, dyweder, gwahardd hysbysebu bwyd sothach cyn y trothwy 9 o’r gloch? A oes gennym ni’r pwerau i wneud hynny? Hefyd, er fy mod i’n croesawu'r ardoll ar ddiodydd llawn siwgr, nid yw’n mynd yn ddigon pell o lawer, oherwydd, yn anffodus, mae siwgr yn bresennol yn yr holl fwydydd wedi’u prosesu, bron a bod, sy'n cael eu gwerthu ar hyn o bryd. A oes unrhyw bosibilrwydd o allu cyflwyno ardoll ehangach ar eitemau siwgr, a allai hefyd ystyried faint o halen a braster a ddefnyddir i werthu nwyddau a gaiff eu cyflwyno fel bwyd? Rwyf yn sylweddoli bod y rhain yn faterion anodd oherwydd bod y rhan fwyaf o fwyd yn cael ei gynhyrchu ledled y DU, ond byddwn wir yn croesawu eich barn ar y mater hwn.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hyn. O ran y diwydiant hysbysebu a'r hyn y gallwn ei wneud yn y fan honno, roedd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn siomedig iawn na wnaeth strategaeth gordewdra Llywodraeth y DU gymryd unrhyw gamau i fynd i'r afael â hysbysebion wedi'u targedu at blant a phobl ifanc yn arbennig. Ni fyddai gennym y pwerau yma ar gyfer deddfu yn y maes hwnnw, felly mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi ein siom a'n gobaith y byddan nhw’n rhoi sylw i hyn maes o law. Credaf fod cyfleoedd i gefnogi busnesau bwyd a diod o Gymru drwy ein cynllun gweithredu ar fwyd a diod, a arweiniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Yn yr adran honno, mae gennym ddwy ganolfan, un yn y gogledd ac un yn y de, a all gefnogi busnesau i ddod yn fwy arloesol. Gall rhan o hynny fod yn ailffurfio eu cynnyrch i leihau'r halen a ddefnyddir, i leihau'r braster a ddefnyddir a'r siwgr a ddefnyddir, ond gan ddal i gynnal y math o flas y mae’r cynnyrch yn adnabyddus amdano. Felly, mae ffyrdd y gallwn gefnogi ein busnesau bwyd a diod cartref i wneud cynhyrchion iachach, a fydd yn eu gwneud yn fwy deniadol i ddefnyddwyr hefyd.
Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am fod mor garedig â darparu briff i lefarwyr y gwrthbleidiau cyn cyflwyno'r Bil. Mae gan Gymru un o'r gwasanaethau iechyd gorau yn y byd, ond mae gennym hefyd ran o’r iechyd gwaelaf yn Ewrop, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i ymdrin â hyn. Mae UKIP yn croesawu cyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phob plaid yn y Siambr i graffu a gwella'r Bil.
Croesawaf gyflwyno cofrestr genedlaethol o gynhyrchion tybaco a nicotin, a’r bwriad i gynnal cyfyngiadau ar werthu cynhyrchion o'r fath i blant a phobl ifanc. Rydym yn gobeithio y bydd y gofrestr hefyd yn helpu i reoleiddio'r farchnad e-sigarét. Ar hyn o bryd, nid oes dim i rwystro unrhyw un rhag coginio sypiau o hylif e-sigarét mewn baddon a’u gwerthu mewn marchnad leol, arwerthiant cist car neu o droli ar y stryd fawr. Er fy mod i’n credu bod e-sigaréts yn ddewis llawer mwy diogel na chynhyrchion tybaco traddodiadol a bod y mwyafrif helaeth o fanwerthwyr yn gyfrifol, nid oes gan ddefnyddwyr unrhyw sicrwydd bod y cynnyrch maen nhw’n ei brynu yn ddiogel. Nid ydyn nhw’n gwybod beth y mae’r hylif maen nhw’n ei brynu yn ei gynnwys nac amodau ei wneud. Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i ddefnyddio Bil iechyd y cyhoedd i reoleiddio cynhyrchu hylifau e-sigarét?
Wrth eu prynu o ffynhonnell ag enw da, mae e-sigaréts yn fwy diogel o lawer nag ysmygu sigaréts traddodiadol, ac, er y byddai’n well i ysmygwyr roi'r gorau iddi yn gyfan gwbl, y gwirionedd yw na fydd llawer yn gwneud hyn, hyd yn oed ar ôl bod ar gynlluniau rhoi’r gorau i smygu safon aur Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n llawer gwell i’r ysmygwyr hynny newid i’r e-sigaréts llawer mwy diogel. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn argymell y defnydd o e-sigaréts fel dewis arall i ysmygu ac yn cyflwyno canllawiau i gyflogwyr yn dweud ei bod yn bosibl y bydd yn ystyried caniatáu i weithwyr ddefnyddio e-sigaréts yn y gwaith os yw'n rhan o bolisi i helpu ysmygwyr tybaco i roi'r gorau i'r arfer. Gan fod 19 y cant o boblogaeth oedolion Cymru yn ysmygu ar hyn o bryd, dylem ystyried pob dull posibl i leihau'r nifer. Weinidog, mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Choleg Brenhinol y Meddygon yn nodi bod e-sigaréts 95 y cant yn fwy diogel nag ysmygu tybaco. Felly, pa ystyriaeth a roddwyd i ddefnyddio'r Bil hwn i wrthdroi rhai o'r gwaharddiadau yr ydym wedi eu gweld yn cael eu cyflwyno ar e-sigaréts?
O ran agweddau eraill ar y Bil, rydym yn croesawu camau i reoleiddio gweithdrefnau arbennig a thyllu rhannau personol o’r corff. Rydym yn croesawu cynnwys asesiadau o effaith ar iechyd yn fawr. Edrychaf ymlaen at gael rhagor o fanylion am yr effaith y bydd asesiadau o anghenion fferyllol yn ei chael mewn ardaloedd gwledig yn ystod cyfnod craffu Cyfnod 1 yn y pwyllgor.
Yn olaf, Weinidog, rydym yn cwestiynu cyflwyno strategaethau toiledau lleol. Heb fynediad digonol i doiledau cyhoeddus, mae llawer o bobl anabl, pobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd yn methu â gadael eu cartref. Mae Cymdeithas Toiledau Prydain yn amcangyfrif bod 40 y cant yn llai o doiledau cyhoeddus yn y DU nag oedd ar gael 10 mlynedd yn ôl. Dylem ni osod dyletswydd ar awdurdodau lleol naill ai i ddarparu toiledau cyhoeddus neu sicrhau mynediad cyhoeddus digonol i doiledau, ac nid dim ond llunio strategaeth. Weinidog, a wnewch chi ystyried cryfhau’r rhan hon o'r Bil? Diolch i chi unwaith eto, Weinidog, am eich datganiad, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau ein bod yn darparu Bil sy'n cyflwyno manteision iechyd cyhoeddus gwirioneddol i Gymru. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna ac, unwaith eto, am y modd adeiladol iawn y mae'r blaid wedi ceisio ymgysylltu â’r Bil ar y cyfnod cynnar hwn. O ran y gofrestr e-sigaréts, rwy'n falch iawn o ddweud y bydd e-sigaréts yn cael eu cynnwys ar y gofrestr manwerthwyr. Dyma'r unig ran o'r Bil lle y gwelwch chi sôn am e-sigaréts, oherwydd byddwch yn gyfarwydd â'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi gwneud ymrwymiad i beidio â chynnwys gwahardd y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus yn y Bil hwn. Fodd bynnag, rydym yn eu cynnwys yn y gofrestr arfaethedig oherwydd bod nifer o ohebwyr, yn y Papur Gwyn, o'r sector llywodraeth leol yn arbennig, yn dweud y byddai'n briodol ymestyn gofynion cofrestru i gynnwys manwerthwyr cynhyrchion nicotin, gan gynnwys sigaréts electronig. Cynhaliodd y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig adolygiad cyflym o Reoliadau Cynhyrchion Anadlu Nicotin (Oed Gwerthu a Phrynu ar Ran) 2015, a ddaeth i rym fis Hydref y llynedd. Felly, mae hwn yn ddarn newydd o waith ymchwil, a ganfu bod cyfanswm o 634 o brofion prynu cynhyrchion e-sigarét wedi eu gwneud gan wirfoddolwyr ifanc o dan 18 oed, a dangosodd y canlyniadau fod lefelau cydymffurfio â'r rheoliadau newydd sy'n gwahardd gwerthu cynhyrchion anadlu nicotin i bobl dan 18 oed yn dal i fod yn isel iawn, wrth i 39 y cant o bobl ifanc allu eu prynu. Felly, credaf ei fod, fel y dywedwch, yn iawn y dylai e-sigaréts gael eu cynnwys ar y gofrestr arfaethedig. Bydd y ffaith eu bod nhw arni yn helpu awdurdodau gorfodi â'u dyletswyddau gorfodi hefyd.
Rwyf yn rhannu’r pryderon a oedd gan y Gweinidog blaenorol o ran effaith e-sigaréts ar bobl ifanc a normaleiddio ysmygu, a normaleiddio ysmygu, pa un a yw hynny drwy sigaréts traddodiadol neu e-sigaréts, gan fod ymchwil diweddar wedi dangos i ni fod plant o oed ysgol gynradd yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi defnyddio e-sigaréts na thybaco. Mae chwech y cant o blant 10 i 11 oed a 12 y cant o blant 11 i 16 oed wedi defnyddio e-sigarét o leiaf unwaith. Felly, mae hi'n broblem. Rwy'n credu ei bod hi’n deg i ddweud nad oes gennym wybodaeth bendant yn ôl pob tebyg am fanteision neu gostau e-sigaréts o ran iechyd. Rwy'n teimlo bod y pwysau yn symud yn erbyn e-sigaréts o ran y cyngor y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi ei roi dim ond yr wythnos hon. Fodd bynnag, dim ond i fod yn glir, ni fydd e-sigaréts y tu hwnt i'r gofrestr yn cael eu cynnwys yn y Bil hwn.
Fe wnaethoch symud ymlaen wedyn i siarad am weithdrefnau arbennig. Mae'r Bil yn ceisio creu system drwyddedu genedlaethol orfodol i ymarferwyr gweithdrefnau arbennig, a ddiffinnir yn y Bil fel aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio. Bydd y system hon yn golygu bod yn rhaid i unigolyn gael ei drwyddedu i gyflawni unrhyw un o'r gweithdrefnau hynny, a hefyd bod yn rhaid i’r safle neu'r cerbyd maen nhw’n gweithredu ohonyn nhw gael eu cymeradwyo. Felly, y nod yw codi safonau o ran perfformio gweithdrefnau arbennig a lleihau'r peryglon iechyd sy'n gysylltiedig, fel heintio a throsglwyddo firysau a gludir yn y gwaed hefyd. Rwy'n gwybod y bu llawer o ddiddordeb yn y mater hwn o ran craffu yn y Cynulliad blaenorol.
Bydd ein hasesiadau o’r effaith ar iechyd yn cynnig dull systematig o ystyried iechyd yn rhan o wneud penderfyniadau a phrosesau cynllunio. Felly, mae hyn wir yn rhoi bywyd i'n dyhead o gynnwys iechyd ym mhob polisi. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch yr amgylchiadau sy’n golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gynnal asesiadau o effaith ar iechyd. Felly, y nod yw y dylai’r asesiadau hynny gael eu cyfyngu i bolisïau, cynlluniau a rhaglenni sy’n arwain at arwyddocâd cenedlaethol neu bwysig, neu a fydd yn cael effaith sylweddol ar y lefel leol yn ogystal. Bydd yr amgylchiadau penodol pryd y bydd yn ofynnol iddyn nhw gael eu nodi mewn rheoliadau yn dilyn proses ymgynghori.
Dim ond yn fyr yn y fan yna cyfeiriasoch at fferyllfeydd a'r asesiad o anghenion fferyllol a phwysigrwydd cefnogi fferyllfeydd gwledig. Credaf fod hyn yn rhan o gymryd yr agwedd strategol a gwneud yn siŵr bod pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig yn gallu defnyddio fferyllfeydd cymunedol. Rwy'n teimlo, fel rwy'n siŵr bod llawer o bobl eraill yn ei deimlo, eu bod yn adnoddau na ddefnyddir digon arnyn nhw ar hyn o bryd. Mae fferyllwyr yn cael llawer iawn o hyfforddiant. Mae ganddyn nhw lawer iawn o arbenigedd, ac rwy’n teimlo, mewn ysbryd o ofal iechyd doeth, eu bod yn gallu gweithredu ar lefel uwch er mwyn cynnig mwy o wasanaethau nag y mae llawer ohonyn nhw’n ei wneud ar hyn o bryd. Felly, gobeithir y bydd yr asesiad o anghenion fferyllol, ac yna’r penderfyniadau a fydd yn dilyn hynny, yn gwneud mynediad i fferyllfeydd a chyngor gan fferyllydd yn fwy dibynadwy mewn cymunedau gwledig.
Yn olaf, o ran mynediad i doiledau, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi’r strategaeth leol honno y cyfeiriwch ati. Ond wedyn, bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd ddarparu manylion am sut y maen nhw’n bwriadu bodloni’r asesiad o anghenion y boblogaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â thoiledau yn unig. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau newid ar gyfer babanod a chyfleusterau lleoedd newid i bobl anabl hefyd.
Fel y mae eraill wedi ei ddweud yn gynharach, Weinidog, rwyf yn credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael poblogaeth fwy egnïol yn gorfforol yng Nghymru. Rwyf yn credu bod ysgolion bro, fel y crybwyllodd Angela Burns, yn ffordd bwysig iawn ymlaen. Rwyf hefyd yn credu nad yw llygredd aer wedi cael digon o sylw. Cyfarfûm â grŵp yn ddiweddar, er enghraifft, a ddywedodd wrthyf y byddai costau trosi cyfalaf ar gyfer eu tanwydd penodol hwy ar gyfer fflydoedd tacsi, er enghraifft, yn ad-dalu eu hunain dros gyfnod o ddwy flynedd ac yn cael effaith sylweddol ar ansawdd aer gwell yn ardaloedd mewnol ein trefi. Rwyf yn sicr bod llawer o enghreifftiau eraill o sut y gallwn gael ansawdd aer llawer gwell yng Nghymru lle y gallem wneud cynnydd ymarferol yn eithaf cyflym.
Ond yr hyn yr wyf yn awyddus iawn i ofyn amdano yw dau beth, mewn gwirionedd. Ysmygu yw un. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwneud ysmygu yn llai derbyniol yn gymdeithasol. Mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng, ac mae hynny wedi bod o fudd mawr i iechyd yng Nghymru. Rydych yn caniatáu yn eich datganiad am y posibilrwydd o ddatblygu mangreoedd cyfyngu eraill. Un y gwn fod cryn dipyn o gefnogaeth boblogaidd iddo yn fy mhrofiad i, yw cyfyngu ar ysmygu fel nad yw'n bosibl mewn mannau awyr agored bwytai a chaffis lle y ceir seddi a byrddau. Rwy'n credu bod pobl yn meddwl bod hynny'n arbennig o bwysig yn yr haf, pan fo rhai pobl yn ei weld yn ddewis rhwng naill ai peidio â mwynhau'r tywydd braf neu anadlu mwg ail-law, sydd yn codi problem arbennig i rai pobl, o ystyried eu cyflyrau iechyd. Ac o ran isafswm pris alcohol, Weinidog: Tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â’ch syniadau ar sut y gellir bwrw ymlaen â hynny yng Nghymru, unwaith eto o ystyried effaith camddefnyddio alcohol ac yfed gormod o alcohol ar iechyd yng Nghymru.
Diolch i chi am y cwestiynau yna, ac ni wnes i roi sylw i bwynt Angela ar y mater ysgolion bro, felly ymddiheuriadau am hynny. Mae'n un o'n hymrwymiadau maniffesto i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio'r adnoddau sydd gennym mewn cymunedau, yn enwedig o ran ysgolion a'r buddsoddiad cyfalaf yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gan sicrhau bod y cyfleusterau hynny ar gael er budd y gymuned ehangach. Unwaith eto, roeddech yn sôn am y mater o lygredd ac ansawdd aer, nad yw yn y Bil, ond rwy'n siŵr y byddwn yn cael trafodaeth fanylach ar y mater hwnnw wrth i'r Bil symud ymlaen drwy'r gwahanol gyfnodau.
Roeddech chi yn llygad eich lle i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol yr ydym wedi ei weld ar y mater o ysmygu: 19 y cant o bobl yng Nghymru sy’n ysmygu erbyn hyn, ac mae gennym darged uchelgeisiol i gyrraedd 16 y cant erbyn 2020. Rwy'n gobeithio y bydd rhai o'r mesurau yn y Bil hwn yn sicr yn ein helpu i fynd i'r afael â hynny. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod, mewn gwirionedd, bod plant a phobl ifanc yn aml yn cael enw drwg, ond o ran ysmygu ac yfed alcohol, mewn gwirionedd, mae lefelau ar eu hisaf ers i gofnodion ddechrau ymhlith ein pobl ifanc. Felly, rwyf yn credu y dylem ni a hwythau fod yn falch iawn o hynny hefyd. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru i ymestyn y rhestr o safleoedd lle na cheir ysmygu. Dim ond drwy weithdrefn gadarnhaol ar lawr y Cynulliad gydag ymgynghoriad y gellir gwneud hynny. Felly, gallai fod cyfle yn y cyfnodau yn y dyfodol i Weinidogion ehangu’r rhestr, efallai, i gynnwys bwytai neu fannau caffeteria awyr agored, er enghraifft, y cyfeiriasoch atynt, er unwaith eto, gallai hynny fod yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod wrth i'r Bil wneud ei ffordd trwy'r cyfnodau.
Cyfeiriasoch at y mater o isafbris uned. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ar y mater hwn ac wedi cael ymateb ffafriol o ran ei fod yn rhywbeth a allai gael effaith o ran mynd i'r afael â’r defnydd niweidiol o alcohol yng Nghymru. Rydym yn croesawu'r cadarnhad bod Llys y Sesiwn yn yr Alban wedi rhoi ei gymeradwyaeth i gynllun Llywodraeth yr Alban i gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol. Dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ar 21 Hydref, y daeth y penderfyniad hwnnw, felly rydym yn dal i ystyried beth mae hynny'n ei olygu i Gymru. Ond rydym yn cydnabod hefyd, nad hyn efallai fydd diwedd y stori, wrth gwrs. Gallai’n rhwydd fynd i’r Goruchaf Lys yn y pen draw. Felly, rydym yn cadw llygad agos iawn ar hynny ac mae gennym gryn ddiddordeb ynddo, gan ystyried y ffordd ymlaen a'r hyn a allai fod yn bosibl yng Nghymru. Rydym yn sicr o'r farn y byddai cyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yn un o'r camau allweddol y gallem eu cymryd i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Rydym yn awyddus iawn i gael deddfwriaeth debyg yma yng Nghymru, ac rydym yn ei ystyried yn rhan hanfodol o'r camau gweithredu ehangach y mae angen i ni eu cymryd yng nghyd-destun ein cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau, y cyfeiriais ato'n gynharach. Ond, fel y dywedais, rydym yn gwylio'r sefyllfa yn yr Alban ac yn ystyried beth y gallem ei wneud.
Mae eich datganiad yn cyfeirio at greu system drwyddedu orfodol yn y Bil ar gyfer ymarferwyr sy’n cynnal gweithdrefnau arbennig-aciwbigo tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio-gan helpu i amddiffyn pobl ac yn y blaen. Ond pan ysgrifennais atoch ynghylch y diwydiant gwallt, fe wnaethoch ateb, ar 27 Hydref, na fydd rheoleiddio trin gwallt yn cael ei gynnwys yn y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) pan fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 7 Tachwedd. O gofio bod yn rhaid i'r diwydiant gwallt yn yr Almaen gael ei gofrestru a bod â chrefftwr feistr cyflogedig, ond gall unrhyw un sefydlu ei hun yn y DU, ac nid oes yn rhaid bod yn gymwysedig, wedi’i hyfforddi na bod wedi cofrestru, er gwaethaf y ffaith eu bod yn darparu gweithdrefnau peryglus, gan gynnwys y defnydd o gemegau ar groen a gwallt, ac o gofio bod y Bil, fel y mae ar hyn o bryd, yn cynnwys harddwch a gweithdrefnau fel Botox ac, rwyf yn credu, llenwyr dermal, a wnewch chi roi ystyriaeth yn awr, ar ôl cyflwyno'r Bil, i'r pryderon a godwyd gan y diwydiant yn hyn o beth?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn a gwn fod hyn yn rhywbeth y bu ganddo ddiddordeb arbennig ynddo, ac mae’r corff sy'n cynrychioli trinwyr gwallt hefyd wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad ar y mater penodol hwn yn ogystal.
Yn ein barn ni, nid yw rheoleiddio diwydiant ac iechyd a diogelwch wedi'u datganoli, felly nid yw'n rhywbeth yr ydym yn credu y byddai gennym y pwerau i’w reoleiddio o fewn y Bil hwn beth bynnag. Y rheswm yr ydym wedi dewis y pedair gweithdrefn arbennig benodol hynny o ran cyflwyno'r Bil i'r Cynulliad oedd mai’r rhain sy'n cynnwys niwed arbennig, neu niwed posibl, dylwn ddweud, oherwydd eu bod yn tyllu’r croen a gallai hynny arwain at heintio, firysau a gludir yn y gwaed ac yn y blaen. Felly, dyna'r pethau sy'n clymu’r pedair gweithdrefn benodol hynny â'i gilydd. Hefyd, maen nhw'n rhai y mae awdurdodau lleol eisoes yn gyfarwydd â nhw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig pan fyddwn yn cyflwyno Bil, yn sicr yn ystod y cyfnod cyntaf, bod awdurdodau lleol yn cael cyfres o gyfrifoldebau y maen nhw’n gyfarwydd â nhw ac yn gallu eu rheoleiddio o fewn eu dealltwriaeth bresennol, er fy mod yn gwybod bod llawer o hyfforddiant eisoes yn digwydd gan ragweld taith lwyddiannus i’r Bil.
Yn union fel yr oedd yr achos dros fangreoedd dim ysmygu yn yr awyr agored, mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion yn y dyfodol ymestyn y rhestr o weithdrefnau arbennig os byddan nhw’n dewis gwneud hynny. Unwaith eto, byddai hynny'n digwydd ar ôl ymgynghori a thrwy'r broses gadarnhaol o fewn y Cynulliad.
Mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau yr oeddwn yn dymuno eu gwneud eisoes wedi'u crybwyll, ond rwyf yn awyddus i ddweud ychydig am y strategaeth toiledau cyhoeddus. Rwyf yn pryderu am ba mor bell y byddwn yn gallu symud ymlaen o ran y cyflenwad gwirioneddol o doiledau cyhoeddus gan y Bil ac rwyf yn credu bod hwn yn fater iechyd cyhoeddus pwysig dros ben. Cefais ymweliad yn fy etholaeth yr wythnos diwethaf gan etholwr 92 mlwydd oed sydd eisiau dechrau ymgyrch i gael toiledau cyhoeddus, gan fod y toiledau cyhoeddus olaf yn yr Eglwys Newydd bellach wedi eu cau, yn dilyn cau y toiled cyhoeddus yn Rhiwbeina. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl oedrannus ac anabl nad ydyn nhw’n mynd allan, oherwydd nad ydyn nhw’n gallu defnyddio'r toiled. O ran y cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno, fel mynd i mewn a defnyddio'r toiledau yn y dafarn neu'r caffi—dywedodd eu bod wir yn anfodlon gwneud rhywbeth o’r fath oherwydd eu bod yn teimlo’n annifyr yn mynd i mewn i dafarn neu gaffi, hyd yn oed os oes hysbysiad ar y ffenestr yn dweud eu bod yn fodlon i bobl ei ddefnyddio.
Felly, roeddwn i’n meddwl tybed sut y byddai bod â strategaeth yn symud pethau ymlaen, a'r pwynt arall yr oeddwn eisiau ei wneud, mewn gwirionedd, oedd am bobl gyda phlant ifanc hefyd—mae'n bwysig iawn eu bod yn gallu cael mynediad i doiledau cyhoeddus. Felly, rwyf yn credu ei fod yn fater iechyd cyhoeddus hanfodol, ac rwyf yn meddwl tybed sut y gallwn symud hyn ymlaen mewn gwirionedd drwy fod â strategaeth.
Diolch i chi am godi'r mater penodol hynny, ac rwy'n gwybod bod arolwg gan Help the Aged, fel yr oedden nhw pan gynhaliwyd yr arolwg—Age UK erbyn hyn—wedi canfod bod mwy na hanner y bobl hŷn yn teimlo bod diffyg toiledau cyhoeddus yn eu hatal rhag mynd allan mor aml ag y bydden nhw’n dymuno, ac mae hynny’n adlewyrchu i raddau helaeth y math o stori a ddywedasoch chi wrthym gynnau am un o'ch etholwyr chithau hefyd. Rwyf wedi cwrdd â Crohn’s and Colitis UK ac maen nhw wedi dweud rhywbeth tebyg iawn, bod ofn mynd allan heb wybod a fydden nhw’n gallu mynd i'r toiled yn llesteirio lles pobl o ran gallu cael gafael ar bopeth y gall y gymuned ei gynnig iddynt. Rwyf yn gobeithio y bydd y Bil hwn yn golygu y bydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fod â strategaeth toiledau leol ar waith yn golygu gwell cynllunio ar lefel leol, er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau yn diwallu anghenion cymunedau. Bydd toiledau hygyrch, glân sydd wedi eu lleoli yn dda mewn mannau fel parciau, promenadau, llwybrau beicio, a llwybrau cerdded yn helpu i annog pobl i deithio yn fwy egnïol, a defnyddio llwybrau mwy egnïol hefyd, ac rwy'n credu bod hyn i gyd yn rhan o’r darlun iechyd cyhoeddus ehangach.
Wrth ddatblygu eu strategaethau, ceir y nod y bydd awdurdodau lleol yn ystyried yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael, yn y sector cyhoeddus-llyfrgelloedd cyhoeddus, neuaddau cymuned a thref, canolfannau chwaraeon, theatrau ac amgueddfeydd felly, na fyddai pobl efallai yn teimlo mor bryderus o fynd i mewn iddyn nhw-ond hefyd adeiladau y sector preifat-y busnesau preifat hynny sydd wedi eu cynnwys ar hyn o bryd o dan y cynllun grant cyfleusterau cyhoeddus, er enghraifft-wrth ddatblygu eu strategaeth. Oherwydd, er yr ystyrir toiledau cyhoeddus yn aml o fewn cyd-destun y toiledau cyhoeddus ar wahân hynny a gynhelir gan awdurdodau lleol, mae’r adnoddau sydd ar gael yn llawer ehangach. Ond, rwyf yn deall amharodrwydd pobl efallai i ddefnyddio toiledau cyhoeddus y maen nhw’n teimlo nad oes ganddyn nhw hawl i'w defnyddio. Felly, yn rhan o gyflwyno'r Bil, byddem yn bwriadu cynnal ymgyrch hysbysebu codi ymwybyddiaeth gyhoeddus, fel bod pobl yn fwy ymwybodol o'r toiledau y cânt eu defnyddio yn yr ardal, ac efallai a allai leihau amharodrwydd rhai pobl i ddefnyddio'r toiledau sydd ar gael yn y gymuned yn ogystal.
Weinidog, mae llawer o gwestiynau eisoes wedi eu gofyn, ac rwyf yn llwyr gefnogi pwyntiau Julie Morgan ynglŷn â thoiledau cyhoeddus. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y strategaeth yn cael ei rhoi ar waith mewn gwirionedd, a bod pobl yn cael mynediad at yr holl gyfleusterau. Ac os nad oes rhai yno, nad ydyn nhw’n gallu dweud yn syml, ‘Ni allwn ei fforddio’, ond eu bod yn gwneud rhywbeth am y peth oherwydd ei bod yn hollbwysig bod y cyfleusterau hynny ar gael. Ac mae arwyddion cyfeirio at y cyfleusterau hynny yn y trefi hefyd yn hollbwysig. Fy sylw syml, fel rhywun a eisteddodd drwy ymgnawdoliad blaenorol y Bil, yw fy mod i'n falch iawn o weld yr agwedd nicotin ar gofrestri, gan fod nicotin yn gemegyn caethiwus ac mae'n amlwg yn bwysig i gofrestru y rhai hynny yn ogystal â thybaco. Mae'n bwysig felly oherwydd na fyddem yn dymuno i unrhyw un werthu’r math hwnnw o gynnyrch, o ystyried y goblygiadau y gallai bod yn gaeth eu hachosi.
Dim ond un pwynt. Un o'r pethau sydd wedi achosi oedi yw'r mater o weithdrefnau cosmetig. Dywedwyd wrthym yn ofalus iawn bod adroddiad Syr Bruce Keogh yn 2013 yn allweddol o ran edrych ar hyn, ac mae wedi ei wneud, ac mae wedi ei adrodd. Beth ydych chi'n ei wneud i edrych mewn gwirionedd ar ba un a oes modd i argymhellion o'r adroddiad hwnnw i Lywodraeth y DU gael eu gweithredu yn y Bil hwn, fel ein bod yn cynnwys gweithdrefnau cosmetig? Gwn fod pryder dwfn iawn am rai o'r gweithdrefnau a oedd yn torri’r croen, ond nad oedd wedi eu cynnwys yma, ac felly gall fod o dan yr ymbarél hwnnw, ond a oedd hefyd efallai â rhai goblygiadau difrifol i bobl, oherwydd bod awydd yn bodoli ymhlith llawer o bobl ifanc heddiw i edrych yn wahanol a chael gweithdrefnau cosmetig. Felly, mae angen i ni sicrhau bod yr holl weithdrefnau cosmetig yn cael eu rheoleiddio yn ofalus er mwyn sicrhau nad yw pobl ifanc yn mynd i sefyllfa lle maen nhw’n wynebu bywyd ofnadwy o'u blaenau oherwydd eu bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir ac nad oedd unrhyw reoleiddio wedi ei sefydlu.
Diolch am y cwestiwn yna, ac am eich croeso i'r gofrestr nicotin yn arbennig. Ond o ran y gweithdrefnau arbennig, gwn, yn ystod yr ymgynghoriad Papur Gwyn ar iechyd y cyhoedd, a thrwy graffu yn y Cynulliad blaenorol, fod llawer o Aelodau ac Aelodau Cynulliad wedi awgrymu rhestr o weithdrefnau arbennig y dylid ei hymestyn i gynnwys pethau fel y rhai yr ydych yn eu hawgrymu, fel llenwyr dermal, dyfrhau colonig a chael gwared ar datŵ, a'r holl weithdrefnau addasu corff, fel hollti tafod, cignoethi a brandio. Rwy'n gwybod bod y rhain i gyd yn bethau a gafodd eu harchwilio gan y pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf. Nid yw'r rhain wedi eu cynnwys o fewn y diffiniad o fesurau arbennig yn y Bil, ond fel y dywedais, mae'r Bil yn caniatáu i Weinidogion ddiwygio y rhestr o weithdrefnau arbennig trwy reoliadau yn y dyfodol. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn ailedrych ar rai o'r trafodaethau diddiwedd a gawsoch yn y pwyllgor yn ystod y cyfnod diwethaf.
Er mwyn cael eu hychwanegu at y rhestr, serch hynny, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried bod y weithdrefn yn cael ei pherfformio at ddibenion esthetig neu therapiwtig, a bod perfformio’r weithdrefn yn gallu achosi niwed i iechyd dynol. Dyna fyddai’r ffiniau y gallem gymryd y penderfyniadau hyn oddi mewn iddynt o dan y Bil. Ac efallai y bydd y diwygiad yn ychwanegu disgrifiad o weithdrefn at y rhestr neu’n tynnu math o weithdrefn oddi ar y rhestr, neu gallai amrywio disgrifiad sydd eisoes wedi'i gynnwys ar y rhestr hefyd. Y rheswm am hynny yw er mwyn ein galluogi i barhau i fod yn hyblyg a gallu ymateb i'r arferion hynny sy’n newid, y cyfeiriasoch atyn nhw, gan fod y maes arbennig hwn yn un sy'n symud yn gyflym iawn, ac mae tueddiadau yn digwydd yn gyflym iawn ac yn newid yn gyflym hefyd.
Diolch. Diolch yn fawr, Weinidog. Dyna ni, dim mwy o siaradwyr; diolch.