Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o weld Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ailymddangos ar ôl y llanastr chwerthinllyd a welsom yn gynharach eleni, a hoffwn ailddatgan ymrwymiad y blaid hon i’w gwneud yn bosibl i e-sigaréts fod ymysg yr amryw offer yn y blwch offer ar gyfer helpu i roi'r gorau i ysmygu.
Weinidog, ychydig iawn sydd yn y Bil hwn y dymunaf anghytuno ag ef. Yn wir, o ystyried amcan datganedig Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), sef defnyddio deddfwriaeth briodol i wella a diogelu iechyd a lles poblogaeth Cymru, rwy’n credu bod nifer o feysydd yr hoffwn eu harchwilio i weld a allwn ni gyflwyno deddfwriaeth fwy cadarn er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Byddwn hefyd yn dymuno edrych yn fanylach ar rai o oblygiadau cyllidol y Bil arfaethedig.
Nodaf yr awydd i greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin, ac mae hwn yn gam yr wyf yn ei gefnogi. Fodd bynnag, Weinidog, o ystyried y costau a fyddai’n gysylltiedig â hyn, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i awdurdodau lleol yn cyflawni’r ddyletswydd honno? Wedi'r cyfan, maent eisoes yn rhoi trwyddedau i safleoedd werthu alcohol, a byddwn yn awgrymu i chi bod y rhan fwyaf o safleoedd sy'n gwerthu alcohol, boed hynny’n archfarchnad, yn dafarn, yn siop gornel, hefyd yn dymuno gwerthu cynhyrchion tybaco a nicotin. Rwy’n derbyn wrth gwrs y bydd yna rai lleoliadau a fydd yn arbenigo mewn gwerthu dim ond cynhyrchion tybaco a nicotin, ond gellir eu hychwanegu hwy, ac am gost is y byddwn i’n tybio, at y gyfundrefn drwyddedu bresennol.
Nodaf y bwriad i wahardd rhoi cynhyrchion tybaco neu gynnyrch nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. Weinidog, a ydych chi wedi ystyried pa gosbau y byddech yn eu gorfodi ac ar bwy? Byddai'n bryder mawr pe ystyrid bod y manwerthwr yn gyfrifol am bobl dros 18 oed yn prynu sigaréts ac yn y blaen, ac yna’n eu rhoi i blant dan 18 oed rownd y gornel. Sut y byddwch chi’n dal, yn profi’r achos ac yn cosbi unrhyw droseddwr?
Nodaf yr amddiffyniad yr ydych wedi’i gynnig i bobl ifanc dan oed drwy wahardd rhoi tyllau mewn man personol o’u cyrff. O dan yr un bwriad i amddiffyn plentyn dan oed, a wnewch chi gryfhau cyfreithiau sy’n ymwneud â thatŵio ac addasu’r corff, o ystyried bod llawer o datŵs a rhai addasiadau i’r corff hefyd yn cael eu rhoi ar neu mewn rhannau o’r corff yr ystyrir eu bod yn bersonol? Rwy’n deall eich pryderon bod cyhoeddi gwaharddiad yn gwneud rhywbeth yn fwy deniadol, ond mae a wnelo hyn ag amddiffyn plant ac o’r hyn yr wyf i’n ei ddeall, byddai'r diwydiant hefyd yn hoffi gweld mwy o reoleiddio er mwyn eu hamddiffyn hwythau hefyd.
Nodaf y gofyniad i awdurdodau lleol baratoi cynlluniau strategaeth leol i adlewyrchu'r angen am doiledau cyhoeddus. Y gwir amdani yw, Weinidog, bod yr elfen hon o’r Bil yn wan a dweud y lleiaf. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sut yr ydych yn credu y gallai hyn fynd i’r afael â phrif lwybrau, ardaloedd twristaidd sydd â nifer uchel o ymwelwyr twristiaeth ond angen cymunedol isel, ac ardaloedd mwy gwledig. Onid ydych chi’n credu bod angen cynllun cenedlaethol cyffredinol hefyd i ddwyn y cynlluniau lleol at ei gilydd a llenwi'r bylchau?
Weinidog, mae Cymru yn gartref i rai o’r ardaloedd mwyaf llygredig yn y DU. Ffordd yr A472 ger Crymlyn sydd â'r gyfradd uchaf o lygredd mewn unrhyw ardal y tu allan i Lundain, wedi’i achosi’n bennaf gan dagfeydd oherwydd cerbydau trwm. Mae pobl sy'n byw yn yr ardal yn dod i gysylltiad â mwy a mwy o lygryddion niweidiol, sy'n niweidio’u hiechyd. Mae ymchwil yn ein galluogi ni i gael dealltwriaeth lawer gwell o ba mor niweidiol yw cysylltiad hirdymor â’r llygryddion aer hyn ar gyfer ein hiechyd. Gall niwed gan lygryddion aer fod yn gysylltiedig â chanser, asthma, clefyd y galon, strôc, diabetes, gordewdra a dementia. Yn 2010, cyfrannodd niwed gan lygryddion aer at 1,320 o farwolaethau yng Nghymru, ac mae’n chwarae rhan bwysig mewn llawer o'n heriau iechyd.
Weinidog, mae’n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol. Mae gofyniad ar lywodraeth leol i fonitro ansawdd yr aer lleol yn effeithiol a rhoi gwybod i'r cyhoedd pan fydd lefelau yn uwch na’r hyn a nodir yn y canllawiau. Yn yr un modd, mae ganddynt gyfrifoldeb i gyflawni strategaethau rheoli aer lleol. Felly, mae'n hanfodol bod y rhain yn cael eu cyflwyno ar y cyd â'r amcanion strategol cenedlaethol.