5. 4. Datganiad: Ymyrraeth ynghylch Erthygl 50

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:59, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gytuno â mi ei bod yn gwbl gyfreithlon i herio annibyniaeth barnwyr? Yn wir, mae Deddf Hawliau 1688 yn darparu'n benodol ar gyfer hyn oherwydd gall barnwr gael ei ddiswyddo yn dilyn penderfyniad gan ddau Dŷ'r Senedd. Yn yr achos yn y Goruchaf Lys yn ymwneud â’r Cadfridog Pinochet, o ran a oedd ganddo imiwnedd rhag erlyniad fel cyn bennaeth y wladwriaeth yn Chile, canfuwyd bod yr Arglwydd Hoffmann wedi ei analluogi ei hun rhag clywed yr achos a phenderfynwyd gwrthdroi’r penderfyniad ar sail ei bleidgarwch posibl. Felly, nid oes unrhyw beth o'i le mewn gwleidyddion yn mynegi barn naill ai ar y dyfarniadau y mae’r barnwyr wedi dod iddynt, neu yn wir, eu cymhwysedd neu fuddiant arall i wneud hynny. Wedi dweud hynny—