Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Rwyf ond yn sôn yn nhermau egwyddor gyfansoddiadol ac nid wyf yn mynegi barn ar unrhyw farnwr unigol. I mi fy hun, os caf ddweud, nid oes gen i yn bersonol unrhyw broblem gyda’r dyfarniad hwn yn yr Uchel Lys. Mae'n ymddangos i mi na ddylai bod unrhyw anhawster o ran y Senedd yn darparu modd o bleidleisio ar y mater os mai dyna sy’n ofynnol, a bydd yn ddiddorol gwybod a fydd Llafur, Plaid Cymru a'r pleidiau eraill yn rhoi grym i ewyllys y bobl, fel y mynegwyd mewn refferendwm, mewn pleidlais o'r fath. Oherwydd er bod yr achos hwn yn seiliedig ar y cwestiwn o uchelfraint frenhinol ac i ba raddau y ceir ei defnyddio i ddechrau'r broses o weithredu ein proses o dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, yr hyn yr ydym mewn gwirionedd yn sôn amdano yma yw uchelfraint y bobl, fel y mynegwyd mewn pleidlais yn y refferendwm, ar y cwestiwn syml: a ddylai'r DU barhau i fod yn aelod o'r UE neu adael yr UE—heb y petai a’r petasai nac unrhyw amodau ynghylch a oes gennym gytundeb olynol gyda'r UE neu’n aros yn y farchnad sengl, neu beth bynnag. Mae'r bobl wedi penderfynu ar y mater hwn ac mae dyletswydd foesol ar y Senedd i barchu eu dymuniadau. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn derbyn hynny.
Rwy’n nodi o'r dyfarniad, er i’r Cwnsler Cyffredinol gael ei gynrychioli yn yr achos yn yr Uchel Lys, na wnaeth y cwnsleriaeth, ar ei ran, gymryd unrhyw ran, mewn gwirionedd, yn y trafodion. A yw'n fwriad ganddo, yn y Goruchaf Lys, ei fod yn cael ei gynrychioli, nid gan unigolyn mud, ond gan rywun a fydd yn cymryd rhan lawn yn y trafodaethau? Felly, a fydd e’n cefnogi barn y Llywodraeth mai uchelfraint y bobl y bydd y Llywodraeth yn ei weithredu, wrth sbarduno erthygl 50?
Mae’r dyfarniad yn fy synnu braidd mewn rhai ffyrdd. Er ei bod yn gyfraith sefydledig na chaiff y Goron, trwy ddefnyddio ei huchelfraint, newid cyfraith y tir a'r hawliau a'r rhwymedigaethau a orfodir neu a roddir i unigolion preifat—ac mae hynny’n mynd yn ôl cyn belled â'r Achos o Ddatganiadau ym 1610, a daeth yn gwbl gyfredol mewn achos yn 1916 o’r enw Zamora, y cyfeiriwyd ato hefyd yn y dyfarniad—nid yw’r ffaith o roi rhybudd o dynnu'n ôl o gytundeb, ynddo'i hun, yn golygu diddymu unrhyw ddeddfwriaeth. Felly, er mwyn gweithredu’r broses o dynnu'n ôl, bydd yn rhaid diddymu’r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd ei hun ac felly bydd hynny’n mynd trwy'r prosesau seneddol arferol. Ac mae’n rhaid deddfu ar gyfer yr holl ddeddfwriaeth sy'n ddibynnol arni yr ydym am ei chadw, hyd yn oed am gyfnod dros dro yn unig, trwy gyfrwng Bil cadarnhaol arall. Felly, mae deddfwriaeth sylfaenol yn sgil-gynnyrch anochel i sbarduno erthygl 50, ac felly mae’n rhaid parchu priodoldeb seneddol a bydd yn cael ei barchu trwy gydol y broses gyfan.
Felly, byddai gennyf ddiddordeb i wybod a yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw, ac felly, bydd goruchafiaeth y Goron yn y Senedd, fel y cyfeiriodd ato, yng ngeiriau yr Arglwydd Bingham, nid yn unig yn cael ei pharchu, ond yn cael ei hwyluso, oherwydd, fel y mae ar y funud—dyma'r pwynt olaf yr wyf am ei wneud—o ganlyniad i’n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, rydym wedi creu trefn gyfreithiol newydd yn Ewrop, sydd mewn gwirionedd yn uwchraddol i'r Goron yn y Senedd. Felly, diben y broses gyfan hon, yr ydym yn awr yn dechrau cymryd rhan ynddi, yw adfer goruchafiaeth y Goron yn y Senedd, ac yn y pen draw, rym pobl Prydain i benderfynu pwy fydd yn eu llywodraethu.