Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddoe rwyf eisiau ailddatgan y cynlluniau hynny ar gyfer buddsoddiad pellach mewn band eang cyflym iawn yn dilyn gorffen rhaglen Cyflymu Cymru y flwyddyn nesaf. Rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’n huchelgeisiau o ran y rhaglen 'Symud Cymru Ymlaen’ i gyflwyno band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru. Ni ddylid diystyru ein cyflawniadau hyd yn hyn. Mae Cyflymu Cymru yn brosiect anferth sydd bellach wedi cyflwyno band eang cyflym iawn i bron i 614,000 o gartrefi a busnesau, ac wedi buddsoddi dros £162 miliwn o gyllid yr UE a chyllid cyhoeddus. I fod yn glir, mae hyn yn golygu bod 614,000 o safleoedd na fyddent wedi gallu cael band eang ffeibr cyflym heb ein hymyrraeth ni.
Nid ydym wedi gorffen eto. Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd 100,000 o safleoedd ychwanegol yn cael band eang ffeibr cyflym. Bydd hyn yn golygu buddsoddi hyd at £62 miliwn arall. Ond nid dyna fydd ei diwedd hi. Rydym yn asesu’r ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar gyda'r diwydiant telathrebu ar hyn o bryd ynglŷn â £12.9 miliwn ychwanegol i ehangu cwmpas y prosiect Cyflymu Cymru y flwyddyn nesaf. Dyma'r swm a ragwelwyd gan BT a fydd yn dychwelyd i’r pwrs cyhoeddus drwy’r cymal rhannu enillion yn rhan o’r contract Cyflymu Cymru cyfredol. Mae angen o hyd i ni gynnal dadansoddiad a deialog manwl â BT ac rydym ni’n disgwyl y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn ein galluogi i gyrraedd safleoedd ychwanegol yn rhan o’r contract Cyflymu Cymru erbyn mis Rhagfyr 2017.
O gofio y bydd y contract Cyflymu Cymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith paratoi angenrheidiol er mwyn sefydlu'r prosiect olynol ar gyfer buddsoddi mewn band eang. I ailadrodd, mae'r cymal rhannu enillion yn caniatáu i Lywodraeth Cymru elwa ar lwyddiant ein buddsoddiad yn rhwydwaith BT drwy’r prosiect Cyflymu Cymru. Caiff ein cyfran ni ei buddsoddi mewn cronfa, naill ai i’w hailfuddsoddi yn y prosiect neu ei dychwelyd, gan gynnwys llog, i Lywodraeth Cymru yn 2023.
Rydym yn rhagweld, yn seiliedig ar fodelu manwl, y bydd cronfa fuddsoddi Cyflymu Cymru yn y pen draw yn cynhyrchu rhwng £30 miliwn a £50 miliwn erbyn 2023 wrth i ddefnydd o’r gwasanaethau ffeibr a ariannir gan ein buddsoddiad gyrraedd rhwng 35 y cant a 50 y cant dros y cyfnod hwnnw. Byddwn yn cefnogi’r gweithgarwch hwn drwy ein hymrwymiad i ddarparu £20 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i gefnogi'r gweithgarwch hwn ac i ysgogi buddsoddiad ychwanegol sylweddol.
Rydym yn y cyfnod cynnar o drafodaethau gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i sicrhau £20 miliwn ychwanegol o gronfeydd strwythurol er mwyn parhau â'r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn. Rydym yn parhau i fod yn ffyddiog y bydd y cyllid ar gael, yn amodol ar gymeradwyaeth gan WEFO, o ganlyniad i warant Trysorlys y DU i anrhydeddu ceisiadau yr UE a gymeradwywyd cyn i’r DU adael yr UE. Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mwy yng Nghymru a fydd yn adeiladu ar lwyddiant Cyflymu Cymru a chyfrannu at nodau polisi Llywodraeth y DU. Mae gennym ymrwymiad o £2 filiwn heb ei dalu gan Lywodraeth y DU hefyd tuag at brosiect newydd ar gyfer band eang cyflym iawn.
O gynnwys hyn i gyd, caiff rhaglen Cyflymu Cymru ei thanategu gan gyllideb sector cyhoeddus o hyd at £80 miliwn, a bydd hyn yn ei dro yn ysgogi cyllid cyfatebol gan y sector preifat i ehangu cwmpas band eang ymhellach i'r safleoedd anoddaf i’w cyrraedd ledled Cymru erbyn 2020. Bydd cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i chwarae rhan, gan gyfrannu £1.5 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn gweithredu ochr yn ochr â phrosiect Cyflymu Cymru a phrosiectau olynol, a bod cyllid cyfatebol wedi’i sefydlu i ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall y tu hwnt i 2018.
Byddwn yn lansio adolygiad marchnad agored y mis hwn i sefydlu, ar lefel safle fesul safle, lle mae darpariaeth band eang cyflym iawn wedi ei gyflenwi hyd yn hyn a ble y mae’r farchnad yn bwriadu buddsoddi yn ystod y tair blynedd nesaf. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â'r farchnad delathrebu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf er mwyn helpu i lunio a llywio ein hardal ymyrraeth a’n strategaeth gaffael. Wrth ddatblygu'r ymyrraeth nesaf, bydd gwerth am arian yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac mae angen i mi atgoffa’r Aelodau na allwn ddarparu cysylltedd ffeibr heb ystyried y gost.
Ar hyn o bryd rydym yn gobeithio lansio'r broses gaffael ym mis Chwefror 2017 er mwyn gallu dyfarnu contract ym mis Ionawr 2018. Bydd cyrraedd yr ychydig y cant olaf yn heriol a bydd yn cymryd amser, ond o ddechrau yn awr, byddwn yn y sefyllfa orau bosibl pan ddaw'r prosiect Cyflymu Cymru i ben y flwyddyn nesaf. Diolch.