8. 7. Datganiad: Cymru Hanesyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:33, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Mae gennym bedwar sefydliad cenedlaethol mawr, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy’n geidwaid ar gyfer ein treftadaeth a’n diwylliant cyfoethog. Gyda'i gilydd, maent yn cynnal tystiolaeth o rychwant cyfan gweithgarwch dynol yng Nghymru, o'r darnau bach o asgwrn sy'n tystio i bresenoldeb pobl yng Nghymru fwy na 200,000 o flynyddoedd yn ôl, drwy henebion gwych o bensaernïaeth, llenyddiaeth a chelf, i lyfrau a gwrthrychau cyffredin heddiw a fydd yn dod yn drysorau’r dyfodol.

Fel cenedl, dylem fod yn falch iawn o'r sefydliadau hyn. Yn ogystal â gwarchod ein treftadaeth ddiwylliannol, maent yn ei gwneud yn hygyrch ac yn bleserus i’n dinasyddion ein hunain ac i ymwelwyr o bedwar ban y byd. Mae'r sefydliadau hyn yn hanfodol i hunaniaeth ein cenedl, felly mae'n rhaid i ni ymateb i'r heriau y maent eisoes yn eu hwynebu a'u helpu i fod yn fwy llwyddiannus, yn fwy cydnerth ac, yn y pen draw, yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Mae cyni Llywodraeth y DU wedi rhoi pwysau mawr ar gyllidebau’r sector treftadaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae adroddiad diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhybuddio bod pwysau cynyddol i ddod. Rydym wedi gwneud popeth posibl i amddiffyn ein sefydliadau cenedlaethol rhag y gwaethaf o'r toriadau hyn, ond erys cwestiwn sylfaenol: sut allwn ni, gan weithio mewn partneriaeth wirioneddol, wella gwasanaethau, darparu digon o fuddsoddiad cyfalaf a sicrhau bod gan Gymru sefydliadau diwylliannol a threftadaeth fywiog o hyd pan fydd y gystadleuaeth am adnoddau canolog yn fwy heriol nag erioed o'r blaen?

Mae pedwar mater brys y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw os ydym yn mynd i sicrhau dyfodol hyfyw ar gyfer y sector treftadaeth cyfan. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd i’n sefydliadau diwylliant a threftadaeth arloesi a bod yn uchelgeisiol am y rhan y maent yn ei chwarae yn ein bywyd cenedlaethol. Mae angen iddynt weithio gyda'i gilydd i greu gweledigaeth gymhellol o’r dyfodol hwnnw. Ni ddylai ffiniau sefydliadol fod yn rhwystr i ansawdd y gwasanaethau a gynigir, p'un a yw'r gwasanaethau hynny ar gyfer ymwelwyr, ein cymunedau ein hunain neu yn wir, yn asedau treftadaeth eu hunain.

Yn ail, mae'n rhaid i ni gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio ein sefydliadau diwylliant a threftadaeth. Bydd hyn yn golygu gosod targedau ymestynnol ar gyfer nifer yr ymwelwyr a datblygu ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd newydd. Mae'n rhaid i ni gyflymu ein gwaith i ehangu mynediad i'r celfyddydau a diwylliant ar gyfer grwpiau sydd wedi’u heithrio yn draddodiadol. Mae gennym hanes balch o ehangu mynediad a chynnwys mwy o bobl mewn gweithgareddau diwylliannol trwy gefnogi mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol. Hoffwn i’n sefydliadau treftadaeth cenedlaethol arwain y ffordd o ran twristiaeth gymdeithasol er enghraifft, a chwarae mwy o ran wrth fynd i'r afael â'r bwlch rhwng y cenedlaethau. Rydym yn gwybod y gallwn gyflawni canlyniadau anhygoel pan fyddwn yn pennu targedau uchelgeisiol. Mae Cadw, er enghraifft, wedi cael ei blwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed o ran nifer yr ymwelwyr ac, o ganlyniad, o ran cynhyrchu incwm masnachol. Gwnaed hyn drwy ailstrwythuro i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir wrth reoli rhai o atyniadau ymwelwyr mwyaf eiconig Cymru. Mae wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd marchnata arobryn, wedi buddsoddi mewn gwelliannau mawr i’r profiad ymwelwyr, wedi dyblu ei rhaglen o ddigwyddiadau ac, wrth wneud hynny, wedi helpu i agor yr henebion i deuluoedd a phobl ifanc mewn ffordd nad yw erioed wedi ei wneud o'r blaen.

Yn drydydd, mae angen i ni farchnata a hyrwyddo ein sefydliadau diwylliant a threftadaeth yn fwy egnïol ac effeithiol. Bydd angen i frandiau a chynigion ein sefydliadau cenedlaethol fod yn gliriach, yn fwy grymus ac yn fwy deniadol os ydynt i ddenu sylw mewn byd lle mae cystadleuaeth am amser a sylw pobl yn tyfu yn fwy ffyrnig.

Mae’r her olaf yn ymwneud â phobl. Mae sgiliau, angerdd ac arbenigedd pobl sy'n gweithio yn rhoi anadl eisoes i’n sefydliadau lawn cymaint â’r asedau diwylliannol sydd ganddynt. Mae angen i ni roi mwy o barch a chydnabyddiaeth i’r bobl hyn a chynnig mwy o gyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd yn y maes. Mae'r sgiliau sydd eu hangen i ofalu am ein treftadaeth yn werthfawr ac mae angen i ni gadw ein harbenigwyr er mwyn gwarchod a dehongli ein hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Nid yw’r atebion i gyd gennyf, ond o un peth, rwy’n gwbl sicr: bydd ein sefydliadau treftadaeth cenedlaethol yn gryfach drwy weithio gyda'i gilydd, yn rhannu eu profiadau a'u harbenigedd i ddod o hyd i lwybrau arloesol tuag at ddyfodol mwy cadarn a chynaliadwy. Bydd hyn yn gofyn i sefydliadau gydweithio a chydweithredu mewn ffyrdd newydd ac efallai, lle bo angen, rannu adnoddau. Rwy'n gwybod bod hyn yn ddadleuol, ond mae yn bosibl ei wneud heb gyfaddawdu hunaniaeth unigryw ac annibyniaeth ein sefydliadau.

Credaf mai rhan o'r ateb yw creu corff newydd, yr ydym wedi ei alw am y tro yn Cymru Hanesyddol. Rwy’n argyhoeddedig bod gennym gyfle go iawn yma i ddod â phwyslais pendant a hunaniaeth gliriach i waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol. Ni fydd dod â’u swyddogaethau masnachol at ei gilydd yn tanseilio annibyniaeth neu hunaniaeth y sefydliadau unigol, ond yn hytrach, bydd yn eu galluogi i farchnata eu hasedau diwylliannol o'r radd flaenaf yn fwy effeithiol i bobl Cymru, Prydain a'r byd. Bydd dull masnachol gwirioneddol gydgysylltiedig ymysg ein sefydliadau cenedlaethol yn galluogi iddynt i ddod yn gryf yn ariannol ac ymgysylltu mwy â'r cyhoedd. Dyna pam, ym mis Medi, y cyhoeddais yr adroddiad 'Buddsoddi yn y dyfodol i warchod y gorffennol'. Mae'r adroddiad, a gadeiriwyd gan y Farwnes Randerson, yn nodi'r dewisiadau ar gyfer rhoi hunaniaeth unedig gryfach i sefydliadau treftadaeth cenedlaethol Cymru. Mae'r dewisiadau a ystyriwyd yn yr adroddiad yn amrywio o wella’r dulliau o weithio mewn partneriaeth i atebion mwy eithafol, megis creu elusen newydd neu uno sefydliadau.

Nid dechrau'r broses oedd yr adroddiad. Fel rhan o ddatblygiad Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, ystyriwyd cyflwyno gwasanaethau amgylchedd hanesyddol cyhoeddus yn y dyfodol, gan gynnwys uno Cadw a'r comisiwn brenhinol. Rydym wedi adolygu'r safbwyntiau a fynegwyd ar y pryd, ac yr oedd llawer ohonynt yn dod i'r casgliad bod newid strwythurol yn amserol ac yn angenrheidiol.

Y cam nesaf yw paratoi’r achosion busnes a’r dadansoddiad manwl sydd ei angen i brofi hyfywedd y dewisiadau yn adroddiad y Farwnes Randerson. Dyna pam, ar ddechrau mis Medi, y sefydlais grŵp llywio sy'n cynnwys uwch reolwyr o'r amgueddfa genedlaethol, y llyfrgell genedlaethol, Cadw a'r comisiwn brenhinol, ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr undebau llafur. Mae wedi’i gadeirio gan Justin Albert o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rwyf wedi gofyn i'r grŵp llywio edrych yn feirniadol ar y dewisiadau ac i benderfynu ar y ffordd orau i gyfansoddi Cymru Hanesyddol fel y gall ein treftadaeth genedlaethol a sefydliadau diwylliannol harneisio eu harbenigedd a’u hadnoddau cyfunol yn y ffordd orau. Rwyf wedi gofyn i'r grŵp roi ei gyngor cychwynnol i mi ym mis Ionawr. Bydd y cyngor hwn yn fy rhoi mewn sefyllfa well i ddatblygu cynllun manwl ar gyfer Cymru Hanesyddol, a fydd, fel y dywedais droeon, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.

Nid wyf yn tanbrisio’r her sydd o'n blaenau ac rwyf am weithio gyda'r sector treftadaeth i wneud Cymru Hanesyddol, ar ba ffurf bynnag y caiff ei gyfansoddi, yn endid deinamig ac arloesol a all helpu Cymru i werthu ei hun i'r byd. Yr wyf i, felly, yn barod i wrando ac ymgysylltu ag unrhyw un sydd am gyfrannu'n adeiladol at y weledigaeth sy'n datblygu ar gyfer Cymru Hanesyddol. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, nid yw’r status quo bellach yn bosibilrwydd. Nid dyma’r amser ar gyfer diogelu ymerodraethau yn y tymor byr: mae gormod yn y fantol. Mae’n rhaid i ni beidio â syrthio i'r fagl o wybod gwerth yr hyn sydd gennym, ond anwybyddu'n fwriadol y penderfyniadau anodd y mae angen eu gwneud i’w ddiogelu.