Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 8 Tachwedd 2016.
A gaf i ddiolch i chi, hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw? Mae'n well gennym ddatganiadau yn y Siambr hon, yn hytrach na datganiadau ysgrifenedig, yn enwedig pan fydd gennym faterion sydd, fel yr ydych yn cyfeirio atynt, braidd yn ddadleuol. Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn falch o'r sefydliadau—nid ydych yn unigryw yn hynny o beth—ac rwy’n credu ein bod yn eithaf balch, hefyd, o’r bobl sy'n gweithio i’r sefydliadau hynny ac yn eu gwneud y sefydliadau unigryw yr ydynt. Does gen i ddim problem enfawr hyd yn oed â'ch dadansoddiad o'r pedwar mater sy’n pwyso a godwyd gennych yn y datganiad. Fy mhroblem, yn hytrach, yw eich ymagwedd at ddod o hyd i ymateb priodol i'r rheini.
Rydych yn dweud nad yw’r atebion i gyd gennych, ond mae wedi dod yn amlwg bod gennych ateb yr ydych yn ei ffafrio, sef yr olaf o'r pedwar dewis a gyflwynwyd yn yr adroddiad PricewaterhouseCoopers y cyfeirir ato yn eich datganiad. Cadarnhawyd hynny yn eich llythyr, dyddiedig 27 Gorffennaf, i gyfarwyddwr yr amgueddfa genedlaethol, ac, rwy’n deall, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru, er y gallaf fod yn anghywir ar hynny. Os yw hyn yn wir yn ymrwymiad maniffesto, fel y dywedasoch yn natganiad mis Medi, hoffwn i chi nodi ymhle y gallaf ddod o hyd iddo. Os yw'n cuddio y tu ôl i wal dal negeseuon e-bost y Blaid Lafur, nid wyf yn siŵr eich bod yn gallu honni bod pobl Cymru wedi pleidleisio mewn gwirionedd dros hyn, yn enwedig gan yr ymddengys y bu’r adroddiad gan PwC, sy'n cynnig dewisiadau amgen, yn gyfrinachol tan y mis Medi hwn.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: sut ydych chi yn bersonol wedi dod i'r casgliad mai dewis o ran 4 Cymru Hanesyddol yw’r canlyniad a ffefrir gennych? Efallai y byddwch yn nodi’r gwelliant yn yr incwm a gynhyrchir gan Cadw o ganlyniad i'r cydweithio rhwng Cadw a Chroeso Cymru, ond, cyn belled ag y gallaf i weld, nid ydych wedi uno swyddogaethau Cadw a Chroeso Cymru. Mae unrhyw ailstrwythuro, rydych newydd ddweud, wedi bod o fewn Cadw.
Fy ail gwestiwn yw hwn: gan fod y grŵp llywio yn gwybod pa ddewis yr ydych chi’n ei ffafrio, sut y gallwn fod yn hyderus y gall ystyried y dystiolaeth yn adroddiad PwC gyda meddwl hollol agored? Rwyf am ei gwneud yn glir nad wyf yn dweud unrhyw beth am uniondeb aelodau'r grŵp hwn—dydw i ddim yn bendant—ond rydych wedi anfon arwydd cryf y byddai, yn eich barn chi, ac er gwaethaf cynnwys adroddiad PwC, fersiwn o Gymru Hanesyddol ar ffurf dewis 4, sy’n cynrychioli uno sylweddol, drwy oblygiad, yn well na'r dewisiadau eraill a gynigir yn yr adroddiad hwnnw.
Fy nhrydydd cwestiwn yw hwn: mae eich datganiad a'r dystiolaeth i'r pwyllgor diwylliant yn ei gwneud yn glir bod eich bod chi’n credu’n gryf yn yr angen i gydweithio. Nid wyf yn credu, mewn gwirionedd, fod unrhyw un ohonom yn anghytuno â chi am hyn. Yn sicr rydym yn hapus, fel Ceidwadwyr, i weld cydweithio cryfach ar weithgareddau masnachol. Ond, ychydig dros flwyddyn yn ôl—mae hyn yn ôl cyfarwyddwr yr amgueddfa—daeth Cadw, yr amgueddfa, y comisiwn brenhinol a'r llyfrgell genedlaethol at ei gilydd a ffurfio partneriaeth fwy llac, sef partneriaeth yn arddull dewis 1, i gydweithio ar nifer o faterion, gan gynnwys gweithgarwch masnachol. Yn eich barn chi, pam yr oedd y model hwn yn ddiffygiol i’r graddau eich bod yn ystyried bod uno ffurfiol bellach yn angenrheidiol?
Yn olaf, gan fy mod i’n gwerthfawrogi bod llawer o bobl sy’n awyddus i ofyn cwestiynau am hyn—mae llawer o bryderon am hyn—rwyf am ailadrodd dau gwestiwn a ofynnais ichi rai wythnosau'n ôl na wnaethoch eu hateb. Y cyntaf oedd hwn: beth wnaethoch chi ddysgu o ymgais aflwyddiannus Llywodraeth Cymru i uno Cadw a'r comisiwn brenhinol? Rydych yn dweud fod cefnogaeth ar gyfer newid strwythurol. Yr hyn yr wyf i’n ei gofio yw llawer iawn o wrthwynebiad i'r newid strwythurol ac, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru yn ildio ar hynny. Yn ail, os ydych yn cael awgrym gan y Cynulliad hwn, sydd yn y fantol, nad yw model dewis 4 Cymru Hanesyddol yn dderbyniol, a fyddwch yn ei dynnu oddi ar y bwrdd? Oherwydd mae’r Prif Weinidog yn hoff o ailadrodd, pan ddaw at Brexit, ei fod yn disgwyl i sefyllfa drafod a threfniadau’r DU ar ôl gadael gael eu cytuno gan yr holl genhedloedd ac nid cael ei orfodi gan Lywodraeth y DU, ac ni welaf unrhyw wahaniaeth yn yr egwyddor yn y fan yma. Os yw'r grŵp llywio o blaid trosglwyddo ystod eang o swyddogaethau i gorff newydd, yn hytrach na dirprwyo, er gwaethaf lefel y gweithgarwch ymgyrchu yr ydym eisoes wedi’i gweld, yna mae hyn yn awgrymu y bydd Cymru Hanesyddol ar ffurf dewis 4 yn fater o orfodi yn hytrach na chytundeb. Diolch.