Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad mewn wythnos bwysig ac i lawer, wythnos hynod emosiynol ac wythnos pryd y dylem ni i gyd gymryd amser i oedi, meddwl ac ystyried, gan gadw mewn cof, yn aml, y pellaf yn ôl yr ydym yn edrych, y pellaf ymlaen y gallwn weld.
Yn eich datganiad, cyfeiriasoch at y llwybr cyflogadwyedd, yr wyf, unwaith eto, yn ei groesawu, a gall hwn fod yn fater hollbwysig. Mae data Cyn-filwyr gan GIG Cymru yn dangos mai dim ond un rhan o dair o'r cyn-filwyr a aseswyd yn 2014-15 sy’n disgrifio eu hunain fel rhai sydd wedi’u cyflogi naill ai'n llawn amser neu'n rhanamser. Canfuwyd hefyd mai dim ond 52 y cant o’r rhai sy’n ymadael â gwasanaeth yn gynnar oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant chwe mis ar ôl gadael y lluoedd arfog.
Yn 2012, cafodd CTP Future Horizons ei lansio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i helpu pobl sy'n gadael y gwasanaeth yn gynnar, ac ar ôl chwe mis, roedd 63 y cant mewn cyflogaeth neu hyfforddiant. Sut, felly, ydych chi’n mynd i'r afael â'r pryder, er bod canolfannau ailsefydlu yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a'r Almaen, nad oes rhai yng Nghymru ar hyn o bryd?
Cyfeiriasoch at y prosiect Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Addysg Cymru, fodd bynnag, mewn mater cysylltiedig yng Nghymru, does dim premiwm disgyblion ar wahân ar gyfer plant i rieni sy’n bersonél y gwasanaethau. Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grant amddifadedd disgyblion, ond mae’r grant hwnnw ar gael i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn unig, a dim ond ychydig o blant y mae eu rhieni yn y lluoedd arfog sydd â hawl i hynny. Mewn cyferbyniad, mae'r premiwm disgyblion lluoedd arfog yn Lloegr yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â’u rhieni yn y lluoedd arfog. Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor amddiffyn yn 2013, teimlai teuluoedd lluoedd arfog eu bod wedi bod dan anfantais oherwydd diffyg premiwm disgyblion tan hynny, a nodwyd fel arf pwysig wrth helpu ysgolion i nodi a chefnogi teuluoedd lluoedd arfog. Sut, felly, ydych chi’n cyfeirio at hyn? Roedd yn fater a godwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn eu maniffesto Cymru 2016, a’u galwad ar Lywodraeth Cymru i weithredu premiwm disgyblion lluoedd arfog Cymru.
Cyfeiriasoch at y ffaith bod tai yn un o'r heriau mwyaf a datblygu llwybr atgyfeirio tai ar gyfer cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae'r llwybr, rwy’n gwybod, wedi cael croeso yn y sector, ond mae pryderon—er nad yw wedi ei gyhoeddi, gwn y bydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan—mai’r cyfan a wna yw rhoi manylion mewn un lle o’r hyn y mae gan rywun eisoes hawl iddo neu ddim hawl iddo, heb gynnig rhywbeth ychwanegol, ac yn pwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod staff tai rheng flaen yn derbyn hyfforddiant ynglŷn â hynny. Tybed pe gallech, unwaith eto, ymateb i'r pryder hwnnw.
Cyfeiriasoch at Cadw'n Ddiogel Cymru ar gyfer cyn-filwyr a chroesawaf y ffaith y gall cyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd penodol gofrestru eu manylion gyda'r heddlu, ac y bydd eu hymateb yn cael ei addasu yn unol â hynny. Rydych yn gwybod mae’n siŵr, a chefais ddiweddariad ar hyn ar y penwythnos mewn cyfarfodydd, bod CAIS, yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, wedi cyflwyno ffurflen ddalfa, sydd yn gofyn, 'A ydych chi yn gyn-filwr?' pan fydd pobl yn mynd i mewn i'r ddalfa. Mae'n cael ei chyflwyno erbyn hyn, rwy’n deall, i Went. Tybed a ydych yn cymryd rhan mewn trafodaethau er mwyn trefnu bod y ffurflen honno yn cyrraedd pob un o heddluoedd Cymru. Neu a oes gennych chi rywfaint o newyddion da i'w rannu gyda ni i'r perwyl hwnnw?
Ar ddiwedd eich datganiad, cyfeiriasoch at wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Efallai eich bod yn ymwybodol, ac rwy'n siŵr eich bod chi, ar ôl i mi godi materion gyda chi ym mis Gorffennaf, y cefais lythyr gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst. Roedd hwn yn cyfeirio at yr apwyntiad cyntaf ar gyfer y rhai sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer anhwylder straen wedi trawma gyda chyfartaledd o 42 diwrnod, ond mewn gwirionedd yr amser aros y gwnaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol ymgyrchu drosto ym maniffesto etholiadol Llywodraeth y DU oedd 126 diwrnod—18 wythnos—ac mae'r ffigurau y tu allan i darged 28 diwrnod Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer gwasanaeth gofal cynradd, lle mae’r targed 28 diwrnod ar gyfer atgyfeirio i asesu yn unig. Y realiti, rwy’n deall, yw bod y ffigurau diweddaraf ar gyfer y mis diwethaf yn dangos bod amseroedd aros ym myrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Betsi Cadwaladr ac Aneurin Bevan hyd at 38 wythnos ar gyfer atgyfeirio ar gyfer triniaeth, sef yr hyn yr oedd y pryder yn ymwneud ag o.