– Senedd Cymru am 6:35 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned y lluoedd arfog. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Carl Sargeant.
Diolch i chi, Lywydd. Mae’r adeg hon o'r flwyddyn yn enwedig yn ein hatgoffa o bawb sydd wedi ymladd mewn brwydrau i warchod y ffordd o fyw sydd gennym heddiw. Eleni rydym wedi coffáu rhai o frwydrau mwyaf y rhyfel byd cyntaf. Cofiwn y rhai a gollodd eu bywydau yn Jutland ac yn ystod brwydr y Somme, yn enwedig ym Mametz Wood. Gwnaeth miloedd o filwyr Cymreig yr aberth eithaf. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi canmlwyddiant brwydr Passchendaele, un o frwydrau allweddol y rhyfel byd cyntaf, pan gollodd 70,000 o filwyr Prydeinig eu bywydau, llawer ohonynt o Gymru, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn.
Mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio'r rheiny a gollodd eu bywydau yn wrol i amddiffyn y rhyddid sydd gennym heddiw, a byddwn yn parhau i’w coffáu. Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn ymwybodol o'r Ffenestr Wylofus drawiadol o babïau yn Nhwr Llundain. Bydd y gwaith celf hynod hwn yn cael ei arddangos yng nghastell Nghaernarfon—y lleoliad cyntaf yng Nghymru i gynnal yr arddangosfa—tan 20 Tachwedd. Rwy’n eich annog i gyd i ymweld ag ef. Drwy'r rhaglen Cymru'n Cofio—Wales Remembers, byddwn yn parhau i nodi digwyddiadau arwyddocaol y rhyfel byd cyntaf.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Diwrnodau Lluoedd Arfog yng Nghymru. Maent yn rhoi cyfle i bobl Cymru ddangos eu gwerthfawrogiad a'u diolch i'r rhai hynny sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac i gyn-filwyr. Drwy ein rhaglen lywodraethu, rydym yn parhau'n ymroddedig i ddarparu cymorth a gwasanaethau parhaus i'n cymuned lluoedd arfog bresennol. Ers fy natganiad diwethaf, ym mis Mehefin, rydym wedi bwrw ymlaen â'r agenda lluoedd arfog. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar nifer o fentrau yr ydym wedi’u creu.
Rydym wedi adnewyddu ein pecyn cymorth ac wedi cynhyrchu canllaw ar wahân ar gyfer personél sy’n gwasanaethu a'u teuluoedd, a elwir yn 'Croeso i Gymru'. Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn nodi'r cymorth sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer personél sy’n gwasanaethu a chyn-bersonél y gwasanaeth a'u teuluoedd. Cawsant eu lansio yn ein cynhadledd cyfamod ym mis Medi, ac maent wedi croeso da gan ein partneriaid.
Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi oedolion ifanc sy'n agored i niwed hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £50,000 i Frigâd Troedfilwyr 160 a Phencadlys Cymru tuag at gyflawni llwybr cyflogadwyedd eu lluoedd arfog. Nod hyn yw rhoi cipolwg i ddynion a menywod ifanc ar y fyddin, ynghyd â'r hyfforddiant galwedigaethol yn y gweithle er mwyn eu galluogi i adeiladu eu sgiliau a’u hyder ac ennill cymwysterau a sicrhau cyflogaeth a phrentisiaethau. Lywydd, enghraifft dda o lwyddiant y llwybr yw stori’r dyn ifanc digartref o Ferthyr, a oedd yn aml yn gorfod chwilio am fwyd a chysgu allan. Mae'r rhaglen hon wedi ei helpu i newid ei fywyd ac mae bellach ar ei ffordd i greu gyrfa gyda'r Corfflu Logisteg Brenhinol.
Mae'r prosiect Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Addysg Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae storïau digidol a ffilmiau wedi eu datblygu i ddarparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff a chodi ymwybyddiaeth o'r heriau a wynebir gan blant y mae eu rhieni yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Mae'r straeon digidol yn cynnig cipolwg unigryw ar fywyd y plant hynny yma yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol bod tai yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cyn-filwyr a'u teuluoedd. Rydym wedi ymgynghori â'n partneriaid allweddol i ddarparu a datblygu llwybr atgyfeirio tai. Bydd hyn yn galluogi cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud penderfyniadau cytbwys am y dewis mwyaf priodol ar eu cyfer. Byddaf yn lansio'r llwybr ar 10 Tachwedd.
Mae Cadw'n Ddiogel Cymru i gyn-filwyr yn enghraifft dda o sut y mae gweithio gyda'n gilydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Gall cyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd penodol, ac sydd angen cefnogaeth ychwanegol gan y gwasanaethau brys ar adegau o argyfwng, gofrestru eu manylion gyda'r heddlu, a bydd eu hymateb yn cael ei addasu yn unol â hynny. Byddaf yn lansio'r cynllun hwn ar 23 Tachwedd.
Lywydd, rydym yn aml yn clywed am y cymorth gwerthfawr a ddarperir gan deuluoedd a gwŷr a gwragedd y rhai sy’n gwasanaethu. Mae llawer ohonynt wedi aberthu eu dewisiadau a'u cyfleoedd eu hunain er mwyn cefnogi eu hanwyliaid. Mae adegau pan fyddan nhw, hefyd, angen cymorth a'r cyfle i gael eu gyrfa eu hunain a datblygu eu sgiliau.
Fel y dywedais yn gynharach, bydd ein cynnig gofal plant yn helpu rhieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio drwy ddarparu dysgu cynnar a gofal plant am ddim. Gall y cynnig roi dewisiadau i rieni am eu cyflogaeth, faint o oriau y maent yn dymuno gweithio a’r lleoliad. Rwyf wrth fy modd i ddweud wrthych fod Gwasanaethau Addurno D. J. Rees o Ferthyr wedi ennill gwobr aur yng nghynllun cydnabyddiaeth cyflogwr eleni—y cyntaf yng Nghymru am gefnogi a helpu aelodau o'r gymuned lluoedd arfog i ddod o hyd i gyflogaeth yma yng Nghymru.
Lywydd, byddwn yn parhau i gefnogi gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Yn y dyfodol, byddwn yn ceisio creu dull mwy di-dor gyda'n partneriaid allweddol megis CAIS a'r Lleng Brydeinig Frenhinol i roi’r cymorth sydd ei angen i gyn-filwyr. Rydym wedi dod yn bell iawn, Lywydd, ond mae mwy i'w wneud. Mewn cyfnod heriol fel hwn, mae'n bwysig i ni symud ymlaen gyda'n gilydd, a chyda’n partneriaid allweddol, gallwn wneud gwahaniaeth i’r gymuned hon.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad mewn wythnos bwysig ac i lawer, wythnos hynod emosiynol ac wythnos pryd y dylem ni i gyd gymryd amser i oedi, meddwl ac ystyried, gan gadw mewn cof, yn aml, y pellaf yn ôl yr ydym yn edrych, y pellaf ymlaen y gallwn weld.
Yn eich datganiad, cyfeiriasoch at y llwybr cyflogadwyedd, yr wyf, unwaith eto, yn ei groesawu, a gall hwn fod yn fater hollbwysig. Mae data Cyn-filwyr gan GIG Cymru yn dangos mai dim ond un rhan o dair o'r cyn-filwyr a aseswyd yn 2014-15 sy’n disgrifio eu hunain fel rhai sydd wedi’u cyflogi naill ai'n llawn amser neu'n rhanamser. Canfuwyd hefyd mai dim ond 52 y cant o’r rhai sy’n ymadael â gwasanaeth yn gynnar oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant chwe mis ar ôl gadael y lluoedd arfog.
Yn 2012, cafodd CTP Future Horizons ei lansio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i helpu pobl sy'n gadael y gwasanaeth yn gynnar, ac ar ôl chwe mis, roedd 63 y cant mewn cyflogaeth neu hyfforddiant. Sut, felly, ydych chi’n mynd i'r afael â'r pryder, er bod canolfannau ailsefydlu yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a'r Almaen, nad oes rhai yng Nghymru ar hyn o bryd?
Cyfeiriasoch at y prosiect Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Addysg Cymru, fodd bynnag, mewn mater cysylltiedig yng Nghymru, does dim premiwm disgyblion ar wahân ar gyfer plant i rieni sy’n bersonél y gwasanaethau. Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grant amddifadedd disgyblion, ond mae’r grant hwnnw ar gael i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn unig, a dim ond ychydig o blant y mae eu rhieni yn y lluoedd arfog sydd â hawl i hynny. Mewn cyferbyniad, mae'r premiwm disgyblion lluoedd arfog yn Lloegr yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â’u rhieni yn y lluoedd arfog. Mewn tystiolaeth i'r pwyllgor amddiffyn yn 2013, teimlai teuluoedd lluoedd arfog eu bod wedi bod dan anfantais oherwydd diffyg premiwm disgyblion tan hynny, a nodwyd fel arf pwysig wrth helpu ysgolion i nodi a chefnogi teuluoedd lluoedd arfog. Sut, felly, ydych chi’n cyfeirio at hyn? Roedd yn fater a godwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn eu maniffesto Cymru 2016, a’u galwad ar Lywodraeth Cymru i weithredu premiwm disgyblion lluoedd arfog Cymru.
Cyfeiriasoch at y ffaith bod tai yn un o'r heriau mwyaf a datblygu llwybr atgyfeirio tai ar gyfer cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae'r llwybr, rwy’n gwybod, wedi cael croeso yn y sector, ond mae pryderon—er nad yw wedi ei gyhoeddi, gwn y bydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan—mai’r cyfan a wna yw rhoi manylion mewn un lle o’r hyn y mae gan rywun eisoes hawl iddo neu ddim hawl iddo, heb gynnig rhywbeth ychwanegol, ac yn pwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod staff tai rheng flaen yn derbyn hyfforddiant ynglŷn â hynny. Tybed pe gallech, unwaith eto, ymateb i'r pryder hwnnw.
Cyfeiriasoch at Cadw'n Ddiogel Cymru ar gyfer cyn-filwyr a chroesawaf y ffaith y gall cyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd penodol gofrestru eu manylion gyda'r heddlu, ac y bydd eu hymateb yn cael ei addasu yn unol â hynny. Rydych yn gwybod mae’n siŵr, a chefais ddiweddariad ar hyn ar y penwythnos mewn cyfarfodydd, bod CAIS, yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, wedi cyflwyno ffurflen ddalfa, sydd yn gofyn, 'A ydych chi yn gyn-filwr?' pan fydd pobl yn mynd i mewn i'r ddalfa. Mae'n cael ei chyflwyno erbyn hyn, rwy’n deall, i Went. Tybed a ydych yn cymryd rhan mewn trafodaethau er mwyn trefnu bod y ffurflen honno yn cyrraedd pob un o heddluoedd Cymru. Neu a oes gennych chi rywfaint o newyddion da i'w rannu gyda ni i'r perwyl hwnnw?
Ar ddiwedd eich datganiad, cyfeiriasoch at wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Efallai eich bod yn ymwybodol, ac rwy'n siŵr eich bod chi, ar ôl i mi godi materion gyda chi ym mis Gorffennaf, y cefais lythyr gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst. Roedd hwn yn cyfeirio at yr apwyntiad cyntaf ar gyfer y rhai sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer anhwylder straen wedi trawma gyda chyfartaledd o 42 diwrnod, ond mewn gwirionedd yr amser aros y gwnaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol ymgyrchu drosto ym maniffesto etholiadol Llywodraeth y DU oedd 126 diwrnod—18 wythnos—ac mae'r ffigurau y tu allan i darged 28 diwrnod Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer gwasanaeth gofal cynradd, lle mae’r targed 28 diwrnod ar gyfer atgyfeirio i asesu yn unig. Y realiti, rwy’n deall, yw bod y ffigurau diweddaraf ar gyfer y mis diwethaf yn dangos bod amseroedd aros ym myrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Betsi Cadwaladr ac Aneurin Bevan hyd at 38 wythnos ar gyfer atgyfeirio ar gyfer triniaeth, sef yr hyn yr oedd y pryder yn ymwneud ag o.
A ydych yn dod i’r diwedd, os gwelwch yn dda?
Rydych yn cyfeirio ar y diwedd at CAIS ac, wrth gwrs, maent yn gwneud rhai prosiectau gwych, Change Step, yn arbennig. Maent hefyd yn rhedeg cymorth Listen In i deuluoedd. Mae'r cyllid ar gyfer hynny wedi dod i ben. Maent yn darparu cefnogaeth haen is o fewn Change Step, ond, unwaith eto, o ystyried eich cyfeiriad ar y diwedd at ddarparu cyn-filwyr a'u teuluoedd gyda'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, sut, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â CAIS i drafod sut y gellir darparu ar gyfer y bwlch hwnnw mewn cymorth ehangach ar gyfer teuluoedd?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i ymrwymiad i'r lluoedd arfog. Yn amlwg, mae datganoli'n creu heriau, ond hefyd gyfleoedd a byddai'n anghywir i Mark Isherwood beidio â chodi’r pethau da sy'n digwydd yng Nghymru nad ydynt yn digwydd yn Lloegr. Cododd y mater grant disgyblion. Dydw i ddim yn mynd i osgoi ymdrin â’r grant amddifadedd disgyblion yng Nghymru; mae'n ychwanegiad gwych at gyrhaeddiad addysgol ein disgyblion mwyaf agored i niwed a dylem barhau i ariannu hynny. Wrth gwrs, gwrandewais yn astud ar ei bryderon ynghylch yr agweddau ar blant lluoedd arfog yma yng Nghymru a'r cyfleoedd yr ydym yn eu cyflwyno yno. Mae Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru yn rhaglen a sefydlwyd yn 2014 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyda chyllid o gronfa cymorth addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn. Rydym yn dysgu oddi wrth y rhaglen honno. Yn wir, yn Aberhonddu, yn etholaeth Kirsty Williams, mae'r fenter Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg wedi helpu teuluoedd Nepal, fel rhan o'r gatrawd Gyrca, i ymgartrefu yn yr ysgol a'r gymuned ehangach. Felly, mae gennym rywfaint o arfer da yma yng Nghymru.
O ran gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, rydym yn falch o'r gwaith yr ydym yn rhan ohono. Mae gwasanaeth y GIG i gyn-filwyr yn darparu therapydd cyn-filwyr penodedig ym mhob un o'r byrddau iechyd a dyma'r unig wasanaeth cenedlaethol ar gyfer cyn-filwyr o'r math hwn yn y DU. Methodd yr Aelod â sôn am hynny. Rydym yn darparu £585,000 y flwyddyn o arian i gefnogi Gig Cymru i Gyn-filwyr ac mae dros 1,670 o gyn-filwyr wedi eu hatgyfeirio at y gwasanaeth hwn hyd yn hyn. Rwy’n cydnabod hefyd y pwysau yn y system: nid wyf yn gwadu hynny ac mae mwy o waith i'w wneud, a dywedais hynny yn y datganiad. Ond byddai'n anghywir i ni beidio â dathlu'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn ein cymunedau, yn cefnogi unigolion wrth inni symud ymlaen. Yn wir, mae'r berthynas gyda CAIS a'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn un yr wyf yn ei chroesawu ac y byddwn yn parhau i ymgysylltu â hi.
Cyfeiriodd yr Aelod ar sawl achlysur at y Lleng Brydeinig Frenhinol a’u barn nhw ar hyn. Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhan o fy ngrŵp arbenigol lluoedd arfog, ac rwy'n synnu nad yw rhai o'r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu codi wedi eu codi yn uniongyrchol gyda mi gan y Lleng Brydeinig Frenhinol neu sefydliadau eraill yn hynny o beth. Roedd yr Aelod yn dweud eu bod wedi gwneud hynny, ond gallaf eich sicrhau yn y cyfarfod a gefais y tro diwethaf, nid oedd yr un o'r pwyntiau a godwyd yma gyda mi heddiw ar y rhestr a godwyd gyda mi.
Cyfarfûm â'r grŵp arbenigol ym mis Gorffennaf i benderfynu ar ein blaenoriaethau yn y dyfodol a sut, drwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn ddarparu hyn. Rwy'n meddwl bod y grŵp arbenigol yn gyfle gwych i ni ddysgu, i ledaenu gwybodaeth ac i ddeall aelodaeth amlasiantaethol y grŵp hwn, lle y gallwn fod yn wybodus. Yn hytrach na'r dystiolaeth anecdotaidd y mae’r Aelodau'n ei chynhyrchu weithiau, mewn gwirionedd, mae gen i wir ddiddordeb mewn deall y ffeithiau a’r ffigurau o'r cyflwyniadau sy'n cael eu gwneud i mi gan y lluoedd arfog a'r asiantaethau cymorth o'u cwmpas.
Rwy'n meddwl bod y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn un cadarnhaol ac fel y byddaf yn dweud yfory yn ystod dadl y Ceidwadwyr, mae Plaid Cymru yn gefnogol i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyn-filwyr, ar yr amod eu bod yn cael eu mesur yn gywir a bod y canlyniadau yn dryloyw i bawb eu gweld. Ond mae problem gynyddol o gwmpas Sul y Cofio, ac mae fy nghwestiynau heddiw yn mynd i ganolbwyntio ar y materion hyn a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt.
Rydym wedi gweld yr holl helynt dros FIFA yn gwrthod caniatáu i'r gwledydd cartref wisgo bandiau braich pabi ar gyfer gemau rhyngwladol. Does dim o hyn yn cael ei helpu gan y ffaith bod FIFA wedi dangos ei hun i fod yn llygredig i'r craidd yn y cyfnod diweddar. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu, er gwaethaf y ffaith bod y rheol hon yn bodoli, y dylai'r tîm nodi dathliadau mewn ffordd wahanol, o bosibl trwy gael munud o dawelwch, neu, fel yr ydym wedi ei wneud mewn gemau pêl-droed eraill—rydym wedi dal cardiau i fyny i gefnogi'r tîm—drwy ddal llun o babi, yn hytrach na chael gwneud pwynt o bosibl gan FIFA mewn perthynas â'n hymdrechion i gyrraedd Rwsia yn y twrnamaint pêl-droed? Rebel wyf i yn y bôn, ond rwy’n meddwl weithiau bod angen i ni yn amlwg feddwl am sut y mae ein cenedl yn gwneud yn yr amgylchiadau hyn, yn hytrach na chymryd rhan o bosibl yn y gêm bêl-droed wleidyddol hon y mae FIFA yn ddiamau yn dymuno i ni gymryd rhan ynddi.
Mae'n ymddangos na allwn ddod yn agos at y dyddiad hwn heb straeon ffug o ddadleuon gyda Mwslimiaid dychmygol neu leiafrifoedd eraill y troseddwyd yn eu herbyn, yr honnir iddynt atal pobl sy'n gwisgo pabi yn y stryd a mynnu eu bod yn eu tynnu. Mae diben hyn yn glir: mae’r stori wedi ei chynllunio fel rhyw fath o sylwebaeth ar sut y mae'r wlad yn cael ei chymryd drosodd, sut y mae gwerthoedd Prydain dan fygythiad. Dylai unrhyw un sy'n byw gyda Mwslimiaid yn gymdogion wybod nad yw hyn yn wir, ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw hyn yn fawr mwy na hiliaeth sy'n cael ei chaniatáu i lifo allan i'r arena gyhoeddus ar y sail ei fod rhywsut yn dderbyniol, ac nad yw'n gwneud dim heblaw lledaenu stereoteipiau negyddol, a hynny yn gwbl ddi-sail?
A fyddai hefyd yn cytuno â mi y bydd y rhan fwyaf o bobl yn edrych ar Ddydd y Cofio drwy ffenestr eu profiadau a’u gwerthoedd personol eu hunain? Ni ddylem ddweud wrth neb beth i'w wneud yn hyn o beth. Er enghraifft, mae llawer o bobl yn rhoi oherwydd eu bod yn cefnogi'r syniad o gyfrannu at ofal cyn-filwyr gan y Lleng Brydeinig Frenhinol ac elusennau eraill yn y sector. Rhoddais i fy hun fy nghodiad cyflog i elusen yn fy ardal, ym Mhort Talbot, Step Change, sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl, oherwydd eu bod yn cydnabod, yn anffodus, bod amseroedd aros yn dal i fod yn broblem ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd meddwl, a bod teuluoedd yn aml yn cael eu hanghofio pan fydd eu hanwyliaid yn gadael y fyddin. Mae llawer ohonom yn dewis peidio â gwisgo pabi coch ac yn gwisgo pabi gwyn, neu ddim pabi o gwbl. Ni ddylai unrhyw un farnu rhywun arall os byddwn yn penderfynu coffáu a meddwl am ein hanes yn ein ffyrdd unigol ein hunain. Rwy'n defnyddio, unwaith eto, y gyfatebiaeth pêl-droed. Dydw i ddim yn aml yn gwisgo top Cymru i gêm bêl-droed, ond nid yw hynny'n golygu nad wyf ddim yn ffan pêl-droed brwd, ac rwy'n sicr yn genedlaetholwr brwd. Rwy’n meddwl mai dyna sut y mae'n rhaid i ni weld y pethau hyn weithiau.
Ac a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn annerbyniol bod gennym bellach hinsawdd wleidyddol lle mae’r rhai sy'n gwneud rhywbeth mor fach â gwisgo pabi gwyn, neu ddim pabi o gwbl, yn cael eu difrïo ar y rhyngrwyd ac yna mewn cyfryngau sydd wedi colli pob rheswm ar yr hyn yr ydym yno i’w nodi—y colli bywyd sy’n dal yn syfrdanol—o blaid rhywbeth sy’n llawer mwy gwleidyddol? Oherwydd rwy’n credu, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni ddeall, er ein bod yn coffáu'r rheini sydd wedi colli eu bywydau, dylem fod yn coffáu pawb sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i ryfel, dan ba bynnag amgylchiadau, ac ym mha bynnag ffordd y digwyddodd. Dylem hefyd fod yn cofio gwrthwynebwyr cydwybodol a gymerodd y safiad i beidio â chymryd rhan mewn rhyfel, ac sydd hefyd wedi eu beirniadu drwy hanes. Mewn gwirionedd, dylem ddeall pam eu bod wedi gwneud y penderfyniadau hynny a sut y daethant i wneud y penderfyniadau hynny, a pheidio â gadael i hynny fynd ar goll yn y ddadl o amgylch Dydd y Cadoediad a dyfodol sut y bydd rhyfeloedd yn cael eu cynnal efallai yn ein henw. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad pwysig heddiw ac am ddangos ei pharch tuag at y lluoedd arfog a chyn-filwyr, ac am y ffordd y mae’n cofio'r bobl sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu, a hefyd y teuluoedd yn y ffordd honno, hefyd.
Cwpl o bwyntiau y byddaf yn ymateb iddynt: ar yr egwyddor FIFA, rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gefnogwr brwd o Gymru. Rwyf wedi ei gweld hi â'm llygaid fy hun mewn top Cymru, ynghyd â llawer o bobl eraill yn y Cynulliad hwn, a hir y parhaed hynny. Ond rwy'n credu mai’r mater i mi yw llwyddiant mawr yn y DU o ran pŵer y rhyddid i lefaru, ac rwy’n meddwl os bydd pobl yn dymuno gwneud hyn, dylent gael yr hawl i wneud hynny. Ac yn sicr fydda i ddim yn condemnio unigolion os ydynt yn dymuno gwisgo pabi neu os nad ydynt yn gwisgo pabi. Mae parch yn dod o galon yr unigolyn, a boed hynny trwy barchu rhywun a choffáu Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio, boed hynny yn eu cartref eu hunain neu ennyd wrth y Senotaff, mater i’r unigolyn yw hynny ac rwy’n ofni, yn aml, ein bod yn rhy feirniadol o'n gilydd am y ffordd yr ydym yn dewis dangos parch.
Rwy'n rhannu barn yr Aelod o ran y ffordd agored y mae pobl yn beirniadu crefyddau eraill. Rwy'n gwybod am lawer o gymunedau Mwslimaidd fy hun sydd â llawer o barch tuag at y lluoedd arfog a'r ffordd y maent yn mynd o gwmpas hyn, ond mae pobl yn defnyddio hyn fel esgus ffug ar gyfer hiliaeth, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal hynny. Roedd gan yr Aelod rai safbwyntiau cryf iawn ar lawer o'r materion hyn, ac rwy'n ddiolchgar iddi am dynnu sylw'r Cynulliad i’r rhain heddiw, ond yn y pen draw, bydd pobl yn parchu ei gilydd yn y ffordd y maent yn teimlo sy’n addas, a hir y parhaed hynny.
Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ond mewn gwirionedd mae Bethan Jenkins eisoes wedi gofyn y cwestiwn yr oeddwn yn mynd i ofyn ynghylch mater FIFA, ac rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i hynny. Ond, tra fy mod ar fy nhraed, hoffwn hefyd longyfarch Gwasanaethau Addurno D. J. Rees o Ferthyr, a enillodd y wobr aur am gefnogi cyflogadwyedd ein lluoedd arfog.
Cyfraniad cyflym iawn, ond llinell y wasg wych i'r Aelod. Byddaf yn trosglwyddo fy llongyfarchiadau eto i Wasanaethau Addurno D. J. Rees. Maen nhw wedi gwneud gwaith rhagorol, mewn gwirionedd. Nid yw hyn yn hawdd, a dylid eu llongyfarch. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymweld â nhw ac yn rhoi fy nghofion gorau iddyn nhw, hefyd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet ar ein rhan ni i gyd pan ddywedodd na ddylem fyth anghofio'r rheiny a gollodd eu bywydau yn wrol i amddiffyn y rhyddid sydd gennym heddiw. Ac nid yw hwn yn achlysur ar gyfer gwneud pwyntiau gwleidyddol, yn fy marn i, ar noswyl Dydd y Cofio, ac os ydym, o bryd i'w gilydd, yn adeiladol feirniadol o Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hynny ond oherwydd ein bod ni’n ceisio ei helpu i wneud ei waith hyd yn oed yn well nag y mae'n ei wneud yn barod. Ac rydym yn gwybod fod ei galon yn y lle iawn.
Un o’r breintiau mawr yr wyf wedi eu cael yn yr amser byr yr wyf wedi bod yn y lle hwn oedd mynd ar ran y Cynulliad i’r digwyddiad coffáu ym Mametz Wood ychydig fisoedd yn ôl, a oedd yn achlysur emosiynol iawn. Hoffwn ganmol y Llywodraeth am yr amryfal fentrau y maent wedi'u gweithredu, ac sydd wedi’u rhestru yn y datganiad: y pecyn o gymorth a'r amryw bethau eraill, fel y llwybr lluoedd arfog i gyflogadwyedd a Chefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru yn benodol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn helpu teuluoedd y lluoedd arfog a'r rhai sy'n gyn-filwyr, yn arbennig, i ailintegreiddio i gymdeithas sifil. Mae ganddynt yn aml anawsterau penodol iawn i ymdopi â nhw ac mae angen llawer o gymorth swyddogol arnynt. Felly, nid wyf yn bwriadu gwneud pwyntiau cecrus o feirniadaeth ynghylch i ba raddau y gellir gwella unrhyw un o'r pecynnau hyn ar yr achlysur hwn; rwy'n siŵr y bydd digon o gyfleoedd eraill i ni wneud hynny.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y mater tai. Unwaith eto, mae 25 y cant o'r holl achosion unigol y mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn delio â nhw yn gysylltiedig â phroblemau tai, ac mae'n warth cenedlaethol, rwy’n meddwl, nid yn unig yng Nghymru ond yn y Deyrnas Unedig, fod 8,000 o gyn-filwyr yn ddigartref ar hyn o bryd ac na ddarperir yn briodol ar eu cyfer. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed manylion y llwybr atgyfeirio iechyd ar 10 Tachwedd. Rwy’n cymryd y bydd datganiad arall lle y gallwn edrych ar y manylion hynny, oherwydd un o'r problemau sydd gan filwyr yw bod cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch eu hawliau dan y polisïau dyrannu tai lleol yn aml iawn ac, efallai, bydd ei ddatganiad ar y llwybr yn taflu rhywfaint o oleuni ar hynny.
Dim ond un mater yr hoffwn ei godi, am nad yw wedi cael ei godi hyd yn hyn, ac mae’n ymwneud â chostau gofal cymdeithasol ar gyfer cyn-filwyr a anafwyd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaethu yn erbyn y rhai ag anafiadau cyn 2005, yn hytrach na'r rhai a anafwyd wedi hynny, o ran diystyru costau gofal cymdeithasol. Gwn fod y Llywodraeth wedi cymryd camau breision i wella'r sefyllfa drwy godi’r diystyriad o £10 i £25. Ond mae anghyfiawnder penodol, rwy’n meddwl, yn y ffaith bod y personél hyn, o’u cymharu â phensiynwyr sifil, dan anfantais, oherwydd gall pensiynwyr sifil fuddsoddi eu dyfarniadau iawndal mewn cronfa ymddiriedolaeth, sy'n cael ei diystyru yn llawn. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio rywfaint ar hynny i ni, ond, fel arall, dyna’r cyfan yr wyf yn cynnig ei ddweud y prynhawn yma.
Rwy'n ddiolchgar i’r Aelod am ei sylwadau, ac, wrth gwrs, rwy’n meddwl y gallwn ni ddod at ein gilydd ar lawer o'r materion hyn, fel y coffa, fel sydd gennym ger ein bron heddiw. O ran rhai o fanylion ei gwestiwn, mae'n iawn i ddweud y byddaf yn lansio'r llwybr tai ar 10 Tachwedd, a bydd mwy o fanylion yn dilyn. Rydym yn gorffen y gwaith o ddatblygu ymgynghoriad llwybr â'n partneriaid allweddol, yn bennaf o’r grŵp arbenigol, y panel sy’n deall yr hyn sydd eu hangen ar gyn-filwyr a theuluoedd, a byddaf yn gwneud datganiad neu ddatganiad ysgrifenedig i'r Siambr yn briodol.
Rhaid iddo gael ei dderbyn yn ganiataol, fodd bynnag, fy mod yn credu am lawer rhy hir bod y lluoedd arfog—y Llywodraeth, y lluoedd arfog. Unwaith y bydd personél y lluoedd arfog yn gadael y lluoedd, mae'n fy mhoeni i mewn gwirionedd, ein bod yn eu gosod ar ben taith o fethiant yn aml. Rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, ar ôl i chi ymrestru â’r lluoedd arfog, dylai’r berthynas â’r lluoedd barhau am amser hir iawn ar ôl hynny, ar ôl y gwasanaeth. Oherwydd rydym ni’n gorfod camu i’r adwy; mae cymunedau yn camu i’r adwy wrth ddelio ag effeithiau trawma drwy ryfel neu drwy faterion eraill a brofir. Mae fy nheulu i gyd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac, am y ddau etholiad cyn hwn, roedd fy mrawd yn gwasanaethu yn Irac—gadawodd yn yr wythnos olaf o baratoi ar gyfer yr etholiad—a oedd yn drawmatig iawn i’w deulu, ond i’r holl deulu. Yn ffodus, roedd yn ddigon lwcus i ddod yn ei ôl, ond mae'n cael effaith yn y tymor hirach, ac rwy’n meddwl y dylem gael perthynas tymor hirach â’r lluoedd arfog, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i’w drafod â Gweinidogion y DU.
O ran y mater o gostau gofal cymdeithasol, rwy’n meddwl fy mod yn gywir wrth ddweud—os nad ydwyf, bydd y Gweinidog yn fy nghywiro trwy lythyr, ond rwy’n deall, o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, y byddwn yn cyflwyno diystyriad llawn ar gyfer y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio, unwaith eto, y bydd yr Aelod yn ei groesawu. Mae llawer o anghysondebau; yn wir, fel Aelod, mae gen i broblem gyda phensiwn gweddwon rhyfel. Pan fydd gweddw yn ail briodi, byddant yn colli eu pensiwn rhyfel. Rwy'n credu bod mater cydraddoldeb yma, ac rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth, yn y tymor hir, y dylai Llywodraeth y DU roi sylw iddo hefyd.
Rwy’n meddwl y bu heddiw yn gyfle defnyddiol iawn i fynegi, ar draws y Siambr, ein hymrwymiad i'r lluoedd arfog a’u teuluoedd yma yng Nghymru. Mae heriau yn y system ac mae'n rhaid i ni barhau i ymdrechu i’w gwella, ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i ymsefydlu gwasanaethau o ansawdd gwell i bobl sydd wedi peryglu eu hunain a'u teuluoedd er ein mwyn ni a llawer o bobl eraill yn y gorffennol, a hynny yn y ffordd amhleidiol yr ydym wedi trafod y prynhawn yma. Diolch.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.