Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch. Mae gwyrddu ein heconomi yn rhan bwysig o’n hymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yma yng Nghymru a bûm mewn cyfarfod cyhoeddus y mis diwethaf a noddwyd gan Atal Anhrefn Hinsawdd. Gwneuthum addewid i godi llais ar newid yn yr hinsawdd a defnyddio fy rôl fel Aelod Cynulliad i hybu gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Nodaf gyda diddordeb y gwahanol ddulliau a ddefnyddir gan wahanol Aelodau Cynulliad UKIP ar y mater hwn—ar un llaw mae gennym Caroline Jones yn ymuno â mi i addo i godi llais dros weithredu ar newid yn yr hinsawdd a gwneud yn siŵr ei fod yn cael sylw, a da iawn. Ar y llaw arall, fodd bynnag, clywsom David Rowlands yr wythnos diwethaf a’r fawlgan hynod i wadu newid yn yr hinsawdd a glywsom yn y Siambr hon. A fuasech yn cytuno na fydd dull UKIP yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru, gan na ellir bod o ddifrif ynghylch yr atebion tymor byr hynny yn y mater pwysig hwn?