<p>Yr Economi Werdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:36, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Er y bydd pleidiau eraill yn anghyson o bosibl yn eu hagwedd tuag at newid yn yr hinsawdd, byddwn yn parhau i fod yn gwbl bendant yn ein penderfyniad i gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn wir, i dyfu economi werdd, sydd o werth enfawr i gymunedau ledled Cymru. O ran ynni gwyrdd, gwyddom fod llawer o swyddi yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru—yn enwedig yn y gogledd-orllewin a’r gorllewin—yn dibynnu’n helaeth ar y sector hwnnw, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i dyfu’r sector blaenoriaeth economaidd hwnnw.