Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Weinidog, rwyf wedi gofyn i Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion olynol yn y sefydliad hwn i ddechrau gwireddu rhywfaint o’r rhethreg y maent wedi siarad amdani, yn enwedig ar ficrogynhyrchu yn y sector ynni gwyrdd, ac er mwyn gwneud hynny, rydym angen grid sy’n gallu caniatáu i bobl gysylltu ag ef. Mae yna lawer iawn o bobl a fyddai’n dymuno cynhyrchu—neu chwarae rhan yn cynhyrchu—prosiectau ynni gwyrdd, yn enwedig ffermwyr a pherchnogion tir, ond ni allant gael cysylltiad grid. Ac oni bai bod Western Power Distribution a’r darparwyr grid eraill yn darparu’r cyfleusterau hyn, yna ni fyddwch yn gallu cyflawni yn y rhan hon o’r economi. Felly, pa drafodaethau sydd ar y gweill gennych ynglŷn â datblygu strategaeth gydlynol i uwchraddio’r grid yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau, yn y pen draw, y gall prosiectau ynni gwyrdd bach a chanolig eu maint, os ydynt yn dymuno, gysylltu â’r grid a chwarae eu rhan yn yr economi werdd?