Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn clywed unrhyw anghytundeb oddi wrthyf fi. Credaf yn gryf y dylem fod yn symud allan o’r lle hwn i bob rhan o Gymru. Roedd Cyllid Cymru yn dweud wrth Bwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau y bore yma ei bod yn fwyfwy anodd cadw a recriwtio staff. Nawr, mae pryder y gallai’r sgiliau hynny gael eu colli o ganlyniad i adleoli arfaethedig i ogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o staff Cyllid Cymru nad ydynt yn dymuno symud, felly mae’n amlwg fod problem bosibl o ran cadw staff yn y cyswllt hwn, ac rwy’n meddwl tybed pa asesiad rydych wedi’i wneud.