Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Os edrychwch ar ogledd-ddwyrain Cymru, fe welwch fod llawer iawn o bobl—cannoedd o bobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru—yn teithio ar draws y ffin i Loegr bob dydd i weithio mewn canolfannau ariannol mawr. Maent yn teithio ar draws y ffin i weithio yn Bank of America yng Nghaer, maent yn teithio ar draws y ffin i weithio yng ngwasanaethau ariannol Marks & Spencer, ac i’r banciau a’r canolfannau ariannol ym Manceinion. Nid wyf yn credu y dylid defnyddio problemau sgiliau fel esgus i atal y gwaith o ddatblygu twf economaidd ledled Cymru. Os gwyddom fod sgiliau ar gael mewn rhannau o Gymru, yna gellir eu defnyddio ar gyfer twf yn yr ardaloedd hynny. Ond o ran Cyllid Cymru a datblygiad banc datblygu Cymru, rwy’n ymwybodol o’r angen i gadw staff, ac am y rheswm hwnnw cefais drafodaethau ddoe gyda Giles Thorley ynglŷn â sicrhau bod presenoldeb banc datblygu Cymru yn cael ei gadw yng Nghaerdydd, ond bod yna gyfleoedd hefyd, ar ffurf pencadlys yng ngogledd Cymru, i wneud y sefydliad yn fwy hygyrch ac yn fwy perthnasol i bob rhan o’r wlad.