<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:54, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r rhain yn cael eu harchwilio fel rhan o’r opsiynau, ac mae opsiynau ar y bwrdd ar gyfer datblygu’r banc a ble y dylid ei leoli. O ran yr hyn yw ystyr ‘pencadlys’, wel, mae dau opsiwn: un, trosglwyddo staff a swyddogaethau ar raddfa eang o’r brifddinas i’r pencadlys newydd; neu dau, yr ail opsiwn fuasai creu pencadlys, a thyfu’r pencadlys hwnnw dros gyfnod o amser heb golli staff yn y swyddfeydd presennol o reidrwydd. Felly, byddwn yn ystyried y ddau opsiwn, y goblygiadau ariannol, ond hefyd y goblygiadau o ran cadw arbenigedd a sgiliau. Ond mae angen i mi fod yn glir unwaith eto fy mod yn dymuno gweld datganoli ble bynnag a phryd bynnag y bo modd, a byddaf yn edrych am gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau mewn gwahanol gymunedau ledled Cymru, er mwyn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, rwy’n gobeithio, a phob un ohonom yn dod yn fwy perthnasol i fywydau pobl.