Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod cwestiwn arall yno mae’n debyg ynglŷn â beth y mae ‘pencadlys’ yn ei olygu. A yw’n golygu symud staff ar raddfa eang i ran arall o Gymru, neu ai teitl yn unig ydyw? Felly, efallai y gallech ateb y pwynt hwnnw. Ond y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16, mae Cyllid Cymru yn cadarnhau bod tâl y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf yn £404,000, o’i gymharu â £216,000 yn y flwyddyn flaenorol. Mae hwnnw’n ffigur uchel iawn, ac ar ôl i ni holi ynglŷn â hynny, roeddent yn ei briodoli i’r costau pensiwn ychwanegol a gyfrannwyd tuag at y cynllun pensiwn. Deallaf fod 30 y cant o staff Cyllid Cymru ar yr un cynllun pensiwn hefyd. Felly, wrth gwrs, os oes staff yn gadael y sefydliad, mae’n bosibl y gwelir cynnydd enfawr yn y costau hynny, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallech fynd i’r afael â’r pwynt hwnnw, a hefyd a ydych wedi rhoi sylw i’r pwynt hwnnw yn yr achos busnes?