Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Rwyf am symud pethau’n ôl yn awr at y lefel ranbarthol y buom yn sôn amdani ychydig yn gynharach. Rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o grŵp o’r enw Grŵp Gweithredu Magwyr ar Reilffyrdd—sy’n ymgyrchu dros gael gorsaf ym Magwyr yng Ngwent. Maent wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn ers nifer o flynyddoedd ac wedi llwyddo i gael cyllid gan sawl sefydliad. Rwy’n deall eu bod yn awr yn ceisio am grant gan Lywodraeth Cymru i sicrhau arian cyfatebol i’r prosiect ar gyfer astudiaeth cam 3 y Prosiectau Llywodraethu Buddsoddiadau Rheilffordd, swm sydd oddeutu £80,000 rwy’n credu. Maent yn gobeithio cwblhau’r cam hwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. A yw Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa i ddweud a yw’n barod i ddarparu’r cyllid hwn?