Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Wel, ni allaf wneud hynny ar yr achlysur hwn, oherwydd ein bod yn dal i asesu rhinweddau’r cais. Rwy’n credu bod yr hyn y mae’r grŵp wedi’i wneud hyd yn hyn yn deilwng iawn. Rwy’n credu bod y gwaith y maent wedi’i wneud wedi bod yn hynod o werthfawr yn hysbysu Llywodraeth Cymru o’r hyn y mae cymunedau ei angen er mwyn creu amgylchedd mwy cysylltiedig. Ac felly byddwn yn rhoi ystyriaeth gydymdeimladol iawn i’r cais, ond ni allaf ddweud heddiw a fydd yn cael ei gymeradwyo ai peidio.