Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn llygad eich lle, mae bod yn unedig a chysylltiedig yn gwbl hanfodol, ac rwy’n cefnogi hyn yn fawr. Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd fod yn gyfrifol yn ariannol. Rydych eisoes wedi sôn am y £750 miliwn y gallai ei gostio i ailagor y rheilffordd hon. O’r cwestiwn ysgrifenedig gan fy nghyd-Aelod, Andrew Davies, gwyddom fod o leiaf un astudiaeth gwmpasu gwerth £30,000 wedi’i chynnal. Mae yna wasanaeth bws sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae pob un o’r symiau hyn yn adio at ei gilydd i wneud swm mawr iawn o arian, felly a allech ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, faint yn fwy o arian sy’n rhaid ei wario cyn ein bod yn profi dichonoldeb bwrw ymlaen â’r prosiect hwn?