Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Mae’r arian yn cael ei ddyrannu yng nghyllideb y flwyddyn ariannol nesaf—neu yn y gyllideb ddrafft—ac yn dilyn y gwaith hwnnw, buaswn yn disgwyl y bydd modd i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru archwilio’r prosiect yn drylwyr, ac yn sgil eu hasesiad o’r prosiect, buasai’r Llywodraeth wedyn yn cael cyfres o argymhellion. Yna, pe bai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru neu’r arbenigwyr yn argymell y dylid bwrw ymlaen â’r prosiect, buasem yn ei ymgorffori yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn y dyfodol. Ond rwy’n derbyn yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud ynglŷn â sicrhau bod popeth a wnawn, o ran trafnidiaeth a’r holl wasanaethau eraill a ddarparwn, yn gwbl fforddiadwy.