<p>Y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:10, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn sgil cyfraniadau blaenorol rwyf wedi’u gwneud ar y pwnc hwn, fe fyddwch yn gwybod am fy niddordeb personol mewn codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol Merthyr Tudful, yn arbennig, ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r cyngor yn trafod opsiynau ar gyfer datblygu’r rhain yn gyfleoedd twristiaeth arwyddocaol. Yn wir, yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch i siarad yng nghynhadledd treftadaeth ac adfywio Merthyr, a chanolbwyntiais yn benodol ar yr hyn sydd gan Ferthyr i’w gynnig yn hynny o beth. Ar wahân i holi a ydym bob amser yn gwneud popeth a allwn i ddiogelu neu adnewyddu safleoedd ac adeiladau sydd â stori arwyddocaol i’w hadrodd mewn perthynas â’n treftadaeth leol, siaradais yn benodol ynglŷn â sut y gallem ddysgu o lefydd fel Ironbridge i gyflwyno profiad tref gyfan. Awgrymais hefyd y posibilrwydd o ddatblygu llwybr Dic Penderyn, y gwn fy mod wedi siarad â chi yn ei gylch, ac a fuasai’n adrodd hanes pobl Merthyr adeg y gwrthryfel. Ymddengys bod y cyngor a nifer o’r gwirfoddolwyr treftadaeth yn y dref yn croesawu’r syniad hwnnw. Y rheswm rwy’n crybwyll hyn yw bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’r sefydliadau treftadaeth uchelgais sylweddol ar gyfer y dref—nid oes amheuaeth am hynny—ond wrth gwrs, mae’r rhwystr i ddatblygu nifer o brosiectau yn un ariannol at ei gilydd. Nawr, rwy’n sylweddoli bod y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth—