Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Buasai darparu gwasanaeth rheolaidd rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn rhan allweddol o gysylltu Casnewydd â chymoedd Gwent. Dros y 10 mlynedd diwethaf, cafwyd ymgyrchoedd, a gefnogwyd gan Aelodau Cynulliad lleol a’r ‘South Wales Argus’, i sicrhau y byddai’r rheilffordd hon yn dod i ben yng Nghasnewydd. Buasai’n hwb hanfodol i’r economi leol a’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, yng Nghasnewydd a chymunedau’r Cymoedd ar y llwybr. Gyda fy etholwyr a fy nghyd-Aelod John Griffiths, Aelod Cynulliad, buaswn yn awyddus i weld hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod gwasanaeth rheolaidd rhwng Casnewydd a Glynebwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth i fetro de Cymru a’r fasnachfraint rheilffyrdd newydd?