Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Gallaf. Rydym yn buddsoddi er mwyn caniatáu ar gyfer gwasanaethau amlach a chyflymach ar y rheilffordd, ac rydym hefyd yn ychwanegu platfformau newydd mewn nifer o orsafoedd. Rydym wedi ariannu Network Rail i gyflawni’r prosiect, ac maent wedi gosod y rhan fwyaf o’r trac newydd sy’n angenrheidiol ar gyfer y camau nesaf er mwyn i waith allu dechrau ar y gorsafoedd eu hunain. Bydd gwaith Network Rail ar y system signalau yn dechrau’n syth wedyn.