<p>Amseroedd Aros Awdioleg</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:25, 9 Tachwedd 2016

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei onestrwydd ynglŷn â’r sefyllfa druenus, a dweud y gwir, ar hyn o bryd. Mae sawl etholwr wedi cysylltu â mi i gyfleu eu pryder am y rhestr aros, sydd yn cynrychioli cannoedd o bobl sy’n aros am driniaeth. Mae rhai cleifion, wrth gwrs, yn gorfod aros wyth mis cyn derbyn teclyn clywed ar hyn o bryd. A yw’r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o achos yr amseroedd aros hir hyn a pha fesurau y gellir eu rhoi yn eu lle er mwyn sicrhau bod yna welliant? A ydy’r Llywodraeth hefyd wedi ystyried—yn ogystal â’r targed maen nhw wedi’i osod o 14 wythnos ar gyfer teclyn clywed am y tro cyntaf—gosod targed penodol ar gyfer ailosodiadau, lle mae yna broblem dybryd ar hyn o bryd o ran y rhestrau aros?