<p>Amseroedd Aros Awdioleg</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:28, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych newydd gyfeirio at y cynllun gweithredu clust, trwyn a gwddf cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac roedd y cynllun hwnnw’n cyhoeddi y buasai pob bwrdd iechyd yn sefydlu grŵp cydweithredol ar ofal clust, trwyn a gwddf, i oruchwylio materion megis llif cleifion priodol a throthwyon atgyfeirio, a fuasai’n helpu i leihau amseroedd aros. Yng ngoleuni’r cynllun hwnnw, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd grŵp cydweithredol Hywel Dda ar ofal clust, trwyn a gwddf, a dweud wrthym pa ganlyniadau newydd a gyflawnwyd gan y bwrdd iechyd yn y modd y mae’n darparu gwasanaethau clust, trwyn a gwddf i gleifion yng ngorllewin Cymru, ac a allwch ddweud wrthym sut y mae hyn yn helpu i leihau amseroedd aros?