Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Mae’r gyllideb ddrafft yn dangos £25 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a hynny er mwyn parchu a deall y pwysau difrifol sydd ar y sector gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae’r pwysau’n cynnwys, er enghraifft, y cyflog byw cenedlaethol a ddaw i rym y flwyddyn nesaf, ac a fydd yn effeithio ar awdurdodau lleol a’r darparwyr eu hunain. Ond mae’n bwysig iawn ein bod yn parchu’r ffaith ei fod yn newyddion gwych y bydd gweithwyr ar gyflog isel yn cael codiad cyflog, a deall hefyd y bydd hynny’n rhoi rhywfaint o bwysau ar y sector, a dyna pam rydym wedi dyrannu £25 miliwn ychwanegol ar gyfer hynny. Rydym hefyd wedi dyrannu mwy na £4 miliwn yn ychwanegol er mwyn gallu cymryd y cam cyntaf tuag at gyflawni ymrwymiad yn ein maniffesto i ddyblu’r terfyn cyfalaf y gall pobl ei gadw cyn gorfod talu am ofal. Felly, rydym wedi dyrannu mwy na £4 miliwn ar gyfer hynny, yn ogystal ag arian i’n galluogi i ddiystyru’r pensiwn anabledd rhyfel yn llawn o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen.