Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, byddem yn cefnogi’r pwynt olaf a wnaethoch ynglŷn â’r pensiwn. Ond i bob pwrpas, yr hyn a glywais yn y fan honno oedd fy mod i chwilio am yr arian hwn mewn cyflogau. Efallai y gallwch ddweud wrthyf felly—. Fe gyhoeddoch ddatganiad yr wythnos diwethaf sy’n dangos bod y trosglwyddiad rheolaidd o £27 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU tuag at y gost o ddarparu cefnogaeth i’r rhai a oedd yn arfer derbyn o’r gronfa byw’n annibynnol, yn awr yn mynd yn syth i gynghorau fel y mae yn Lloegr, yn hytrach nag i drydydd parti dewisol y sector anabledd annibynnol, fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid diben yr arian hwnnw yw talu am doriadau cynghorau. Pam rydych chi wedi troi eich cefn ar y modelau mwy cydgynhyrchiol y mae Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn eu hannog, a pha warantau rydych chi wedi’u sicrhau y bydd yr arian hwn yn cael ei neilltuo ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol?