Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae hi’n gywir i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed ar ostwng lefelau cyfraddau heintiau, ond mae angen gwneud llawer mwy. Mae gan bob bwrdd iechyd darged gwella bob blwyddyn. Nid yw pob bwrdd iechyd wedi llwyddo i’w gyrraedd. Mae’n nodwedd reolaidd o gyfarfodydd atebolrwydd gyda phrif weithredwyr a minnau o ran cysylltiad â chadeiryddion, ac yn aml mae yna safonau hylendid syml iawn i fynd i’r afael â hwy a fydd yn helpu gyda chyfraddau heintiau. Mae yna her hefyd mewn rhai rhannau o’r boblogaeth lle y mae cronfa, os mynnwch, o rai o’r heintiau penodol hyn. Ond yr her go iawn i’r gwasanaeth iechyd yw gwneud yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud, ac rydym yn cydnabod yr angen am welliant pellach ac mae hynny’n dechrau gyda hylendid sylfaenol.