<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:42, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros ar bwnc glendid ysbytai, roedd yn siomedig clywed bod Ysbyty Bronllys wedi cael sgôr hylendid bwyd o 2, er bod y rhan fwyaf o ysbytai’n cael sgôr hylendid o 3 neu fwy. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno y dylai pob ysbyty fod â sgôr hylendid pum seren. Nid yn unig y dylai bwyd a weinir i gleifion bregus fod o’r safon uchaf o ran maeth, ond hefyd dylai gael ei baratoi, ei storio a’i weini mewn modd hylan. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella hylendid bwyd yn ein hysbytai ac yn y sector gofal ehangach?