Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch am y cwestiwn. Unwaith eto, rydych yn gwneud y pwynt fod y mwyafrif helaeth o leoliadau yn y sector gofal a’r sector ysbytai yn cydymffurfio â safonau hylendid uchel. Rwy’n arbennig o siomedig ac yn rhwystredig yn sgil canlyniad Bronllys yn ddiweddar. Maent wedi cael gwybod fy mod i a’r Gweinidog yn disgwyl y bydd gwelliant sylweddol a chyflym ac ailasesiad i ddarparu sicrwydd y bydd nid yn unig y cleifion, ond eu teuluoedd hefyd, yn gwbl briodol, yn ei ddisgwyl.