<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:47, 9 Tachwedd 2016

Ond rydym yn gwybod, wrth gwrs, am y problemau ehangach ar draws y bwrdd, a phan mae bwrdd iechyd yn cyrraedd pwynt fel yma, mi fyddai rhywun yn disgwyl camau radical—gwirioneddol radical—i newid pethau. Y cwbl rydym wedi ei weld mewn difri ydy newid uwch-reolwyr ac, ar hyn o bryd, rydw i’n dweud wrthych chi nad oes gan bobl ddim ffydd bod hynny ynddo fo ei hun yn mynd i gyflwyno’r newid sydd ei angen.

Un peth sydd yn cael ei wthio o hyd ydy mwy o ganoli, ac yn hytrach na delio efo gwasanaethau sy’n methu, un cynnig sydd ar y bwrdd rŵan ydy symud gwasanaethau fasgwlar, sydd o safon fyd-eang, o Ysbyty Gwynedd. Rydym ni’n pwyso am ymgynghoriad newydd ar hynny. A all yr Ysgrifennydd Cabinet egluro’r rhesymeg dros daclo perfformiad gwael drwy chwalu’r pethau yna sy’n gweithio’n dda? Ac o ran dyfodol Ysbyty Gwynedd, a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn meddwl y dylai fod mwy neu lai o wasanaethau arbenigol yn cael eu cynnig yno yn y dyfodol?