Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch am y cwestiynau dilynol. O ran y camau radical sy’n cael eu cymryd, roedd gwneud bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yn gam radical. Dyma’r unig fwrdd iechyd yn hanes datganoli i gael ei wneud yn destun mesurau arbennig, ac nid yw’n ymwneud yn unig â newidiadau i uwch reolwyr; mae angen newid y diwylliant yn y sefydliad. Dyna pam rydym yn disgwyl i’r bwrdd iechyd fod yn destun mesurau arbennig am gyfnod sylweddol o amser, gan y bydd y newidiadau y mae angen i ni eu gweld, er enghraifft, mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn cymryd cryn dipyn o amser. Felly, nid wyf yn derbyn yr argraff a roddir na chafodd camau radical eu rhoi ar waith ac nad ydynt yn cael eu rhoi ar waith. Mae gennym hefyd y sicrwydd a roddwyd gan y corff ymgynghorol tri sefydliad, felly mae gennym gynghorwyr allanol, nid prif weithredwr GIG Cymru yn unig, yn adolygu’r cynnydd sy’n cael ei wneud, neu nad yw’n cael ei wneud, mewn perthynas â mesurau arbennig.
O ran eich pwynt penodol am lawfeddygaeth fasgwlaidd, rydym wedi bod drwy hyn o’r blaen, ac nid wyf yn derbyn nac yn cytuno â’r argraff a roddir ar y mater. Mae’r cynigion yn argymell y dylai tua 20 y cant o’r gweithgaredd, y llawfeddygaeth fasgwlaidd gymhleth iawn, gael ei symud i uned ganolog, ac mae’r uned arbenigol ganolog honno’n seiliedig ar dystiolaeth ei bod yn darparu canlyniadau gwell—gwell canlyniadau i’r bobl, lle bynnag y maent yn byw ar draws gogledd Cymru, sy’n mynd i’r ganolfan arbenigol honno. Bydd 80 y cant o’r gweithgaredd yn aros lle y mae. Felly, er enghraifft, byddai’r gwasanaeth digramennu diabetig sy’n digwydd yn Ysbyty Gwynedd yn aros lle y mae.
Nid oes gennyf amcan penodol o ran faint o wasanaethau arbenigol a fydd yn aros yn eu lleoliadau presennol, yng ngogledd Cymru neu yn unrhyw le arall. Rwy’n nodi’n syml fod yn rhaid i’r bwrdd iechyd, gyda’i boblogaeth leol, lle bynnag y mae, wynebu’r heriau amlwg hyn y mae’n gwybod eu bod yn bodoli, a rhaid iddo ymateb i’r dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau ynglŷn â beth i’w wneud i wella’r gwasanaeth hwnnw. Weithiau, bydd hynny’n ymwneud â darparu gwasanaeth mewn cymuned a gwneud gofal yn fwy lleol, ac weithiau, lle y dywed y dystiolaeth wrthym y mae’r enillion iechyd mwyaf a gorau i’w gwneud, a fydd hefyd yn gwella ein gallu i recriwtio’r staff iawn yn y lle iawn, cael canolfan arbenigol fydd yr ateb mewn gwirionedd. Ac nid wyf yn meddwl ei bod yn dderbyniol mai’r cyfan sydd gan y rhai sy’n rhan ganolog o’r ddadl am ddyfodol y gwasanaeth iechyd i’w ddweud byth yw ‘Rydym yn anghytuno ag unrhyw gynnig i ganoli gwasanaeth arbenigol’. Mae yna dystiolaeth sylweddol y bydd symud llawdriniaeth fasgwlaidd fel hyn yn gwella canlyniadau ar draws gogledd Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n edrych ar y dystiolaeth yn wrthrychol yma.