Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Ie, rwy’n gwybod. Rwy’n sôn am y peth ac yn cytuno â chi. [Torri ar draws.] Ym mis Mawrth eleni, Lywydd, adroddwyd bod cleifion yng Ngwent yn aros yn hwy am atgyfeiriadau canser y fron nag yn unman arall yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa bryd y mae penderfyniad yn debygol o gael ei wneud, ac a wnaiff ymrwymo i archwilio’r holl opsiynau sydd ar gael iddo i ddarparu gwasanaethau canser y fron rhagorol yn Nwyrain De Cymru?