Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Wrth geisio dirnad beth sy’n wahanol am y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Gaerffili—rwyf wedi dweud yr hyn a ddywedais ynglŷn â methu gwneud sylwadau ar benderfyniad unigol, ond mae’r dystiolaeth am y gwasanaeth presennol yn ysgogi’r angen i feddwl ynglŷn â sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. A dyna’r pwynt—nid wyf yn meddwl y gallwch ddarparu’r un gwasanaeth ar yr un patrwm a disgwyl gwelliant. Felly, edrychaf ymlaen at weld cynigion y bwrdd iechyd, a chael trafodaeth â’r boblogaeth leol a’r cynghorau iechyd cymuned. Os daw ar fy nesg, fel y dywedais wrth yr Aelod lleol dros Gaerffili, byddaf yn edrych ar y dystiolaeth o fudd, profiad a chanlyniadau i gleifion, a gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n wirioneddol gynaliadwy.