Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Roedd rhai pobl yn amlwg yn siomedig ynglŷn â chwmpas y gwasanaethau sydd ar gael, a natur y gwasanaeth brys yn arbennig, o gymharu â’u disgwyliadau blaenorol. Rwy’n meddwl tybed a oes unrhyw wersi i Lywodraeth Cymru neu’r bwrdd iechyd eu dysgu wrth i gynlluniau gael eu gwneud a’u cyfleu ar gyfer dyfodol Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, yn sgil y ganolfan gofal arbenigol a chritigol sydd i’w chroesawu’n fawr.