Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n disgwyl y caiff adnoddau rhwng ac o fewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd eu defnyddio i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles y poblogaethau y mae pob ardal bwrdd iechyd yn eu gwasanaethu. Rwy’n disgwyl i’r defnydd o adnoddau arwain a dilyn y patrwm newidiol o wasanaethau wrth i fwy o ofal gael ei ddarparu yn nes at adref.