2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2016.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyfran yr adnoddau a ddarperir i ofal sylfaenol a gofal eilaidd? OAQ(5)0061(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n disgwyl y caiff adnoddau rhwng ac o fewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd eu defnyddio i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles y poblogaethau y mae pob ardal bwrdd iechyd yn eu gwasanaethu. Rwy’n disgwyl i’r defnydd o adnoddau arwain a dilyn y patrwm newidiol o wasanaethau wrth i fwy o ofal gael ei ddarparu yn nes at adref.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Ond mae cyfran cyllideb iechyd Cymru a werir ar ofal sylfaenol wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. A oes unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i geisio gwrthdroi’r duedd hon, gan fy mod yn credu, ac rwy’n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod gwario arian mewn gofal sylfaenol yn arbed arian ymhellach ar hyd y ffordd?
Diolch am y pwynt. Rwy’n credu mai rhan o’r her o ddeall beth sy’n digwydd mewn gofal sylfaenol yw deall beth rydym yn ei olygu wrth wariant gofal sylfaenol hefyd. Rwyf wedi gweld amryw o ffigurau. Mae’n amlwg fod yna ymgyrchu, lobïo, ac yn ddigon teg, craffu ar faint o arian rydym yn ei wario a chyfran yr arian rydym yn ei wario. Er enghraifft, mewn gofal sylfaenol rydym yn gwario 13.7 y cant o’n cyllideb, o’i gymharu â’r Alban sy’n gwario 11.8 y cant. Daw’r ffigurau hynny o ffigurau cymharol y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn yr Alban yn derbyn eu bod yn cynrychioli gofal sylfaenol yn briodol. Felly, mae’n fwy na gwariant ar wasanaethau meddygol cyffredinol yn unig.
Fodd bynnag, yn hytrach na mynd ar goll yn sôn am ganran benodol o’r gyllideb iechyd neu swm penodol o arian, rwy’n meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn yw ein gweledigaeth a’n disgwyliad ar gyfer dyfodol gwasanaethau gofal iechyd. Sut y byddant yn cael eu darparu? Os oes mwy o ofal yn mynd i gael ei ddarparu yn y gymuned ac yn nes at adref, mae angen i ni symud ein hadnoddau. Adnoddau ariannol yw’r rheini yn rhannol, ond mewn gwirionedd, mae llawer yn ymwneud â’r staff sydd gennym a’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn ailfodelu ein hystad gofal sylfaenol i allu darparu’r gwasanaeth hwnnw. Mae gennyf ddiddordeb mewn darparu’r gwasanaeth iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn a chael adnoddau sy’n ein galluogi i wneud hynny. Bydd hynny’n arwain at newid yn yr adnoddau. Dyna ble y mae fy mlaenoriaeth i, yn hytrach na chael pwynt penodol pan fyddaf yn dweud ‘rwyf eisiau swm x i fynd tuag at ofal sylfaenol neu ofal eilaidd,’ gan nad wyf o reidrwydd yn meddwl mai dyna’r ffordd iawn o weithredu a rheoli’r gwasanaeth.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fferyllfeydd cymunedol rôl fawr i’w chwarae yn darparu gofal yn y lle iawn ar yr adeg iawn, fel rydych newydd fod yn siarad yn ei gylch. Cefais gyfle, yn ddiweddar, i ymweld â Fferyllfa Lloyds yn fy etholaeth. Cefais fy nharo gan y datgysylltiad rhwng ysbytai a fferyllwyr cymunedol mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty. Er bod adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau yn digwydd, deallaf fod 30 y cant o aildderbyniadau i’r ysbyty yn deillio o gamgymeriadau gyda meddyginiaethau. A yw hwn yn faes y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych arno yn y trafodaethau y mae’n eu cael ar hyn o bryd gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru ynglŷn â chontract fferylliaeth newydd i Gymru?
Diolch am y cwestiwn. Mae’n caniatáu i mi dynnu sylw at y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo. Wrth gwrs, rwy’n siŵr y byddwch yn deall, a bydd y fferyllfa yr ymweloch â hi’n deall ein bod yn mynd ati mewn ffordd wahanol iawn i gyllido fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru, o gymharu â’r toriadau o £200 miliwn i fferylliaeth yn Lloegr. Mae fferylliaeth gymunedol dros y ffin yn wynebu her go iawn. Rwy’n falch ein bod yn mynd ati mewn ffordd wahanol, nid yn unig o ran yr arian, ond o ran yr hyn rydym yn disgwyl ei weld yn cael ei ddarparu am yr arian hwnnw hefyd, oherwydd bydd gennym ddull sy’n seiliedig ar ansawdd gyda’r swm ychwanegol o arian rydym yn dweud byddwn yn parhau i’w fuddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol. Bydd yn newid nid yn unig y drefn o ddosbarthu yn ôl y swm o eitemau yn hytrach nag o ran mesur yn unig, ond ansawdd y gwasanaeth hefyd mewn gwirionedd. Rwyf eisoes wedi gofyn am wneud gwaith gyda fferylliaeth gymunedol—mae’n cael ei arwain gan y prif swyddog fferyllol—ar edrych ar ystod benodol o feysydd, ac mae deall yn iawn sut y gallwn wella’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty yn rhan benodol o’r gwaith hwnnw, ac rwy’n disgwyl gweld cynigion ar gyfer gwella. Rwy’n credu y gallwn wneud mwy o ddefnydd a chael mwy o fudd o ansawdd y gwasanaethau sydd i’w cael mewn fferylliaeth gymunedol i wneud pethau’n haws i gleifion sy’n gadael yr ysbyty ac yna’n mynd yn ôl i’w cymuned, ac ar yr un pryd yn sicr, bydd gennym wasanaeth fferylliaeth prysur iawn yn yr ysbytai yn ogystal. Felly, yn ystod yr oddeutu chwe mis nesaf, rwy’n meddwl y byddwn yn clywed mwy gennyf fi ynglŷn â sut y byddwn yn parhau i ddatblygu a buddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru.
Gwnaethoch chi’r cyhoeddiad yna fis diwethaf o £20,000 i ddenu meddygon ifanc newydd fel meddygon teulu yn y rhannau o Gymru sydd yn anodd iawn i ddenu meddygon oni bai. Yn naturiol, roeddem ni’n croesawu hynny, ond nid ydyw e’n gwneud dim byd gogyfer y pwysau gwaith anferthol sydd ar feddygon teulu sydd yn eu swyddi nawr, y prynhawn yma, ym mhob rhan o Gymru a dweud y gwir. Felly, beth am arallgyfeirio ychydig yn fwy o arian ac adnoddau i ofal sylfaenol nawr er mwyn helpu’r meddygon yna sydd yn eu gwaith nawr, yn ogystal â denu meddygon yn y dyfodol?
Diolch am y pwynt, ac mae’n un rwy’n ei ddeall yn dda. Rhan o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’r grŵp gweinidogol rwyf wedi’i gynnull ac rwy’n ei gadeirio yw edrych ar y pwyntiau ynglŷn â newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn yn ogystal â chefnogi’r bobl sydd ynddo ar hyn o bryd. Felly, nid yw hwn yn bwynt sy’n ymwneud ag anwybyddu pobl sy’n gweithio mewn gofal sylfaenol ar hyn o bryd. Felly, roedd y cymhellion yn benodol ar gyfer delio a mynd i’r afael â meysydd angen. Rydym yn gwrando ar ein partneriaid o amgylch y bwrdd, a phartneriaid yw pawb—ystod o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gan gynnwys, wrth gwrs, Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol—i feddwl ynglŷn â sut yr awn ati i gefnogi ein practisau presennol yn well. Mae yna rywbeth am yr arian clwstwr sydd yno eisoes, a gwneud yn siŵr ei fod yn mynd allan i bractisau er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio a phenderfynu sut y maent am ei ddefnyddio gyda’u partneriaid mewn gofal sylfaenol. Mae yna rywbeth hefyd am edrych eto ar y fframwaith cynaliadwyedd a deall yr hyn sydd angen i ni ei wneud i sicrhau bod mwy o feddygfeydd yn rhan o hynny mewn gwirionedd. Oherwydd rydym wedi gweld nad yw pob practis sy’n wynebu her yn barod i fynd drwy’r broses honno lle y gellir darparu cymorth ychwanegol. Rwy’n credu bod yna rywbeth am y lefel o ymddiriedaeth a rhannu gwybodaeth i ganiatáu i’r cymorth hwnnw gael ei ddarparu. Felly, mae yna fwy o waith i ni ei wneud, ac mewn gwirionedd mae’n amser da i fod yn siarad am hyn oherwydd, wrth gwrs, rydym yn dechrau trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ar ddyfodol y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yma yng Nghymru. Felly, digon o gyfle, o ran negodi contract, ond hefyd gyda’r gwaith rydym yn ei wneud i geisio gwella niferoedd y bobl, ond hefyd yr amrywiaeth o bobl yn y gweithlu gofal sylfaenol.
Hoffwn godi’r pwynt a wnaeth Nick Ramsay oherwydd mae’n gwbl annerbyniol fod traean o’r holl aildderbyniadau i’r ysbyty yn ganlyniad i gamgymeriadau gyda meddyginiaeth. Rwyf am ymchwilio ychydig ymhellach i’r pwynt penodol am bobl y penderfynwyd eu bod yn barod i adael yr ysbyty ac a allai fod wedi cael presgripsiwn. Pam na allent gasglu’r presgripsiwn hwnnw gan eu fferyllydd cymunedol yn hytrach na gorfod aros iddo gael ei ddosbarthu gan yr ysbyty? Oherwydd byddai hynny wedyn yn eu galluogi i adael yr ysbyty yn gynt, gan eu gwneud yn well yn gynt, a rhyddhau’r gwely i rywun arall.
Mae’n rhan o’r gwaith rwy’n disgwyl ei weld yn cael ei wneud gan fy mod yn credu mai’r peth delfrydol fyddai i bobl allu cael y feddyginiaeth honno, lle bynnag y bo modd, wedi’i darparu gan neu gyda’u fferyllfa gymunedol, boed yn ymwneud â chasglu neu wasanaeth cludo i’r cartref. Mae mwyafrif helaeth y fferyllfeydd cymunedol yn darparu gwasanaeth o’r fath. Rwy’n credu y byddai’n helpu i weld pobl yn gadael yr ysbyty pan fyddant yn barod i gael eu rhyddhau. Byddai hefyd yn delio â pheth o’r oedi yng ngwasanaeth fferyllol yr ysbytai y gwyddom ei fod yn digwydd hefyd. Felly, dylai pobl sy’n rhaid iddynt gael eu gweld gan fferyllydd ysbyty gael eu meddyginiaeth yn gynt, a bydd hefyd yn caniatáu i bobl adael. Felly, mae’n bendant yn rhan o’r gwaith rwyf wedi gofyn amdano ac fel y dywedais, rwy’n edrych ymlaen, yn ystod yr oddeutu chwe mis nesaf, at adrodd yn ôl i’r Aelodau ar y cynnydd sy’n cael ei wneud.