Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fferyllfeydd cymunedol rôl fawr i’w chwarae yn darparu gofal yn y lle iawn ar yr adeg iawn, fel rydych newydd fod yn siarad yn ei gylch. Cefais gyfle, yn ddiweddar, i ymweld â Fferyllfa Lloyds yn fy etholaeth. Cefais fy nharo gan y datgysylltiad rhwng ysbytai a fferyllwyr cymunedol mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty. Er bod adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau yn digwydd, deallaf fod 30 y cant o aildderbyniadau i’r ysbyty yn deillio o gamgymeriadau gyda meddyginiaethau. A yw hwn yn faes y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych arno yn y trafodaethau y mae’n eu cael ar hyn o bryd gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru ynglŷn â chontract fferylliaeth newydd i Gymru?