Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Gwnaethoch chi’r cyhoeddiad yna fis diwethaf o £20,000 i ddenu meddygon ifanc newydd fel meddygon teulu yn y rhannau o Gymru sydd yn anodd iawn i ddenu meddygon oni bai. Yn naturiol, roeddem ni’n croesawu hynny, ond nid ydyw e’n gwneud dim byd gogyfer y pwysau gwaith anferthol sydd ar feddygon teulu sydd yn eu swyddi nawr, y prynhawn yma, ym mhob rhan o Gymru a dweud y gwir. Felly, beth am arallgyfeirio ychydig yn fwy o arian ac adnoddau i ofal sylfaenol nawr er mwyn helpu’r meddygon yna sydd yn eu gwaith nawr, yn ogystal â denu meddygon yn y dyfodol?