Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Er bod y ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru yn sefydlog, mae’r cyfraddau’n dal i fod yn annerbyniol o uchel. Mae ein rhaglen lywodraethu yn gwneud ymrwymiad clir i fynd i’r afael â gordewdra, gan weithio ar draws y Llywodraeth a gydag ysgolion i hyrwyddo a chynyddu dewisiadau byw’n iachach.