Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Beirniadwyd cyhoeddiad cynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra plentyndod gan ymgyrchwyr yn sgil glastwreiddio llawer o’r cynigion disgwyliedig, yn enwedig rhai’n ymwneud â siwgr ac ar hysbysebu bwydydd afiach. Yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, sy’n cynnwys fy etholaeth i, mae 28.1 y cant o blant pedair i bump oed yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, y gyfradd ail uchaf yng Nghymru, ac mae angen dybryd i weithredu. A wnaiff y Gweinidog gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU fod y cynigion sydd wedi’u cynnwys yn eu cynllun gweithredu yn annigonol a bod angen ailedrych arnynt ar frys i roi’r amddiffyniad sydd ei angen i blant yn fy etholaeth ac ar draws Cymru?