<p>Cyfraddau Gordewdra Ymhlith Plant</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:11, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, ymunodd Llywodraeth Cymru â nifer o rai eraill i fynegi rhywfaint o siom ynglŷn â’r diffyg uchelgais yn strategaeth gordewdra mewn plentyndod Llywodraeth y DU. Mae yna nifer o feysydd lle y mae Llywodraeth Cymru wedi annog yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn gyson i roi camau gweithredu mwy cadarn ar waith ar lefel y DU, ac mae hynny’n cynnwys camau llymach ar siwgr, er enghraifft, ac yn enwedig ar hysbysebu bwydydd afiach i blant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau wedi ysgrifennu ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar yr union fater hwn, yn mynegi ein siom a’n pwyso am weithredu llymach hefyd. Ond yn y cyfamser, rydym yn parhau i ddefnyddio’r holl ddulliau sydd gennym yma yng Nghymru, er enghraifft, i gynorthwyo ein canolfannau diwydiant bwyd i helpu i ail-greu eu cynhyrchion i gynnwys llai o siwgr, halen a braster, ac rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod plant yn cael dechrau iachach mewn bywyd, er enghraifft, drwy ein rhaglen 10 Cam at Bwysau Iach, ein rhaglen Plant Iach Cymru a rhwydwaith Menter Ysgolion Iach, gyda 99 y cant o’r ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan ynddi.