3. Cwestiwn Brys: Bashir Naderi

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 3:16, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gwn nad yw mewnfudo yn fater datganoledig, ond mae cymunedau, felly dyna pam eich bod yn cael y cwestiwn, ac rwy’n falch iawn fod y datganiad barn yn cael ei wneud gan y Cynulliad; mae hynny’n bwysig iawn. Ond rwy’n credu pe bai’r Llywodraeth yn gwneud datganiad yna byddai hynny’n gwneud yr achos hyd yn oed yn gryfach, a dyna pam ein bod yn cael ein hethol: i sefyll dros bobl Cymru. Felly, rwy’n eich annog i wneud hynny.