Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Rwy’n credu ein bod i gyd yn clywed yr hyn rydych yn ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran bod Aelodau’r Cynulliad, wrth gwrs, wedi sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Ond er nad yw hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ac rydym yn derbyn y pwynt hwnnw hefyd, mae’n gwbl briodol i’r Llywodraeth wneud ei barn yn hysbys a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ar hynny?