Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Wrth gwrs, unwaith eto, rwy’n cydnabod yr ymrwymiad llwyr gan Aelodau yn y Siambr hon i gefnogi Bashir. Mae’r mater, wrth gwrs, yn un technegol mai’r Swyddfa Gartref sy’n gorfod gwneud y penderfyniadau hyn. Pe bai’n benderfyniad i mi, gallem fod yn cael trafodaeth wahanol iawn. Gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn siŵr y bydd y Swyddfa Gartref yn cael ei gwneud yn gwbl ymwybodol o’r drafodaeth hon ac am y cwestiwn brys yma heddiw, a bydd y Gweinidog yn cael gwybod am eich safbwyntiau yn y broses honno.