Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Cadeirydd am roi crynodeb teg o drafodion y pwyllgor hyd yma. O safbwynt Plaid Cymru, mae’n bwysig ein bod ni’n gweld cyfle nawr yn y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod gennym y telerau gorau posibl ar gyfer amaeth a chefn gwlad, ond hefyd i sicrhau bod cyfle yn cael ei fanteisio arno i deilwra polisïau amaeth a chefnogaeth cefn gwlad i anghenion Cymru. Yn y cyd-destun hwnnw, fe gyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith bod y pwyllgor eisoes wedi edrych, er enghraifft, ar ardaloedd llai breintiedig, os leiciwch chi—tir mynydd, y mynydd-dir yn benodol yng Nghymru—ac felly mae’n ein harwain at y ffaith na fydd modd datblygu polisïau, ac yn sicr na fydd modd sicrhau bod arian ar gael ar gyfer ardaloedd felly, oni bai bod yna fframwaith Cymreig. Mae’n hynod bwysig bod hynny yn ei le.
Wrth gwrs, mae yna le i gydweithio gyda gweddill gwledydd y Deyrnas Gyfunol—mae’n rhaid cael hynny o ran lles ac iechyd anifeiliaid a materion tebyg. Ond, a yw’r Cadeirydd yn cytuno, felly, mai’r unig ffordd o gwrdd â dibenion y pwyllgor hyd yma yw ein bod ni’n sicrhau bod yna ryddid barn a rhyddid penderfyniad ynglŷn â pholisi amaeth yng Nghymru, a’n bod ni felly mewn sefyllfa i gytuno â gwledydd eraill ar beth sy’n gytûn rhyngom ni, ond ein bod ni hefyd yn gorfod cadw rhyddid i benderfynu’n wahanol lle mae hynny er lles cymunedau cefn gwlad?
Yr ail gwestiwn sy’n codi yn sgil y datganiad yma yw: ym mha ffordd y bydd y pwyllgor yn edrych ar faterion eraill? Mae ffocws y datganiad gan y Cadeirydd—ac mae’n wir i ddweud ffocws trafodion y pwyllgor—wedi bod ar arian. Mae’n wir i ddweud bod addewid gwleidyddol wedi’i wneud, felly mae’n hollol briodol i drio dal pobl i’r addewidion hynny, ond mae proses arall yn digwydd fan hyn. Mae masnachu yn bwysig, mae allforio yn bwysig—mae 90 y cant, fel mae’r Cadeirydd yn gwybod, o’n hamaeth ni yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd—ac mae’r cyfle i berchen ar enw da ar gyfer amaeth a chynnyrch amaeth Cymru yn hynod bwysig, rwy’n meddwl, ac yn gyfle ar un lefel yn ogystal. Felly, a ydy’r Cadeirydd yn meddwl y bydd modd edrych ar sut mae dilyniant deddfwriaethol amgylcheddol a dilyniant deddfwriaethol masnachol, a’r ymwneud hynny, hefyd yn cael eu hystyried gan y pwyllgor? Er bod hwn yn faes enfawr, mae’n hynod bwysig nad ydym ond yn ystyried yr arian, ond ein bod hefyd yn edrych ar y cyd-destun ehangach lle mae’n ffermwyr ni’n masnachu gyda gweddill Ewrop a thu hwnt.