– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 4, sef datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddyfodol polisïau amaethyddol a gwledig yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, Mark Reckless.
Diolch. Os ydym am sicrhau’r fargen orau posibl i’n cymunedau gwledig, amaethyddiaeth a’r amgylchedd ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, yna mae’n rhaid i ni fod yn feiddgar ac yn glir o ran yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU. Rydym ni, yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyrraedd consensws cynnar yn seiliedig ar gyngor arbenigol a barn ein rhanddeiliaid. Cytunodd y Pwyllgor a minnau i wneud y datganiad hwn er mwyn anfon neges glir at Lywodraeth y DU ynglŷn â’r hyn y mae Cymru ei eisiau ar ddechrau’r broses ymadael.
Rydym yn chwilio am ddau ymrwymiad gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyntaf yn ymwneud â chyllid yn y dyfodol. Credwn fod yn rhaid i Gymru barhau i gael yr un lefel o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig ag y mae’n ei chael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd. Wedi’r cyfan, dyma oedd yr addewid a wnaed gan nifer o uwch-ymgyrchwyr ar yr ochr Gadael yn refferendwm yr UE. Er ein bod yn cydnabod nad oedd yr ymgyrch Gadael yn siarad ar ran Llywodraeth y DU, mae sawl un o’u huwch-ymgyrchwyr bellach yn gwneud hynny, yn enwedig yr Ysgrifennydd Tramor a’r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Mae’r ail ymrwymiad yn ymwneud â rhyddid polisi i Gymru. Dylai penderfyniadau ar bolisïau amaethyddol, yr amgylchedd a datblygu gwledig yn y dyfodol gael eu gwneud yng Nghymru. Wedi’r cyfan, mae’r cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli. Pe bai’r achos yn cael ei wneud dros fframwaith polisi ledled y DU ar ryw lefel, yna dylid gwneud hyn ar sail cytundeb rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn cefnogi trafodaeth ddwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dylai cytundeb ar unrhyw fframwaith polisi trosfwaol fod yn destun craffu gan y Seneddau a’r Cynulliadau datganoledig a dylai alw am eu caniatâd. Os yw Llywodraeth y DU yn sicrhau parhad i gyllid blaenorol yr UE i Gymru yn llawn, yna rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud ymrwymiad yn gyfnewid am hynny. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gytuno i ddiogelu cyllid, ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i Gymru, ar gyfer cefnogi polisi amaethyddiaeth, yr amgylchedd a datblygu gwledig.
Ar ran y Pwyllgor, rwyf wedi ysgrifennu at Andrea Leadsom AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i ofyn am ymrwymiad i gynnal y cyllid ar gyfer Cymru. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y mae’n bleser gennyf ei gweld yn y Siambr, i ofyn am sicrwydd y byddai cronfeydd o’r fath yn cael eu diogelu ac yn parhau i gael eu defnyddio i gynnal amaethyddiaeth, yr amgylchedd a’n cymunedau gwledig.
Ni allwn gynnig polisïau yn y dyfodol gyda hyder heb yr ymrwymiadau hyn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol cydnabod bod cyllid cyfredol yr UE ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig sawl gwaith yn fwy nag y byddai pe bai’n ddarostyngedig i fformiwla Barnett.
Mae angen parhau arian blaenorol yr UE i sicrhau cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol ein hardaloedd gwledig. Hebddo, rydym mewn perygl o golli’r cydlyniant diwylliannol, cymdeithasol ac ieithyddol unigryw sy’n nodweddu’r Gymru wledig.
Mae gwaith y pwyllgor ar ein hymchwiliad i amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn sgil gadael yr UE wedi ymwneud â mwy na chyllido yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal trafodaethau gyda ffermwyr, coedwigwyr ac amgylcheddwyr. Ym mis Medi, fe ymwelsom â ffermydd a chynhyrchwyr bwyd yng Ngheredigion. Y mis diwethaf, aethom ati i gynnal gweithdy gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, yn ogystal â chynnull seminar o academyddion blaenllaw. Yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn ymweld â ffermydd yn Eryri.
Yn ychwanegol at y safbwynt ar gyllid yn y dyfodol, mae ein pwyllgor wedi ffurfio barn gychwynnol ar ddwy egwyddor lefel uchel arall. Y nod yw i’r ddwy gefnogi newid esblygol, yn hytrach na newid sydyn mewn polisi. Yn gyntaf, rydym yn cefnogi’r symud sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â chymorth ariannol oddi wrth daliadau sy’n seiliedig ar erwau a chynhyrchiant hanesyddol, a thuag at amcanion amgylcheddol a rheoli tir y cytunwyd arnynt. Yn ail, rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi ffermydd mwy ymylol, gan gynnwys mewn ardaloedd mynyddig. Dylai helpu ffermwyr tlotach yn arbennig helpu hefyd i gynnal consensws cyhoeddus a gwleidyddol dros gymorth i ffermydd. Fodd bynnag, bydd datblygu egwyddorion polisi fel y rhain yn ddiystyr, oni bai ein bod yn sicrhau’r arian angenrheidiol yn y dyfodol.
Gobeithio y gall pob plaid yn y Cynulliad gefnogi ein gwaith a’r alwad a wnawn heddiw ar gyllid yn y dyfodol. Yn amodol ar hynny, gallwn i gyd wneud y gorau o’r cyfleoedd i gyflawni dros bobl ac amgylchedd Cymru. Diolch.
A gaf fi ganmol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am benderfynu edrych ar y polisïau amaethyddol a gwledig yng Nghymru yn y dyfodol fel un o’i ymchwiliadau cyntaf? Wrth gwrs, amaethyddiaeth yw asgwrn cefn yr economi wledig ac mae’n cyfrannu’n aruthrol i economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn archwilio’r polisïau hyn yn enwedig yn sgil y penderfyniad i adael yr UE. Fodd bynnag, er ei bod yn bwysig i’r Cynulliad graffu ar bolisïau amaethyddol a gwledig, hoffwn ddeall ychydig mwy am holl gwmpas yr ymchwiliad hwn, ac felly y canlyniadau realistig y gallwn eu disgwyl drwy gydol y broses hon. Felly, efallai y gall Cadeirydd y pwyllgor ddweud mwy wrthym am gwmpas yr ymchwiliad hwn yn ei ymateb yma y prynhawn yma.
Nawr, rwy’n siŵr y bydd y Cadeirydd yn cytuno â mi fod polisïau gwahanol yn galw am ymrwymo mwy o amser, o gofio bod rhai wedi gwreiddio’n ddyfnach nag eraill yn neddfwriaeth yr UE, neu’n ddibynnol arni hyd yn oed. Felly, a all ddweud wrthym a fydd unrhyw hyblygrwydd yn amserlennu’r pwyllgor i ychwanegu cyfarfodydd ychwanegol fel bod pob agwedd ar yr ymchwiliad yn cael ei drafod yn llawn?
Wrth gwrs, mae’n bwysig fod y pwyllgor yn gwneud popeth a all i annog rhanddeiliaid a chymunedau gwledig i fod yn rhan o unrhyw ymchwiliad ac rwy’n falch fod gweithdy ac ymweliad pwyllgor eisoes wedi’u cynnal, fel y crybwyllodd yn ei ddatganiad yn gynharach.
Deallaf fod yr ymgynghoriad ar yr ymchwiliad hwn, sydd eisoes wedi cael ei gyhoeddi, yn dod i ben ar 25 Tachwedd, felly a all Cadeirydd y pwyllgor gadarnhau sut y bydd y pwyllgor wedyn yn ymateb i’r atebion a ddaw i law? Yn ddealladwy, o gofio natur eang yr ymchwiliad hwn, sut y bydd yn ymdrin â phynciau polisi gwledig pwysig ar wahân y gallai eu cael o ganlyniad i’r ymchwiliad penodol hwn? Wrth gwrs, mae digon o waith craffu polisi i bara am amser hir i’r pwyllgor hwn o fewn y briff amaethyddol yn unig. Felly, mae’n bwysig fod rhanddeiliaid yn gwbl ymwybodol o bob cam o broses ymchwilio’r pwyllgor.
Bydd Aelodau sydd wedi bod yma ers peth amser yn cofio Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y trydydd Cynulliad, a oedd yn is-bwyllgor parhaol i ystyried materion sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig a pholisïau gwledig. A all y Cadeirydd ddweud wrthym beth oedd ei asesiad o’r pwyllgor hwnnw ac a yw’r pwyllgor presennol wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o atgyfodi is-bwyllgor tebyg i edrych ar ddatblygu gwledig a pholisïau gwledig ar sail barhaus yn hytrach nag ymchwiliad untro’n unig?
Er y gall fod yn fanteisiol cael fframwaith ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig, drwy gydsyniad, i’r DU gyfan, ac ar gyfer rheoliadau amgylcheddol yn ogystal, cytunaf yn llwyr â barn y pwyllgor fod yn rhaid i’r pwyllgor sicrhau bod y prif gyfrifoldeb polisi yn y meysydd hyn yn dychwelyd i Gymru o Frwsel. Rwy’n falch o nodi o’r datganiad heddiw y bydd y pwyllgor hefyd yn pwyso ar Lywodraethau ar bob lefel i sicrhau bod amaethyddiaeth, materion gwledig a’r amgylchedd yn parhau’n flaenoriaethau ariannol oherwydd yn amlwg, dyma’r meysydd a gaiff eu profi fwyaf wrth i ni adael yr UE.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n falch iawn o weld y bydd y polisi materion gwledig ac amaethyddol yn cael eu craffu ymhellach ar lefel pwyllgor Cynulliad. Rydym yn wynebu cyfnod pan fydd angen gwneud nifer o benderfyniadau pwysig mewn perthynas ag amaethyddiaeth Cymru a bydd effaith fawr ar y Gymru wledig. Rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i amaethyddiaeth a pholisïau gwledig, yn sgil gadael yr UE. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnwys yr holl randdeiliaid wrth drafod ffyrdd o wneud ein cymunedau gwledig yn fwy ffyniannus a chydnerth yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
Felly, a gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad heddiw? Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yr ymchwiliad hwn yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ei gyfraniad ac am ei waith ar ran ei blaid ac eraill yn y meysydd hyn. Fel y dywed, amaethyddiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi wledig, ond rydym yn ymwybodol na ddylem ddiffinio amaethyddiaeth yn rhy gyfyng. Mae posibiliadau amaeth a’r math o amaethyddiaeth wedi newid ac yn parhau i newid, ond hefyd mae’r gallu mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru i arallgyfeirio o amaethyddiaeth draddodiadol a denu incwm drwy ddarpariaeth arall yn sylweddol iawn. Hefyd, yn ein cais i Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddiogelu gwariant yn y meysydd hyn, ni fyddem am fod yn rhy gyfyngol o ran yr union ddiffiniad a’r ffiniau o amgylch y meysydd hynny, gan ein bod yn cydnabod bod y rheini’n newid dros amser.
Mae cwmpas ein hymchwiliad wedi datblygu ac rwy’n credu mai un o’r heriau mawr i’r pwyllgor oedd penderfynu beth yw cwmpas priodol yr ymchwiliad. Roeddwn yn yr Alban wythnos neu ddwy yn ôl, a siaradais â’r person y maent yn ei alw’n gynullydd yr hyn sy’n cyfateb i’n pwyllgor materion gwledig yn yr Alban, ac maent wedi dewis, hyd yn hyn o leiaf, peidio â chynnal ymchwiliad o’r fath ac roedd ganddynt ddiddordeb yn y ffaith ein bod ni’n gwneud hynny ac yn yr heriau rydym yn eu hwynebu. Rwy’n meddwl hefyd, ynghyd â phwyllgorau eraill, ein bod yn dod o hyd i’n traed o ran cysylltiadau â’r pwyllgor materion allanol, a gadeiriwyd yn fedrus gan David Rees yma, ac yn ein cysylltiadau a’n trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth DU i’r graddau y gallwn eu cael.
Yr hyn rydym wedi penderfynu ei wneud yw i mi wneud y datganiad hwn heddiw yn nodi pa mor gwbl ganolog yw’r canfyddiadau. Oherwydd wrth i ni barhau, rwy’n credu ei bod wedi dod yn amlwg i ni y gallem dreulio llawer iawn o amser yn llunio cynigion polisi manwl a syniadau gwych o’r hyn y byddem yn hoffi ei wneud yn y dyfodol, ond mewn gwirionedd, heb ymrwymiad cliriach a hyder ynghylch cyllid, gallai’r gwaith hwnnw fod yn wastraff. Felly, rydym yn awyddus iawn i roi’r datganiad clir iawn ein bod yn disgwyl i’r lefel honno o gyllid barhau ac rydym yn gobeithio y bydd y Cynulliad yn gallu mynegi hynny i Lywodraeth y DU ar sail drawsbleidiol.
Rydym hefyd wedi cynnig dwy egwyddor arall, a drafodwyd gennym mewn gweithdy rhanddeiliaid ac roeddem yn meddwl bod yr ymateb cychwynnol yn weddol gadarnhaol, er, wrth gwrs, efallai y bydd rhywfaint o anfantais i rai ffermwyr a rhai ardaloedd yn sgil y tueddiadau sy’n parhau. Ond maent yn dueddiadau parhaus y credwn y gallant helpu i sicrhau mwy o gefnogaeth i’r hyn rydym yn dadlau drosto mewn perthynas â chyllido a’r angen i’r arian hwnnw barhau.
Mae gennym hyblygrwydd yn yr amserlen; rydym wedi galw am dystiolaeth ac ymatebion i’r ymgynghoriad erbyn 25 Tachwedd. Ein bwriad yw cael sesiynau tystiolaeth ym mis Ionawr, felly os oes yna arbenigwyr, grwpiau buddiant neu unigolion penodol y mae’r Aelod o’r farn y dylem glywed ganddynt, byddwn yn falch iawn o glywed ei sylwadau ar hynny. Roeddwn yn gwybod am yr is-bwyllgor a oedd yn cyfarfod yn flaenorol ac rwyf wedi clywed adroddiadau cadarnhaol, yn enwedig o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ei waith. Nid wyf yn meddwl fy mod yn bradychu unrhyw gyfrinach arbennig drwy ddweud bod y pwyllgor wedi trafod y defnydd posibl o is-bwyllgorau a rapporteurs. Hyd yma, nid ydym wedi penderfynu sefydlu is-bwyllgor ar gyfer hyn. Rwy’n credu mai ein bwriad fyddai adrodd tuag at ddiwedd chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf, ond yn dibynnu ar ddatblygiadau yn y trafodaethau cyffredinol ar adael yr UE, yn ogystal ag o fewn y sector amaethyddiaeth a datblygu gwledig, mae’n faes y gallem yn sicr ddychwelyd ato o ystyried ei flaenoriaeth a’i bwysigrwydd i waith y pwyllgor.
Fel yr Aelod, rwy’n cytuno â’r fframwaith ar gyfer y DU gyfan. Rwyf hefyd yn awgrymu, rwy’n credu, fod trafodaethau Cymru-y DU hefyd yn bwysig, gan fod yna gyd-destun gwleidyddol gwahanol yng Nghymru, lle y gwnaethom bleidleisio dros adael y DU a lle y mae gennym Lywodraeth sy’n dod i delerau â hynny ac wedi ymrwymo i barhau i fod yn aelod o’r DU yn hytrach na’r safbwynt gwahanol a geir gan Lywodraeth yr Alban. Felly, nid wyf yn credu y dylem wneud rhywbeth y gallai Llywodraeth yr Alban roi feto arno neu ble y gallai fod eisiau dilyn trywydd gwahanol. Nid wyf yn credu y dylai hynny ein hatal rhag gweithio gyda Llywodraeth y DU, er ein bod yn amlwg eisiau archwilio’r potensial ar gyfer fframwaith ar gyfer y DU gyfan i’r graddau y byddai wedi’i gytuno gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn.
Diolch i’r Cadeirydd am roi crynodeb teg o drafodion y pwyllgor hyd yma. O safbwynt Plaid Cymru, mae’n bwysig ein bod ni’n gweld cyfle nawr yn y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod gennym y telerau gorau posibl ar gyfer amaeth a chefn gwlad, ond hefyd i sicrhau bod cyfle yn cael ei fanteisio arno i deilwra polisïau amaeth a chefnogaeth cefn gwlad i anghenion Cymru. Yn y cyd-destun hwnnw, fe gyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith bod y pwyllgor eisoes wedi edrych, er enghraifft, ar ardaloedd llai breintiedig, os leiciwch chi—tir mynydd, y mynydd-dir yn benodol yng Nghymru—ac felly mae’n ein harwain at y ffaith na fydd modd datblygu polisïau, ac yn sicr na fydd modd sicrhau bod arian ar gael ar gyfer ardaloedd felly, oni bai bod yna fframwaith Cymreig. Mae’n hynod bwysig bod hynny yn ei le.
Wrth gwrs, mae yna le i gydweithio gyda gweddill gwledydd y Deyrnas Gyfunol—mae’n rhaid cael hynny o ran lles ac iechyd anifeiliaid a materion tebyg. Ond, a yw’r Cadeirydd yn cytuno, felly, mai’r unig ffordd o gwrdd â dibenion y pwyllgor hyd yma yw ein bod ni’n sicrhau bod yna ryddid barn a rhyddid penderfyniad ynglŷn â pholisi amaeth yng Nghymru, a’n bod ni felly mewn sefyllfa i gytuno â gwledydd eraill ar beth sy’n gytûn rhyngom ni, ond ein bod ni hefyd yn gorfod cadw rhyddid i benderfynu’n wahanol lle mae hynny er lles cymunedau cefn gwlad?
Yr ail gwestiwn sy’n codi yn sgil y datganiad yma yw: ym mha ffordd y bydd y pwyllgor yn edrych ar faterion eraill? Mae ffocws y datganiad gan y Cadeirydd—ac mae’n wir i ddweud ffocws trafodion y pwyllgor—wedi bod ar arian. Mae’n wir i ddweud bod addewid gwleidyddol wedi’i wneud, felly mae’n hollol briodol i drio dal pobl i’r addewidion hynny, ond mae proses arall yn digwydd fan hyn. Mae masnachu yn bwysig, mae allforio yn bwysig—mae 90 y cant, fel mae’r Cadeirydd yn gwybod, o’n hamaeth ni yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd—ac mae’r cyfle i berchen ar enw da ar gyfer amaeth a chynnyrch amaeth Cymru yn hynod bwysig, rwy’n meddwl, ac yn gyfle ar un lefel yn ogystal. Felly, a ydy’r Cadeirydd yn meddwl y bydd modd edrych ar sut mae dilyniant deddfwriaethol amgylcheddol a dilyniant deddfwriaethol masnachol, a’r ymwneud hynny, hefyd yn cael eu hystyried gan y pwyllgor? Er bod hwn yn faes enfawr, mae’n hynod bwysig nad ydym ond yn ystyried yr arian, ond ein bod hefyd yn edrych ar y cyd-destun ehangach lle mae’n ffermwyr ni’n masnachu gyda gweddill Ewrop a thu hwnt.
Diolch i’r Aelod am ei gyfraniad, yn awr ac yn y Pwyllgor hefyd. Yn sicr, mae ei gyfraniadau wedi bod yn werthfawr iawn, gan gynnwys wrth ddatblygu fy ngwybodaeth fy hun am y sector. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi ei agwedd gadarnhaol yn gyffredinol a’i ffocws ar y cyfleoedd a all ddeillio o adael yr UE, a chredaf fod y safbwyntiau gwahanol hynny—mae graddau’r ffocws ar sut rydym yn addasu i’r sefyllfa newydd a gwneud yr hyn sydd orau i’n hetholwyr yn creu argraff arnaf. Mae’n sôn am awydd i chwilio am y telerau gorau ar gyfer amaethyddiaeth, ac amaethyddiaeth Cymru yn benodol, mewn unrhyw gytundeb masnach yn y dyfodol â’r Undeb Ewropeaidd mewn cytundebau y gellid eu cael â thrydydd gwledydd, ac rwy’n tybio, ym marchnad fewnol y DU ei hun yn wir. Rwy’n credu ei fod wedi crybwyll allforion o 90 y cant—y ffigur rwy’n meddwl fy mod yn ei gofio o un o’n briffiau ymchwil oedd 60 neu 70 y cant, ond gallai hynny fod ar sail y DU yn hytrach nag ar sail Cymru’n benodol. Rydym yn siarad weithiau yn ein pwyllgor ac mewn mannau eraill am filltiroedd bwyd ac oni fyddai’n well pe baem yn ei fwyta yn agosach at ble y cafodd ei gynhyrchu, ond yn achos llawer o’r hyn a gynhyrchir yng Nghymru, ac yn arbennig cig oen, yn syml iawn ni fyddem yn gallu bwyta cyfran sylweddol hyd yn oed o’r hyn a gynhyrchir yng Nghymru. Mae maint y sector amaethyddol yn fawr i Gymru, ond un mater sy’n rhaid i ni ei gadw’n agos iawn ac yn ganolog i’n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yw ei fod yn llawer llai o faint ar lefel y DU nag ar lefel Cymru. Pan edrychwn ar yr allforion, mae’r gyfran sy’n mynd i’r Undeb Ewropeaidd, y tariffau posibl pe baem yn ddarostyngedig i dariff allanol cyffredin yn y meysydd hyn yn uwch yn y meysydd hyn, ac yn llawer iawn mwy sylweddol mewn gwirionedd, a gallent newid gogwydd masnach a chynhyrchiant yn llwyr os na chânt eu trafod yn dda. Efallai y bydd cyfleoedd yn deillio o hynny, ond yn sicr bydd risgiau hefyd. Byddwn yn rhannu’r dyhead i barhau mynediad i’r farchnad sengl ac awydd i beidio â chael y tariffau hynny ar amaethyddiaeth Cymru; rwy’n credu fy mod yn siarad ar ran pob aelod o’r pwyllgor ac Aelodau eraill y Cynulliad ar hynny yn ôl pob tebyg.
Dylem gael rhyddid i’n polisi amaethyddol, ac rwy’n credu y dylai San Steffan gydnabod hynny’n glir. Serch hynny, rwy’n meddwl y gall fod lle sylweddol i gytundeb ar fframweithiau polisi DU neu fframweithiau Cymru a Lloegr os oes angen, ac yn ymarferol mae cymaint o’r hyn sydd wedi’i ddatganoli de jure i ni wedi’i wneud ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Meddyliwn am ddiogelwch ar gyfer mathau penodol o nwyddau amaethyddol a bwydydd; os ydym y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, mae’n rhaid i ni fynd ati o ddifrif i sefydlu ein cyfundrefn ein hunain ar gyfer hynny, ac mae’n rhaid i ni gael safonau gofynnol ar gyfer cynhyrchion trydydd gwledydd o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd a safonau cryfach, efallai, ar gyfer cynhyrchion Ewropeaidd os caiff hynny ei gytuno. Ond mae’n mynd i fod yn her sylweddol iawn i ni o ran capasiti deddfwriaethol yn gymaint ag unrhyw beth arall. Rwy’n credu y bydd angen dull cyffredin o weithredu ar rai materion, megis iechyd anifeiliaid, lle y mae’n anodd gweld manteision nifer o ddulliau gwahanol ar yr ynysoedd hyn, er efallai y bydd gan eraill farn wahanol ar hynny.
O ran amgylcheddau, oes, rwy’n meddwl bod yna ddadleuon cryf dros barhad deddfwriaethol. Rwy’n meddwl bod llawer o’r fframwaith deddfwriaethol Ewropeaidd wedi cael ei fabwysiadu heb ystyriaeth fanwl ar lefel ddomestig, ac rwyf wedi dweud yn aml wrth bobl o fudiadau amgylcheddol, rwyf wedi rhybuddio rhywfaint rhag cyfeirio bob amser at ddiogelwch Ewropeaidd, oherwydd i rai pobl nad ydynt efallai’n rhannu barn gadarnhaol ar yr Undeb Ewropeaidd a’i ddeddfau, gallai fod yn well seilio’r dadleuon hynny ar deilyngdod y ddeddfwriaeth neu fel diogelwch rhyngwladol. Caf fy synnu gan gymaint o ddeddfwriaeth ryngwladol sydd ar gael hefyd i gyfateb i’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Ond mae angen i ni edrych ar hynny, rwy’n deall hynny, ac rwy’n meddwl y bydd lle i ni, y pwyllgor a’r Aelodau, weithio i gefnogi sefydliadau amgylcheddol a’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd, wrth i ni ysgwyddo’r dasg fawr honno.
Rwy’n croesawu’r datganiad hwn yn fawr iawn, gan ei fod yn arwydd o fwriad cynnar ynglŷn ag egwyddorion clodwiw y pwyllgor. Croesawaf yn arbennig y datganiad clir y dylai’r arian sydd yno ar hyn o bryd ac a addawyd yn bendant iawn yn ystod y refferendwm gan y rhai a oedd yn ymgyrchu i adael gael ei ddarparu mewn gwirionedd, ond nid yn unig hynny; dylai’r polisi ynglŷn â hyn gael ei lunio yng Nghymru mewn gwirionedd a’i benderfynu yng Nghymru, fel sy’n gweddu i ddeddfwrfa lle y mae’r holl gymwyseddau hynny, yn wir, wedi’u datganoli i ni yn awr. Felly, pa ffurf bynnag fydd i adael yr UE yn y pen draw ar fframwaith yr UE wrth iddo gael ei drosglwyddo i lawr i lefel y DU, ni ddylem gamu’n ôl mewn unrhyw ffordd i sefyllfa lle y gwelwn yn sydyn ein bod wedi colli cymwyseddau. Mae’n rhaid i bolisi amaethyddol, polisi datblygu gwledig, polisi amgylcheddol ac yn y blaen gael eu penderfynu yma mewn gwirionedd.
Ond mae angen y cyllid hwnnw, ac rwy’n meddwl bod y Cadeirydd yn iawn i wneud y pwynt yn glir iawn fod y cyllid yn allweddol i hyn. Rhaid mai mater i Lywodraeth Cymru, rhaid i mi ddweud, fydd penderfynu sut i ddefnyddio’r cyllid hwnnw mewn gwirionedd, neu pa ffordd i’w rannu a’i ddyrannu. Oherwydd mae’n ddiddorol, yn y datganiad hefyd, fod y Cadeirydd yn gywir yn dweud—nid yw’n cyfeirio at y pwynt a wnaed i ni o’r blaen mewn gwirionedd, ond rwy’n gwybod y bydd wedi talu sylw iddo, lle y mae pobl wedi dweud nad tudalen wag yw hon, ond mater o bontio. Nid yw fel pe baem yn sefydlu rheolau cyfan gwbl newydd yn y fan hon. Rydym yn gweithio o fewn rheolau, ac mae yna wledydd eraill a fydd â gwahanol fersiynau o gymorth ar gyfer eu cymuned ffermio. Nid tudalen wag yw hyn.
Fodd bynnag, mae yna gyfle i feddwl ychydig yn fwy radical, a gall peth o’r meddwl radical hwnnw yn wir gynnwys meddwl ynglŷn â sut rydych yn defnyddio arian cyhoeddus i ddarparu nwyddau cyhoeddus ehangach. Ymhlith y nwyddau cyhoeddus hynny, gyda llaw, mae cynhyrchu bwyd da, cynaliadwy a chymunedau gwledig hyfyw gyda ffermydd bach a chanolig eu maint. Ond hefyd ymysg y nwyddau cyhoeddus hynny, mae lliniaru llifogydd, sut rydym yn ymdrin â’r corsydd mawn ar y rhostiroedd, a bioamrywiaeth. Sut rydym yn cynnal y gwasanaethau ecosystemau cwbl amhrisiadwy sydd gennym a hynny i gyd hefyd? Mae hyn yn rhoi cyfle i ni feddwl yn wahanol a meddwl yn radical, ond mae’n rhaid i ni—fel y mae’r pwynt wedi’i wneud i ni hefyd—feddwl am y ffaith nad ydym yn mynd o dudalen wag. Beth bynnag sy’n digwydd yn Lloegr, neu yn Iwerddon yn rhyfedd ddigon, heb sôn am wledydd Ewropeaidd eraill, mae angen i ni gadw llygad ar hynny o ran sut rydym yn symud ymlaen ar hyn. Ond mae cyllid yn allweddol, ac mae rhyddid polisi yng Nghymru yn allweddol hefyd.
Rwyf am wneud un pwynt i gloi. Rydym yn aml yn sôn am gymunedau gwledig yn y lle hwn—ac roeddwn wedi arfer â hyn yn San Steffan hefyd, wrth feddwl am leoedd ar weunydd gogledd swydd Efrog neu ffermwyr East Anglia, neu rywle yng Ngheredigion, er mor hardd ydyw—ond mae hefyd yn fater sy’n effeithio ar gymoedd de Cymru a llawer o lefydd eraill. Mae 40 y cant o fy etholaeth yn ffermydd mynydd—bob amser wedi bod. Mae’n hanfodol i Gymru, yn arbennig, ein bod yn cael hyn yn iawn, ac rwy’n croesawu’r datganiad lefel uchel gan y cadeirydd yma yn fawr iawn. Er ein bod yn dal i fod mewn trafodaethau—rydym yn dal i siarad gyda llawer o bobl ar lawr gwlad—rhaid cyflawni’r egwyddor lefel uchel o ddweud, ‘Mae’n rhaid i’r cyllid a gafodd ei addo ddod i Gymru’, ac yna rhaid mai mater i Gymru ac Ysgrifennydd Cabinet o’n blaenau fydd penderfynu, ar y cyd ag Aelodau’r Cynulliad yma, beth ddylai’r polisi fod a sut y dylem ddefnyddio’r arian hwnnw mewn gwirionedd i sicrhau’r manteision ehangach sydd i’w cael. Dyna beth fyddwn i’n ei ddweud yn y pen draw. Er bod hyn yn canolbwyntio i raddau helaeth, yn gwbl briodol, ar ffermio a chynhyrchu bwyd ac yn y blaen, mae hefyd yn edrych ar y rheidrwydd ehangach, sydd mor allweddol, o safbwynt bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau a chymunedau gwledig cynaliadwy. Maent i gyd yn mynd law yn llaw. Mae modd darparu’r cyfan gyda’i gilydd. Stiwardiaid ar hyn ydym ni wrth symud ymlaen, nid meistri, ac mae angen i ni edrych ar ôl y cymunedau gwledig hyn.
Rwy’n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies am y cyfraniad hwnnw. Fe sonioch ar y dechrau am yr arian sy’n cael ei addo, a soniais fod rhai ymgyrchwyr Gadael wedi rhoi sicrwydd—a chrybwyllais ddau o’r rheini sydd bellach ar lefel uchel a pherthnasol iawn yn Llywodraeth y DU. Roeddwn yn cydnabod, yn ystod yr ymgyrch, mai ymgyrch oedd hi ac nad oeddwn yn siarad ar ran unrhyw Lywodraeth ar y mater. Ceisiais fod yn ofalus yn yr hyn a ddywedwn yn sgil hynny. Rwy’n meddwl efallai fod ymgyrchwyr Gadael eraill hefyd wedi ystyried hynny. Ond rwy’n cofio—ac rwy’n gweld Andrew R.T. Davies yma, ac rwy’n meddwl bod nifer o drafodaethau wedi bod gyda’r Prif Weinidog yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm hwnnw, lle y pwyswyd arno i roi sicrwydd ynglŷn â pharhad y cyllid.
Rwyf hefyd yn cofio achlysuron eraill. Ni wnaf enwi’r Aelod, ond roedd Aelod penodol ar ochr y Llywodraeth, pan oeddwn yn dadlau gerbron ffermwyr, yn awgrymu i’r ffermwyr y dylent bleidleisio dros Aros oherwydd, os na wnaent hynny, gallai fod yna risg i’w cyllid, ac na ddylent ragdybio y byddai amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar frig rhestr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan fod llawer o bwysau eraill ar ei hamser, ac efallai nad oedd cymaint o gefnogaeth yn y gymuned honno yn draddodiadol. Ond yr hyn rwyf am ei wneud heddiw, gyda’r datganiad hwn, yw casglu Aelodau o bob plaid at ei gilydd i gefnogi’r hyn rwy’n ei ystyried yn amcan cyffredin. Rwy’n credu ein bod mewn brwydr wleidyddol dros hyn. Rwy’n meddwl y gallwn gyflawni hyn. Ond rwy’n meddwl os gweithiwn gyda’n gilydd—ie, i sicrhau bod ymgyrchwyr Gadael yn y Llywodraeth yn cadw at eu gair mewn perthynas â sicrwydd penodol a roddwyd, ond hefyd i esbonio’r economi wledig unigryw sydd gennym yng Nghymru—ac fe soniais am yr elfen ieithyddol, y credaf nad yw’n debygol o fod yn rhywbeth y bydd llawer o wneuthurwyr polisi yn Llundain yn rhoi ystyriaeth fawr iddi neu hyd yn oed yn ymwybodol ohoni o reidrwydd pan fydd y materion hyn yn glanio ar eu desgiau. Pe baem yn mynd o lefel yr UE o gyllid i lefel fformiwla Barnett o gyllid, byddai’r effaith ar y cymunedau hynny o ran y diboblogi tebygol a newid i’r dirwedd a chwalu cymunedau diwylliannol, cymdeithasol ac ieithyddol y byddai hynny’n arwain ato yn ddifrifol tu hwnt mewn gwirionedd. Rwy’n teimlo hynny’n gryf, fel y gwn fod llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon, pa ochr bynnag i’r ddadl roeddent arni yn y refferendwm.
Soniodd yr Aelod hefyd am fod eisiau i ddeddfwriaeth gael ei gwneud yng Nghymru. Rwy’n cytuno â’i deimladau ond bydd ef, fel rwyf fi, yn ymwybodol o gymhlethdod pur y sylfaen ddeddfwriaethol. Rwyf wedi clywed awgrym fod rhywbeth tebyg i 5,000 o offerynnau cyfreithiol yn effeithio ar y PAC. Bydd gan y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru lawer o wahanol alwadau ar eu hamser, fel sydd ar amser ein pwyllgor, ac rwy’n meddwl mai’r her yw dod o hyd i beth yw’r elfennau hanfodol, ac rydym yn ceisio nodi’r egwyddorion allweddol rydym am iddynt fod yn gymwys yn benodol yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen i ni, fel pwyllgor ac fel Cynulliad, ganolbwyntio ein hamser ar y meysydd lle y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol os ceisiwn newid y fframwaith deddfwriaethol neu ei addasu mewn unrhyw ffordd o’r hyn sydd wedi datblygu o fewn y PAC. Dylai Llywodraeth Cymru gael rheolaeth ar yr arian hwnnw, ond rwy’n meddwl y byddai datganiad ynghylch parhau’r lefel honno o gymorth ar gyfer y meysydd hyn yn ein cynorthwyo i lunio dadleuon i Weinidogion y DU ac eraill dros gadw’r arian hwnnw. Crybwyllodd yr Aelod hefyd, rwy’n meddwl, fod 40 y cant o’i etholaeth yn ffermydd mynydd. Pan fyddwn yn sôn am ffermydd mwy ymylol, ydy, mae hynny’n cynnwys yr ucheldir. Ond yn enwedig mewn ardaloedd fel ei un ef, ond hefyd ar draws llawer o dde-ddwyrain Cymru, nid oes rhaniad o reidrwydd rhwng ffermydd ar lawr gwlad a ffermydd mynydd. Mae yna nifer o ffermydd a fydd â rhan o’r fferm yn y dyffryn a rhan ymhellach i fyny. Cytunaf ag ef o ran yr hyn y mae’n ei ddweud am fioamrywiaeth a chynaladwyedd. Mae’n bwysig iawn ein bod i gyd yn canolbwyntio ar y rheini, ac mae yna adegau pan fo cyfaddawdau anodd o ran arian ac amcanion eraill, ond mae’n iawn i gadw’r ardaloedd hynny ar flaen ein meddyliau.
Rwy’n llongyfarch fy ffrind Mark Reckless ar y modd trawiadol y mae’n cadeirio’r pwyllgor a’r ffordd y mae wedi cyflwyno ei ddatganiad heddiw. Hefyd, hoffwn ganmol y pwyllgor am y gwaith caled y mae pob aelod ohono yn ei wneud. Nid wyf fel arfer yn cael fy nghysylltu’n agos iawn â’r gair ‘consensws’, ond rwyf wrth fy modd yn clywed bod y pwyllgor wedi cytuno ar ddull consensws cyffredinol, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n ymestyn y tu hwnt i gyfyngiadau’r pwyllgor ac i mewn i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Mae polisi amaethyddol yng nghyd-destun gadael yr UE yn hanfodol bwysig. Mae wedi bod yn hynod o amlwg yng ngwariant yr UE byth ers i ni ymuno nôl yn 1973. Mae’n iawn, felly, y dylid rhoi’r pwys mwyaf iddo wrth ddatblygu polisi yng Nghymru, y rhoddir rhyddid iddi yn awr i ddatblygu polisi amaethyddol i weddu i’n hanghenion ein hunain, ar gyfer ein cenedl ein hunain yn benodol. Rwy’n falch o glywed yr hyn a ddywedodd Simon Thomas yn ei ymateb i’r datganiad yn gynharach, a’r ffordd gadarnhaol y mae ef yn edrych ar y cyfleoedd sydd bellach o’n blaenau. Wrth gwrs, mae’n hanfodol bwysig fod cyllido amaethyddiaeth yng Nghymru yn cael ei gadw fel y caiff ei drosglwyddo i lawr i ni o’r UE. Rwy’n sylweddoli, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, nad yw hyn yn rhywbeth sydd wedi’i naddu ar garreg yn oes oesoedd. Ond o leiaf ar gyfer y broses sylweddol o bontio, mae sefydlogrwydd yn dibynnu ar sicrhau bod pobl yn gwybod y gellir dibynnu ar yr hyn y maent wedi arfer ag ef. O gofio ein bod wedi ymuno â’r Farchnad Gyffredin, fel y’i gelwid bryd hynny, cyn dyfeisio fformiwla Barnett, mae’r rhwymedigaethau ar gyfer ariannu amaethyddiaeth yn mynd yn ôl ymhellach na’r fformiwla honno. Am y tro, beth bynnag, mae’n hanfodol fod yr hyn sy’n cael ei wario ar ffermio yng Nghymru yn cael ei ddiogelu. Rwyf wedi cefnogi barn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn gadarn y dylai Llywodraeth y DU warantu pob ceiniog o’r arian y mae’r UE yn ei wario ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwy’n meddwl mai canlyneb y ddadl honno yw bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ei hun yn awr gamu ymlaen a gwarantu, am gyfnod trosiannol sylweddol, y lefel o gyllid a fydd yn cael ei drosglwyddo i lawr iddi gan Lywodraeth y DU mewn perthynas ag amaethyddiaeth, os mai dyna fydd yn digwydd maes o law mewn gwirionedd.
Rwy’n falch o weld y pwyslais a roddwyd ar y gefnogaeth i ffermio ymylol, ac yn arbennig i’r ucheldir. Mae’n rhaid i ni gydnabod y realiti gwleidyddol rydym i gyd yn gweithredu ynddi—mai cyfran fach o gyfanswm y boblogaeth yw’r gymuned amaethyddol, ac rydym yn dibynnu ar gydsyniad poblogaethau trefol ynglŷn â faint o gymhorthdal y mae ardaloedd gwledig yn ei chael. Un o’r ffyrdd y gallwn wneud y gorau o botensial hynny yw trin ffermwyr fel ceidwaid cefn gwlad yn gymaint â thyfwyr bwyd. Er fy mod yn credu bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn elfen bwysig yn ogystal, mae gennym ddiffyg sylweddol iawn mewn cynhyrchiant bwyd yn y wlad hon. Rydym yn mewnforio’n helaeth iawn, ac mae hynny, yng nghyd-destun y trafodaethau sydd ar y ffordd gyda’r UE ynglŷn â’n perthynas yn y dyfodol, yn arf y dylem ei ddefnyddio i’r eithaf. Yn ein dwylo ein hunain, mae gennym ddiffyg gwerth £10 biliwn y flwyddyn gyda’r UE ar fwyd a diod. Felly, mae ganddynt bob diddordeb mewn cynnal y mynediad presennol at y farchnad sengl. Hefyd ceir yr elfen bwysig, sydd wedi’i chrybwyll hyd yn hyn, sef cyfleoedd masnachu yn y dyfodol rhwng Prydain a’r UE, a Chymru a’r UE yn arbennig. Roedd Simon Thomas yn iawn i dynnu sylw at ddibyniaeth ffermio yng Nghymru ar allforion, ac mae hon yn her ar gyfer y dyfodol, yn ddi-os, yn enwedig i gynhyrchwyr cig oen. Rhaid i ni gydnabod nad yw’r byd yn aros yn ei unfan ac mae gwledydd fel Seland Newydd wedi wynebu heriau enfawr yn y gorffennol—aethant ati i ddiddymu eu holl gymorth amaethyddol dros nos—ac eto fe ffynnodd amaethyddiaeth yn Seland Newydd. Efallai fod gwersi y gallwn eu dysgu o brofiadau o’r fath yn y pwyllgor heyfd—nid bod hynny’n rhywbeth rwy’n ei argymell, ond serch hynny, mae’r ymateb i ergydion o’r fath yn cynnig cyfleoedd i ni ddysgu ynglŷn â sut y gallwn ymdopi â hwy. Mae hyrwyddo masnach yn elfen arall bwysig o hyn hefyd lle y mae gennym fwy o ryddid.
Y pwynt olaf a wnaf yw nad polisi amaethyddol yn unig sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, ond polisi amgylcheddol hefyd, ac mae hyn yn rhoi cyfle i ni edrych ar y drefn reoleiddio bresennol a gweld a yw, mewn rhai achosion, yn anghymesur o ran y costau y mae’n eu gosod ar ffermwyr mewn perthynas â’r buddiannau cyhoeddus sydd i fod i ddeillio ohono mewn meysydd eraill. O ystyried natur anghysbell Brwsel ac anhryloywder y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yno, a phwysigrwydd grwpiau lobïo wrth wneud polisi cyhoeddus, ac anatebolrwydd y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau pwysig, rwy’n credu bod hyn yn rhoi cyfle enfawr i ni yng Nghymru yn awr i ail-lunio—dros gyfnod sylweddol o amser, heb os, gan fod y gwaith yn enfawr, fel y mae fy nghyfaill wedi nodi—yn yr ystyr ei fod yn rhoi cyfle i ni edrych ar amaethyddiaeth yn ei chyfanrwydd, y gyfundrefn gostau yn ogystal â’r gyfundrefn fasnachu. Oherwydd, yn y pen draw, mae hyn oll yn effeithio ar hyfywedd ffermwyr a bywyd cefn gwlad nifer o rai eraill sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth.
Felly, rwy’n llongyfarch fy nghyfaill, fel cadeirydd y pwyllgor, unwaith eto, a’r Aelodau sy’n gwasanaethu oddi tano, ac edrychaf ymlaen at adroddiadau pellach yn y dyfodol.
Diolch i arweinydd fy ngrŵp a llefarydd amaethyddol y blaid am ei gyfraniad. Mae’n llygad ei le wrth nodi bod y polisi amaethyddol cyffredin wedi dominyddu gwariant yr UE ers ymuno yn 1973, a chyn hynny’n wir. Bydd hefyd yn ymwybodol fod cyfran y gwariant wedi disgyn dros y cyfnod hwnnw o yn agos at 90 y cant i tua hanner yn fwy diweddar. Rydym yn siarad am fod eisiau cadw pob ceiniog o arian, ac rydym yn gwneud yr alwad hon a wnawn heddiw i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hynny. Ond rwy’n credu bod angen i ni ddeall hefyd fod yna rai cymhlethdodau ynghlwm wrth y materion hyn. Mae’r duedd gyffredinol mewn gwariant, neu’n sicr, cyfeiriad polisi’r DU mewn trafodaethau PAC, wedi bod tuag at leihau a gostyngiad parhaus yn y gyfran o gyllideb yr UE ar gyfer y maes hwn, a phe baem wedi aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bosibl y gallai Llywodraeth y DU fod wedi parhau i’r cyfeiriad hwnnw. Hefyd, mae cwestiwn a ydym yn sôn am gynnal gwariant mewn arian sterling neu’r ewro. Cyn hir, bydd llawer o ffermwyr yn cael cynnydd sylweddol yn eu taliadau, o bosibl, mewn sterling o leiaf, er y byddant, wrth gwrs, yn poeni am gynaliadwyedd a dyfodol tebygol y taliadau hynny. Rhaid i ni hefyd ystyried beth yw’r diffiniad o ardal amaethyddol y PAC neu bolisi datblygu gwledig a rheoli tir ehangach.
Rwy’n meddwl bod lle hefyd i welliannau a chyfleoedd wrth gymryd pwerau yn y maes hwn yng Nghymru. Yn sicr, mae gan y ffermwyr rwy’n siarad â hwy lawer o bryderon am raddau rheoleiddio a byddent yn cwestiynu a yw’r holl weithgareddau y mae’n ofynnol iddynt eu gwneud yn gwneud synnwyr economaidd mewn gwirionedd neu synnwyr mewn perthynas â’u hamcanion. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael sgyrsiau tebyg gyda ffermwyr, ac o leiaf yn y tymor byr, nid yw’n rhagweld arwyddion helaeth y ceir coelcerth ddadreoleiddio fawr. Rwy’n meddwl mai’r hyn rydym ei wirioneddol angen gan y rhai sy’n beirniadu graddau’r rheoleiddio yw enghreifftiau penodol o reoliadau y dylid eu diddymu, neu bethau y gellid eu gwneud mewn ffordd well neu’n fwy cymesur, ac rwy’n meddwl y byddem yn ddiolchgar am fewnbwn gan yr Aelod ac eraill ar hynny.
Mae’n sôn am gyfleoedd masnachu—oes, mae yna gyfleoedd masnachu. Mae enghraifft Seland Newydd yn un eglur iawn, ac ydy, rwy’n meddwl ar ryw ystyr fod amaethyddiaeth yn Seland Newydd yn llwyddiannus ar hyn o bryd, ond mae’n fath gwahanol iawn o amaethyddiaeth i’r hyn a oedd yn bodoli cyn 1984, ac o ran y rhai a oedd yn y maes cynhyrchu yng nghanol y 1980au, rwy’n meddwl bod llawer o ffermwyr wedi dioddef yn ddifrifol iawn yn sgil y newidiadau hynny, ac ni fydd symud o un system i’r llall yn hawdd ac rwy’n meddwl y byddai’n arwain at golli gwaith difrifol a diboblogi cysylltiedig o bosibl yn ein hardaloedd gwledig.
Ar y cyfan, fodd bynnag, rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod ac eraill am y cyfraniadau rydym wedi’u cael, ac rwy’n meddwl y byddwn i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i wthio’r dadleuon hyn a gwneud y gorau a allwn i Gymru yn y sector hwn, fel mewn sectorau eraill.
Diolch. Mae gennyf ddau Aelod arall sy’n dymuno siarad ar y datganiad hwn, felly a gaf fi ofyn am gwestiwn cryno, ac ateb cryno gan y Cadeirydd, ac fe wnawn le i’r ddwy ohonoch. Jenny Rathbone.
Roeddwn eisiau ymateb i Paul Davies, mewn gwirionedd, i ddweud nad mater gwledig yn unig yw hyn. Mae fy etholwyr sy’n byw mewn etholaeth drefol yr un mor bryderus am ansawdd a chost bwyd ag unrhyw drigolion eraill, felly rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn i ni fynd i’r afael â’r mater hwn mewn modd amserol, gan nad oedd y ffermwyr a bleidleisiodd dros adael yn sylweddoli eu bod o bosibl yn mynd i golli 80 y cant o’u hincwm. Rwy’n credu mai un o’r materion sydd angen i ni eu hystyried yn y dull esblygol, nid chwyldroadol, hwn rydym yn ei weithredu yw bod gadael yr UE yn mynd i wneud llawer o lysiau’n ddrutach, gan fod bron i hanner y llysiau a fwytwn yn cael eu mewnforio. Ac rydym eisoes wedi clywed tystiolaeth—
A ydych yn dod at gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yw: sut rydym yn mynd i droi’r gornel honno, o gofio, ar hyn o bryd, nad ydym ond yn tyfu llysiau ar 617 hectar o dir, sef 0.4 y cant o dir amaethyddol, ac nid oes fawr ddim ohono’n cael taliadau colofn 1. Mae llawer o’r bobl sy’n rhan o’r gweithgaredd llafur-ddwys mewn perthynas â garddwriaeth yn bobl y mae eu dyfodol yn y wlad yn aneglur, am eu bod yn fewnfudwyr Ewropeaidd. Felly, beth y mae Cadeirydd y pwyllgor yn meddwl y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r cwestiynau ynglŷn â diogelwch y cyflenwad bwyd sy’n cael eu gofyn yma, yn ogystal ag iechyd y genedl a chyflogi pobl yng Nghymru yn y dyfodol?
Diolch i’r Aelod am ei chyfraniad. Mae hi’n cynrychioli ei hetholwyr trefol yn fedrus, ac mae’n dod â’r safbwynt hwnnw i drafodaethau’r pwyllgor. O ran garddwriaeth, nid yw’n faes sydd wedi bod o fewn y PAC yn draddodiadol, er bod y fframwaith masnach rydd o fewn yr UE yn golygu bod gennym fewnforion sylweddol iawn, yn enwedig, rwy’n credu, o Ddenmarc a’r Iseldiroedd yn arbennig. Byddai, pe bai’n anos i lafur ddod i mewn i’r wlad i weithio yn y meysydd hynny, byddai pwysau i gynyddu cyflogau i geisio dod â phobl eraill i mewn, ac rwy’n cydnabod yr heriau mewn perthynas â hynny. Mae effaith y bunt hefyd yn debygol o fod yn ffactor. Yn ôl pob tebyg rwy’n meddwl mai’r hyn y bydd cynhyrchwyr Cymru am ei wneud yw canolbwyntio’n arbennig ar gynnyrch gwerth ychwanegol a chynnyrch ar ben uchaf y farchnad—y cynhyrchion organig neu rai lle y gallant gael cadwyn gyflenwi sy’n marchnata ac yn elwa ar y cysyniad o gael llysiau a gynhyrchir yn lleol, gan fy mod yn gwybod bod llawer o etholwyr yr Aelod, fel ein rhai ni ein hunain, yn rhannu ei barn, ac yn croesawu gallu prynu mwy, os nad y cyfan o’u cynnyrch gan ddarparwyr lleol o ansawdd da.
Ac yn olaf, Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau gwestiwn ac fe geisiaf fod yn gryno, Gadeirydd. Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch heddiw, fel un o aelodau’r pwyllgor fy hun, ac rwy’n croesawu’r sylwadau ynglŷn ag edrych ar gyd-destun ehangach ffermio a rôl yr economi wledig, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg yn ogystal. Felly, yn gyntaf, fy nghwestiwn yw: sut y gallwn integreiddio’r ymagwedd ehangach hon yn ein hymchwiliad, fel ein bod yn mabwysiadu ymagwedd wirioneddol amlochrog, sy’n ymestyn y tu hwnt i edrych yn unig ar oblygiadau ariannol amaethyddiaeth fel cysyniad cul? Yn ail, ar ôl cyfarfod â llawer o ffermwyr, gan gynnwys ffermwyr ifanc yn fy etholaeth i, mae yna bryderon am yr agenda sgiliau yn bendant. Gan fod y gyfran o bobl sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth yng Nghymru dros dair gwaith yn fwy na’r hyn ydyw yng ngweddill y DU, sut y gallwn sicrhau’r agenda sgiliau i wneud yn siŵr fod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr eisiau mynd i mewn i’r diwydiant ac aros yno—sut y gallwn sicrhau bod hynny mewn gwirionedd yn sail i’n hymchwiliad ac yn cael ei roi ynghanol y polisi yn y dyfodol?
O ran y cyd-destun ehangach, rwy’n meddwl y cawn gyfle i fabwysiadu ymagwedd fwy trawsbynciol tuag at amaethyddiaeth mewn datblygu gwledig oherwydd y rhyddid polisi a fyddai’n gennym ar ôl gadael yr UE. Rwy’n pwysleisio, unwaith eto, fodd bynnag, ei fod yn mynd i gymryd llawer o amser a gwaith trwm i aelodau ein pwyllgor, ond hefyd o bosibl i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd, wrth ddatblygu’r fframwaith cyfreithiol a gwasgu am y blaenoriaethau a nodir gennym yn y meysydd hyn. Rwy’n meddwl y byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf efallai, er ein bod fel pwyllgor yn cadw meddwl agored o ran yr hyn fydd y camau dilynol posibl, ac a fydd yn adroddiad dros dro neu a ydym yn dechrau ymchwiliad newydd. Rwy’n gwybod ein bod yn edrych ar y diwydiant bwyd yn fwy cyffredinol, gan fod nifer ohonom yn awyddus i integreiddio’r ymagwedd honno yn yr hyn a wnawn ag amaethyddiaeth a datblygu gwledig.
Mae’r Aelod yn ymdrin yn fedrus â’r agenda sgiliau. Rwy’n credu mai un rhwystr i bobl sy’n dod i mewn i’r sector, wrth gwrs, yw pris tir, a’r posibilrwydd o ddatgysylltu cymorth neu ba drefniadau bynnag a allai fod ar ôl gadael yr UE a allai fod â goblygiadau o ran hynny. Cefais fy nharo, yn enwedig ar ein hymweliad â gorllewin Cymru, gan y ffaith fod ffermio yn y gwaed i lawer o deuluoedd ac maent yn teimlo rhwymedigaeth i barhau i ffermio’r tir hwnnw. Felly, hyd yn oed os ydynt ar ymyl y dibyn yn economaidd, mae’n bosibl y byddant yn parhau i wneud hynny, hyd yn oed i’r graddau fod yn rhaid iddynt fenthyg ac efallai y byddant, yn nes ymlaen, yn wynebu risg o golli’r tir am eu bod yn teimlo mai dyna beth y maent yn ei wneud ac mai dyna yw eu hymrwymiad i’w cyndeidiau, i’w teulu ac i’r dirwedd honno. Gyda’n ffocws ar yr ardaloedd mwy ymylol, rwy’n meddwl yr hoffwn ddefnyddio’r cyllid sydd gennym gyda golwg ar gynorthwyo’r bobl hyn a helpu i gynnal y cymunedau, ac edrychaf ymlaen at weld ein pwyllgor yn parhau i weithio tuag at yr amcanion hynny.
Diolch yn fawr iawn.