Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Rwyf hefyd yn croesawu adroddiad sefyllfa byd natur, adroddiad sydd wedi’i lunio ar y cyd gan dros 50 mudiad natur. Mae’r ail adroddiad pwysig yma yn darparu sylfaen dystiolaeth ar sefyllfa ein byd natur ni ac yn darparu sail ar gyfer gwneud rhywbeth am hyn ac ar gyfer gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Fel y dywedodd Simon, nid yw’n gwneud darllen cyfforddus mewn mannau, ond mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar y canfyddiadau sydd yn cael eu nodi yn yr adroddiad.
Mae rhai o’r canfyddiadau yn rhai difrifol iawn. Er bod Cymru yn gartref i dros 50,000 o rywogaethau, mae amrywiaeth y rhywogaethau a hyd a lled cynefinoedd naturiol a lled-naturiol wedi prinhau’n sylweddol, gyda llawer o rywogaethau sy’n bwysig yn ddiwylliannol ac yn ecolegol wedi diflannu’n llwyr. Rwy’n cytuno efo Simon mai un o’r ystadegau mwyaf ysgytwol yn yr adroddiad yw bod un o blith pob 14 o rywogaethau Cymru yn wynebu difodiant. Sut ydym ni’n mynd i egluro i’r genhedlaeth nesaf na fyddan nhw byth yn gweld yr eos—‘nightingale’; bras yr ŷd—‘corn bunting’; neu’r turtur, sef y ‘turtle dove’, yng Nghymru?
Mae gan natur werth cynhenid ynddo’i hun, ac mae hefyd yn hanfodol ar gyfer ein llesiant. Mae cynnal ecosystem iach yn hanfodol er mwyn cynnal ein ffordd o fyw, ac mae amgylchedd naturiol cryf yn darparu sylfaen ar gyfer ein cymdeithas a’n heconomi. Ond, yn ogystal â dangos lle mae’r problemau, mae’r adroddiad hefyd yn rhoi syniad o sut i weithredu. Yng Nghymru, fel ym mhob man arall, mae newid yr hinsawdd wedi arwain at golli cynefinoedd, disbyddu priddoedd, mwy o lifogydd a mwy o sychder. Mae amaethyddiaeth a’r sector amaethyddiaeth yn hollbwysig yng Nghymru, ac mae angen sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r sector wedi’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae awduron yr adroddiad yn galw ar lywodraethau yma ac yn y Deyrnas Unedig i ystyried canfyddiadau’r adroddiad hwn wrth lunio cynlluniau ffermio yn y dyfodol. Mae Deddf yr amgylchedd yn darparu fframwaith ar gyfer torri allyriadau carbon a tharged statudol o dorri allyriadau 80 y cant erbyn 2050, ond mae Plaid Cymru yn cydnabod mai newid hinsawdd ydy’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, ac mae’n rhaid i ni ddal i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif—bod ei pholisïau yn cyfrannu tuag at y targed hwn. Ac mae’n rhaid, fel roedd Simon yn sôn, gweithredu’r Deddfau llesiant cenedlaethau’r dyfodol ac amgylchedd, ac mae’n rhaid i hynny fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth os ydym ni’n mynd i wrthdroi’r dirywiad i’n byd natur.
Felly, mae angen atebion gan Lywodraeth Cymru ar ddau gwestiwn pwysig. Pa wahaniaeth fydd y Deddfau yma yn ei wneud yn sut mae’r Llywodraeth yn gweithredu, gan gynnwys adrannau ar draws y Llywodraeth? A pha wahaniaeth ar lawr gwlad fyddwn ni’n ei weld drwy’r polisïau y mae’r Llywodraeth yn eu gweithredu yn sgil y Deddfau yma? Mae’r fframwaith deddfwriaethol yna yn ei le ar gyfer gwarchod ac ehangu ein bywyd gwyllt—rydym ni rŵan angen gweld gweithredu ar lawr gwlad.