Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Mae’r ddadl hon yn ein hatgoffa o’r heriau sy’n wynebu’r amgylchedd naturiol, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y moroedd a’r cefnforoedd sy’n ffinio â’n gwlad. Y bygythiadau sy’n wynebu’r ecosystemau morol bregus hyn, a’r camau y gallwn eu cymryd i liniaru eu heffaith, fydd canolbwynt fy nghyfraniad heddiw. Wedi’r cyfan, ni ddylem byth anghofio bod dyfroedd tiriogaethol Cymru yn gorchuddio arwynebedd sy’n cyfateb i faint ein gwlad ei hun. Fel y mae ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ yn ein hatgoffa, mae’r moroedd hyn yn gyfoethog mewn amrywiaeth o fywyd morol, mewn safle pwysig ar ffin tri pharth hinsawdd cefnforol ac yn meddu ar amrediad llanw mawr. Mae gwahanol rywogaethau wedi cael profiadau gwahanol dros y cyfnod y bu’r adroddiad yn archwilio. Yn ôl tueddiadau data hirdymor, mae 34 y cant o rywogaethau fertebratau morol a 38 y cant o rywogaethau planhigion morol wedi dirywio. O ran infertebratau morol, mae’r dirywiad hirdymor yn achosi mwy o bryder hyd yn oed, gyda thair o bob pedair rhywogaeth yn cael eu heffeithio, er fy mod yn falch fod y duedd hon yn llai yn y data tymor byr. Mae cymharu ag adroddiad Sefyllfa Byd Natur y DU 2016 yn dangos patrymau tebyg, gyda dirywiad mawr ymhlith infertebratau morol yn arbennig, a rhoddir tystiolaeth i gefnogi hyn unwaith eto. Mae darllen yr adroddiad hwn yng nghyswllt dogfen Cymru hefyd yn awgrymu bod llwyddiant fertebratau morol yn cael ei ysgogi i raddau helaeth gan gynnydd yn niferoedd pysgod.
Mae camau gweithredu cadarnhaol mewn perthynas â chadwraeth yn sicrhau canlyniadau buddiol, fel y mae’r adroddiad yn ei amlygu, ac mae monitro ac ymchwil yn arbennig yn arfau pwysig ar gyfer deall ymddygiad rhywogaethau a mynd i’r afael â materion sy’n codi o ryngweithiadau dynol. Mae’n newyddion da fod y boblogaeth o forloi llwyd sy’n bwysig yn fyd-eang ar Ynys Dewi yn gweld y lefelau uchaf a gofnodwyd o enedigaethau, a bod mesurau eisoes ar waith i wneud yn siŵr na therfir arnynt gan dechnoleg tyrbinau llanw. Mae hyn yn hanfodol, gan ein bod yn dal i ddal i fyny o ran mynd i’r afael ag effaith gweithgareddau dynol eraill ar y moroedd o amgylch Cymru, ac mae’r enghreifftiau a geir yn yr adroddiad yn cynnwys pysgota masnachol anghynaliadwy, datblygu, cyflwyno rhywogaethau anfrodorol a mewnbynnau halogion a maethynnau.
Mae adroddiad y DU hefyd yn sôn am effaith cynhesu byd-eang, gyda newidiadau yn nhymheredd y môr yn arwain at y broblem fod dosbarthiad nifer fawr o rywogaethau i’w weld yn drifftio tua’r gogledd. Mae niferoedd rhywogaethau dŵr oer yn lleihau, ond mae rhywogaethau sydd wedi addasu i fwy o gynhesrwydd ac sy’n symud tua’r gogledd yn aml yn wynebu ffynonellau bwyd nad ydynt yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion.
Bydd gadael yr UE hefyd yn peri heriau sylweddol i’n hymagwedd tuag at bolisi morol. Gosodwyd targed gan gyfarwyddeb fframwaith strategaeth forol yr UE, a grëwyd i wella iechyd ein moroedd, i Lywodraethau weithredu i reoli’r pwysau dynol ar ein dyfroedd er mwyn cyflawni statws amgylcheddol da, a chreu moroedd sy’n iach, yn gynhyrchiol, ac yn fiolegol amrywiol—sy’n hanfodol yng nghyd-destun y ddadl hon. Byddwn yn cefnogi’r alwad gan Cyswllt Amgylchedd Cymru a rhanddeiliaid eraill ar Lywodraeth Cymru i gadw ei huchelgais i gyflawni’r fframwaith strategaeth erbyn 2020, ac yn gobeithio y gallai hyn gael ei integreiddio’n rhan o gynllun morol cenedlaethol Cymru pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno’i chynigion. Yn yr un modd, mae’n rhaid i’r gwaith sydd ynghlwm wrth ardaloedd morol gwarchodedig ystyried ein hymwahaniad oddi wrth Ewrop, a bydd y polisi pysgodfeydd yn drydydd maes polisi y bydd ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio arno, lle y mae’n bwysig ein bod yn sicrhau cydbwysedd cynaliadwy.
Mae gennym ddyletswydd i warchod amrywiaeth ein hamgylchedd morol, ond os nad ydym yn gwneud hynny, gallem hefyd golli cyfleoedd a allai fod yn ddefnyddiol i economi Cymru. Mae ‘Future Trends in the Celtic Seas’, adroddiad newydd pwysig a gyhoeddwyd heddiw gan WWF, yn awgrymu bod y moroedd gyda’i gilydd yn werth £15 biliwn y flwyddyn i economïau’r DU, Iwerddon a Ffrainc ac yn cynnal tua 400,000 o swyddi. Rwyf wedi siarad o’r blaen am yr her enfawr o oresgyn ein hanhwylder diffyg natur, lle y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ystyried bod ganddynt gysylltiad gwannach â byd natur na’u cyfoedion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, neu hyd yn oed Llundain, a byddwn yn gofyn i ni ystyried eto sut y gallem gysylltu’r rhain â dealltwriaeth ddifrifol o bwysigrwydd ein hamgylchedd morol.
Mae’r adroddiad hwn yn rhybudd o’r angen i ni wneud mwy, ond fel y mae David Attenborough yn ei ddweud yn y rhagair i adroddiad sefyllfa byd natur y DU, dylai hyn roi gobaith i ni hefyd. Rhoddwyd camau ar waith yn dilyn cyhoeddi adroddiad 2013, ac rwy’n gobeithio y bydd mesurau clir yn dilyn o hyn yn eu tro.