7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur 2016 Cymru’

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 9 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:38, 9 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn gallu cymryd rhan yn y ddadl i Aelodau unigol heddiw, a hoffwn drosglwyddo ymddiheuriadau David Melding nad yw’n gallu bod yma i siarad yn y ddadl. Mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn ddarn allweddol o dystiolaeth i’n helpu i ddeall pa gamau y gallwn eu cymryd i amddiffyn a gwarchod ein byd natur a’n hecosystemau gwerthfawr, a bydd yn ddarn allweddol o dystiolaeth i’n helpu i graffu ar waith Llywodraeth Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn benodol ar weithrediad Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a chyrhaeddiad ac effaith Deddf yr Amgylchedd (Cymru).

Rydym wedi siarad eisoes—rhai o’r cyfranogwyr eraill yma—am y nifer o ystadegau y mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn tynnu sylw atynt: y dirywiad yn ein rhywogaethau, y rhywogaethau â blaenoriaeth sydd wedi eu colli, a’r rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol. Pan fyddwn yn sôn am rywogaethau, byddwn yn aml yn siarad am anifeiliaid, ond wrth gwrs mae’r holl blanhigion, y glöynnod byw a’r pryfed ar y ddaear yn gwbl hanfodol i gynnal ein hecosystem. Fe gawsom beth newyddion da gan Vikki Howells, a soniodd am sefyllfa’r morloi llwyd, ac wrth gwrs mae niferoedd belaod coed wedi cynyddu ac mae hynny i’w groesawu’n fawr iawn. Ond mewn gwirionedd rwy’n pryderu mwy ynglŷn â’r sefyllfa fyd-eang rydym ynddi nag am yr hyn sydd yn yr adroddiad sefyllfa byd natur.

Mae nifer yr anifeiliaid gwyllt sy’n byw ar y Ddaear yn mynd i ostwng dwy ran o dair erbyn 2020, ac mae hyn yn rhan o ddifodiant torfol sy’n dinistrio’r byd naturiol rydym i gyd yn dibynnu arno. Plymiodd poblogaethau anifeiliaid dros 58 y cant rhwng 1970 a 2012. Erbyn 2020, byddwn ni, fodau dynol, a’n ffordd o fyw wedi lladd oddeutu 67 y cant o holl anifeiliaid y Ddaear. Mae honno’n etifeddiaeth ofnadwy i ni ei gadael i’n plant. Rydym i gyd yn gwybod bod y gostyngiad mawr yn niferoedd anifeiliaid yn deillio o ffermio, torri coed, effaith pobl—a 15 y cant yn unig sy’n cael ei ddiogelu ar gyfer natur—a physgota a hela anghynaliadwy. Mae’n mynd ymlaen ac ymlaen. Afonydd a llynnoedd yw’r cynefinoedd sy’n dioddef fwyaf, gyda phoblogaethau anifeiliaid i lawr 81 y cant ers 1970. Mae hyn i gyd o’n herwydd ni, oherwydd echdynnu dŵr gormodol, oherwydd ein llygredd, oherwydd yr argaeau a adeiladwn. Mae’r holl bwysau hyn yn cael eu chwyddo gan gynhesu byd-eang, sy’n newid yr ystodau y gall yr anifeiliaid gwerthfawr hyn sy’n helpu i gynnal ein hecosystemau fyw o’u mewn.

Ceir rhywfaint o newyddion da. Nid am ein morloi’n unig, nid am ein belaod yn unig, ond credir bod niferoedd teigrod yn cynyddu ac mae’r panda mawr wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr o rywogaethau mewn perygl yn ddiweddar. Rwy’n crybwyll hyn—rwy’n siarad am y sefyllfa fyd-eang—am fy mod eisiau cadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd beth bynnag a wnawn yma yn ein gwlad fach, yn ein ffordd fach, yn cyfrif. Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd ni allwn ddathlu ein hymdrechion eto. Mewn ychydig bach mwy o newyddion drwg i’r amgylchedd byd-eang, mae gennym ddarpar Arlywydd newydd sydd wedi dweud,

Cafodd y cysyniad o gynhesu byd-eang ei greu gan ac ar gyfer y Tsieinïaid er mwyn gwneud gweithgynhyrchu’r Unol Daleithiau yn anghystadleuol.

Mae’n destun pryder mawr fod darpar arweinydd y byd rhydd â’r agwedd hon tuag at fater mor ddifrifol. Os yw’n tynnu Unol Daleithiau America allan o gytundeb Paris, bydd yn bygwth ein holl ymdrechion i sefydlogi newidiadau tymheredd ac i ddechrau datrys newid hinsawdd. Dyna pam y mae angen i ni wneud ein rhan. Rwy’n teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â hyn, nid yn unig er ein mwyn ni, nid yn unig er mwyn yr anifeiliaid ar ein planed—eu planed, yr ‘ein’ mawr—ond rwy’n poeni am ddyfodol fy mhlant, am ddyfodol eich plant, a’n holl blant. A fydd ganddynt blaned ar ôl i fyw arni? Rwy’n poeni’n wirioneddol am eu dyfodol.